TGAU newydd: Llai o arholiadau a mwy o dechnoleg

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Emyr George bod disgyblion eisoes wedi dechrau cyfrannu syniadau, wrth i Gymwysterau Cymru ofyn am farn athrawon, rhieni a chyflogwyr

Bydd cymwysterau TGAU newydd i Gymru yn rhoi llai o bwyslais ar arholiadau, ac yn ceisio cynyddu'r defnydd o dechnoleg digidol.

Mae Cymwysterau Cymru yn gofyn am farn athrawon, disgyblion, rhieni a chyflogwyr am y cyrsiau newydd fydd yn dechrau cael eu dysgu o 2025.

Fel rhan o'r ymgynghoriad mae yna gais am adborth am enwau rhai o'r cymwysterau - gan gynnwys TGAU Y Gwyddorau a Chymraeg Craidd.

Mae'r diwygiadau'n cynnwys cynlluniau dadleuol i uno iaith a llenyddiaeth yn un TGAU, a dod â'r tri phwnc gwyddoniaeth gyda'i gilydd mewn un cymhwyster.

Cyfle i roi barn

Pan ddaeth y cynlluniau yna i'r fei y llynedd, roedd rhai yn poeni y gallai danseilio arbenigedd yn y pynciau.

Ond mae Cymwysterau Cymru wedi dweud y bydd yn helpu ehangu'r hyn mae disgyblion yn ei ddysgu.

Daw'r newidiadau yn sgil y Cwricwlwm i Gymru gafodd ei gyflwyno'n ffurfiol mewn ysgolion cynradd a tua hanner ysgolion uwchradd ym mis Medi.

Bydd yn cael ei ehangu i bob disgybl 3 i 16 oed dros y blynyddoedd nesaf.

Mae'r ymgynghoriad yn holi barn am gynnwys y cymwysterau newydd a'r ffyrdd o'u hasesu.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth y cwricwlwm newydd i rym fis diwethaf

Yn gyffredinol, mae yna lai o bwyslais ar arholiadau traddodiadol yn ôl y rheoleiddiwr.

Y bwriad yn y TGAU Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg a Iaith a Llenyddiaeth Saesneg newydd yw bod 60% yn cael ei asesu drwy arholiad, yn hytrach na'r 80% ar hyn o bryd.

Fe fydd chwarter y TGAU Gwyddorau yn waith cwrs.

Ond bydd y TGAU Mathemateg newydd yn seiliedig ar arholiadau'n gyfan gwbl, er mae'n bosib y gallai'r rheiny ddigwydd ar adegau gwahanol drwy'r cwrs.

'Newid yn hanfodol'

Mae Ysgol Uwchradd Llanishen yng Nghaerdydd yn un o'r ysgolion uwchradd sydd wedi penderfynu cyflwyno'r cwricwlwm newydd i'w disgyblion ifancaf ym Mlwyddyn 7 eleni

Roedd gan ysgolion uwchradd y dewis i'w ddechrau ym mis Medi 2022 neu 2023.

Yn ôl y pennaeth, Sarah Parry, mae newid TGAU yn "hanfodol" i sicrhau bod egwyddorion y cwricwlwm yn cael eu gwireddu.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sarah Parry, mae'n bwysig i 'beidio rhoi ein hwyau i gyd mewn un fasged'

"Ry'n ni angen cymysgedd cytbwys o ddulliau asesu, gyda llai o bwyslais ar arholiadau," meddai.

"Os oedd Covid wedi dysgu unrhyw beth i ni o ran asesu mae e i beidio roi ein hwyau i gyd mewn un fasged.

"Os ydyn ni'n dibynnu ar arholiadau yn unig ar ddiwedd Blwyddyn 11 rydyn ni'n creu un pwynt yn y flwyddyn lle mae modd methu."

Trafod gyda chyflogwyr

Mae technoleg ddigidol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhai asesiadau ymarferol yn barod, ond mae'r cynlluniau'n argymell mwy o asesiadau ar sgriniau.

Ond mae hefyd yn holi barn am ba mor ymarferol fyddai hynny.

Dywedodd Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol i Uchelgais Gogledd Cymru, bod sgyrsiau gyda chyflogwyr am yr hyn maen nhw eisiau ei weld gan bobl ifanc yn debyg ym mhob sector.

"Dydy'r bobl ifanc sydd yn mynd mewn i'r gweithle ddim efo'r sgiliau yn barod am waith," meddai, "sgiliau cyfathrebu, sgiliau i allu meddwl yn gritigol, sgiliau i ddatrys problemau."

Disgrifiad o’r llun,

Does gan bobl ifanc ddim y "sgiliau yn barod am waith" meddai Sian Lloyd Roberts

Mae'n obeithiol am y cwricwlwm newydd a'r cynigion ar gyfer y TGAU newydd, ac yn "edrych 'mlaen" i weld beth yw sgiliau'r bobl ifanc ar ddiwedd y daith.

"Beth sy'n bwysig yw bod yr elfen sgiliau o'r TGAU newydd yn mynd ar hyd y pynciau i gyd a bod e ddim just yn un pwnc ar wahân," meddai.

'Angen mwy o brofiad gwaith'

Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd Ifan Glyn, pennaeth Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yng Nghymru, bod angen i gymwysterau gyd-fynd â'r newidiadau oedd wedi digwydd yn y byd gwaith dros y blynyddoedd, a bod anghenion cyflogwyr wedi newid erbyn hyn.

"Mae 'na broblem fawr o ran parodrwydd disgyblion ar gyfer y byd gwaith.

"Mae cyflogwyr o fewn y diwydiant adeiladu ddwy waith yn fwy tebygol o fod yn anfodlon 'efo parodrwydd disgyblion ar gyfer y byd gwaith nag unrhyw ddiwydiant arall.

"'Efo cymwysterau fel maen nhw mae 'na ormod o raniad rhwng addysg academaidd ac addysg alwedigaethol a 'dan ni angen cael gwared ar y rhaniadau yna a plethu'r ddwy.

"Mi fasan ni'n lecio gweld mwy o gymwysterau yn cyd-fynd â beth sy'n digwydd yn ymarferol o fewn y byd gwaith yn hytrach na'u bod nhw'n gweithio mewn theori."

Roedd bwlch rhwng y gwaith theori ac "ymarferoldeb gwneud defnydd o'r theori yna o fewn y byd gwaith", meddai.

"Mae angen lot mwy o brofiad gwaith. Ar hyn o bryd y dosbarth ydy popeth a fel dwi'n ei gweld hi mae angen lot mwy o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a mwy o gefnogaeth ar fusnesau i allu cynnig mwy o bofiad gwaith."

Mae Cymwysterau Cymru yn gofyn am adborth am gynnwys 26 TGAU gan gynnwys Bwyd a Maeth, Iechyd ac Addysg Gorfforol, Peirianneg, a Ffilm a'r Cyfryngau Digidol.

Mae rhai o'r penderfyniadau, gan gynnwys cael gwared ar dri TGAU ar wahân i Ffiseg, Bioleg a Chemeg a chael un cymhwyster - TGAU Y Gwyddorau - yn eu lle, wedi bod yn ddadleuol.

Yn ogystal, mae yna gais am adborth am TGAU Craidd Cymraeg - y cymhwyster fydd yn disodli Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Pynciau cysylltiedig