"Mae rygbi'n rhan annatod o'm myd i."

  • Cyhoeddwyd
delyth

Ar 8 Hydref mae cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd Merched yn dechrau'n Seland Newydd ac mae'r Gymraes Delyth Morgan-Coghlan yn un o'r rhai sy'n trefnu'r twrnament.

Mae gyrfa Delyth wedi ymwneud â rygbi ers blynyddoedd, yn chwaraewraig ei hun cyn hyfforddi a gweithio ar ochr weinyddol o'r gêm. Roedd hi hefyd i'w gweld yn actio ar deledu a llwyfan yng Nghymru ar un adeg.

Roedd cystadleuaeth Cwpan y Byd yn wreiddiol i fod i gael ei chynnal yn 2021, ond oherwydd pandemig Covid-19 fe'i gohiriwyd am 18 mis, fel esbonia Delyth: "O'n i ddim yn gweithio ar y gystadleuaeth, ond wnaethon nhw benderfynu bo nhw am roi un flwyddyn arall iddo fe a'i chynnal ym mis Hydref 2022.

"Ar yr un pryd fe roedd y ddynes oedd yn edrych ar ôl gwasanaethau'r tîm (team services manager) yn gweithio i'r Crysau Duon, ac yn sydyn iawn roedd hi mewn sefyllfa lle roedd rhaid iddi fynd yn ôl i'w swydd llawn amser gyda'r Crysau Duon. Daeth y cyfle lan i rywun lenwi'r rôl yma, ac fel o'n i'n digwydd o'n i yn y lle iawn ar yr adeg iawn."

Cefndir mewn rygbi

"Mae'n hanes i gyda rygbi'n mynd nôl tua 30 mlynedd neu fwy. 'Nes i wylio Cwpan y Byd cyntaf yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd yn 1991 - o'n i ddim yn chwarae ar y pryd ond o'n i'n gwybod mod i moyn gwneud ers o'n i'n blentyn.

"Tua tri mis wedi'r gystadleuaeth yna o'n i digwydd bod yn seiclo drwy Gerddi Soffia, a weles i griw o fenywod yn ymarfer chwarae rygbi. Sefes i wrth y ffens gyda fy meic jest yn gwylio a meddwl pwy yw'r bobl 'ma? Daeth yr hyfforddwr draw a gofyn os o'n i am ymuno, gan ddweud mai hon oedd sesiwn ymarfer gyntaf erioed Clwb Rygbi Menywod Caerdydd."

Disgrifiad o’r llun,

Delyth yn ystod ei dyddiau chwarae rygbi

"'Nes i gynrychioli Cymru yn 1991/92 ac yn rhan o'r garfan am wyth mlynedd. Ar ôl hynny nes i ymddeol a dod yn gadeirydd Undeb Rygbi Merched Cymru. Wedyn 'nes i grwydro'r byd a ffeindio'n hunan yn Seland Newydd, a dwi bellach yma ers 17 mlynedd. 'Nes i hyfforddi am gyfnod yn Auckland, ac yna dod yn rhan o ddatblygiad y gêm yn Seland Newydd."

Gêm amatur

"Pan o'n i'n chwarae rygbi dros Gymru odd hi'n gêm hollol amatur - roedd rhaid ni dalu am ein crys, shorts a sanau chwarae, a theithio i lefydd ble roedden ni'n chwarae. O'n i hefyd yn actio ar y pryd ar S4C ac yn y theatr, felly fel rhywun oedd yn gweithio'n llawrydd roedd rhaid ennill arian i dalu'r morgais. Roedd e'n benderfyniad mor anodd, ond mewn gwirionedd doedd gen i ddim lot o ddewis - gymaint o'n i moyn bod 'na, os oedd fy nghytundeb i yn dweud bo fi'n gorfod gwneud fy ngwaith dyna o'n i'n gwneud. Felly fe wnes i ddim chwarae yn Cwpan y Byd yn 1994 na 1998, oherwydd y sefyllfa 'na.

"Erbyn imi gyrraedd Seland Newydd o'n i wedi ymddeol digon o weithie, o chwarae rygbi 15 bob ochr. Ond dwi wedi bod yn chwarae rygbi cyffwrdd dros y blynyddoedd yn Seland Newydd, ac un o'r bobl dwi dal mewn cysylltiad efo yw Dave Swain, dyn o Seland Newydd a sefydlodd rygbi cyffwrdd yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 12 tîm yn cystadlu ar gyfer y tlws yma, gyda'r rownd derfynol yn Eden Park ar 12 Tachwedd

Mae Delyth o'r farn bod safon rygbi merched wedi gwella yn aruthrol dros y blynyddoedd diweddar.

"Mae'r safon yn aruthrol. Ni'n sôn am y cyfnod yn fy meddwl i sydd wedi datblygu gyflyma yn rygbi menywod - hyd yn oed dros y dair blynedd d'wetha. Ni'n sôn nawr am sefyllfa lle mae o leia' chwech o'r timau yng Nghwpan y Byd 'leni gyda chwaraewyr sydd wedi eu cytundebu ac yn cael eu talu i fod yn chwaraewyr llawn amser.

"Mae'r gwahaniaeth yn dangos, ble mae nhw'n cael canolbwyntio ar yr unig beth sy'n bwysig i nhw ar y funud - chwarae rygbi. Mae gweld hynny yn lefel eu sgil nhw, ffitrwydd, agwedd tuag at fod yn chwaraewyr proffesiynol - mae wedi newid tu hwnt i be oeddwn i'n dychmygu bydde' rygbi merched wedi gwneud pan o'n i'n chwarae blynyddoedd yn ôl."

Bywyd yn Seland Newydd

Mae Delyth yn gweld llawer o debygrwydd rhwng bywyd yn Seland Newydd a bywyd nôl yng Nghymru.

"Mae eistedd mewn stadiwm fel Eden Park, sef y stadiwm fwyaf adnabyddus yn Seland Newydd yn ysbrydoliaeth i mi. Mae rygbi'n rhan annatod o'm myd i ac mi fydd e bob dydd o'n mywyd i tan dwi'n marw.

"Un o'r rhesymau dwi'n ei ffeindio hi mor hawdd i fyw yn Seland Newydd, ac wedi bod 'ma am flynyddoedd nawr, yw bod y tebygrwydd rhwng Cymru a Seland Newydd o ran rygbi yn anhygoel. Mae'n bwysig i'r genedl os yw'r Crysau Duon neu'r Black Ferns yn gwneud yn dda, mae'r genedl yn hapus, ac os nad yw nhw'n gwneud yn dda maen nhw'n teimlo'n drist a thorcalonnus - ac mae hynny'n fy atgoffa i o adref ac sut ni'n teimlo."

Disgrifiad o’r llun,

Yr hwdi perffaith i gynrychioli Delyth

Seren yn symud i Gymru

Roedd Delyth yn actio ar nifer o gyfresi teledu yn ystod y 90au, ac mae ei merch Seren wedi cymryd diddordeb yn y celfyddydau hefyd.

"Mae 'na eironi achos mae fy merch i Seren, sy'n 16 mlwydd oed, newydd symud i fyw i Ben-y-bont ar Ogwr, sef y dref lle ges i'n magu ac mae hi'n byw gyda'n nhad i, ei thad-cu hi. Mae hi'n gwneud diploma mewn performing arts yng Ngholeg Pen-y-Bont ar Ogwr.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl cael rhan yn y ffilm 'Y Dyn Wnaeth Ddwyn' y Dolig aeth Delyth ymlaen i actio ar gyfresi fel 'Dinas' a 'Glan Hafren'

"Cafodd hi (Seren) ei geni yng Nghymru, ond ei magu am 15 mlynedd yn Seland Newydd. Dwi byth wedi ei phwsio hi i'r celfyddydau na rygbi, oherwydd o'n i ddim eisiau hi fod yn rhywbeth o'n i am iddi fod, o'n i am iddi hi greu ei phersonoliaeth ei hunan. Mae hi'n mwynhau rygbi - doedd gen hi ddim lot o ddewis i fod onest - ac fe 'nath hi chwarae nes oedd hi'n 15.

"Mae ganddi acen od oherwydd fi, ac ma'i thad hi'n Kiwi. Ond mae hi hefyd wedi ei magu gyda fi'n siarad Cymraeg gyda hi bob dydd, a felly mae hi'n deall bob gair sy'n cael ei ddweud ac yn siarad Cymraeg gyda'i thaid ym Mhen-y-Bont."

Cwpan y Byd 2022

Gyda safon gêm y merched yn cryfhau gymaint yn ddiweddar mae hi'n argoeli i fod yn dipyn o bencampwriaeth yn ôl Delyth:

"Dydi merched Lloegr heb golli mewn 25 gêm, sydd yn well record nac unrhyw dim rygbi yn y byd - mae'n aruthrol. Ond fydden i ddim yn diystyru ambell i dîm arall fel Ffrainc a'r Black Ferns i bwsho nhw... dim ond un cais ma'n cymryd weithiau i newid pethau mewn gêm Cwpan y Byd, mae'n gyfnod cyffrous ofnadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Delyth gyda Anna Richards (canol) sy'n gyn-chwaraewr i'r Black Fern a aeth i dair Cwpan Byd. Ar y dde mae cyd-weithiwr Delyth, Jo O'Sullivan o Iwerddon, a wnaeth hefyd chwarae mewn tair Cwpan y Byd

Mae Cymru yn yr un grŵp a Seland Newydd, felly a fydd hyn yn achosi penbleth i Delyth?

"Does 'na ddim amheuaeth yn fy nghalon i ble mae nghefnogaeth i'n mynd. Allen i fyw oddi cartref am weddill fy mywyd a fydden i dal yn gorfod cefnogi Cymru bob dydd. Mae e jest yn annatod yn ran ohona i, mae'n acen i hyd yn oed eitha' amlwg i bawb. Mae cael Cymru mas 'ma, cael edrych ar eu holau nhw, mae'n sbesial iawn.

"Dwi jest eisiau nhw wneud y gore allen nhw, dwi isie eu cefnogi nhw, eu helpu nhw, a dwi isie 'neud mwy ar eu cyfer nhw 'na unrhyw un arall!"

Disgrifiad o’r llun,

Delyth gyda gwirfoddolwyr a ffrindie rygbi yn helpu i groesawu'r timau yn y maes awyr

"Mae 'na ddau grŵp anodd, ac mae gan Gymru yn sicr un ohonyn nhw; Seland Newydd, Awstralia, Cymru a'r Alban - mae hwnna yn fodd i fyw o ran cystadleuaeth. Ar y penwythnos fydd Awstralia'n chwarae Seland Newydd, allai ddim gweld Awstralia'n ennill os dwi'n onest.

"Ma'r Black Ferns ar dân, ac yn cael eu hyfforddi gan yr hyfforddwyr gorau yn y byd - dim jest yr hyfforddwyr gorau yn rygbi merched, ond yr hyfforddwyr gorau yn y byd. Wayne Smith yw'r cyfarwyddwr rygbi, ac roedd e'n ddirpwy i Graham Henry pan enillodd y Crysau Duon Cwpan y Byd yn 2011.

"Mae Wayne Smith wedi dod â Graham Henry a Mike Cron i fewn - tîm hyfforddi allet ti roi gyda unrhyw garfan yn y byd a bysa pobl yn dweud mai dyma'r hyfforddwyr gorau bosib. Ac felly mae hynny'n rhoi mantais enfawr i Seland Newydd ar y foment mae nhw angen e fwyaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wayne Smith a Graham Henry, a fydd yn gobeithio arwain y Black Ferns i godi'r tlws ar 12 Tachwedd.

"Mae gen ti'r Alban a Chymru sy'n yr un grŵp. 'Nath Cymru guro'r Alban mewn gêm agos ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, ac felly fe all honna fynd yr un ffordd neu'r llall. Dydyn ni ddim yn gwybod be all Awstralia wneud yn erbyn y timau yma ac fe all y tîm yn nhrydydd safle'r grŵp fynd drwodd i'r chwarteri."

Beth bynnag fydd ffawd Cymru yn y gystadleuaeth mae'n deg dweud bod hi'n argoeli i fod yn bum wythnos hynod brysur i Delyth a'i thîm.

Hefyd o ddiddordeb: