Y ffotograffydd o Bontypridd sy'n arloesi ym myd ffasiwn

  • Cyhoeddwyd
Lowri CooperFfynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Y ffotograffydd Lowri Cooper o Bontypridd

Mae'r ffotograffydd ifanc o Bontypridd, Lowri Cooper, yn un i'w gwylio.

A hithau ddim ond yn 24 oed mae hi eisoes wedi cael cyhoeddi ei lluniau mewn pentwr o gylchgronau ffasiwn adnabyddus gan gynnwys Wallpaper*, Vogue Italia, i-D, Dazed, WWD, Numéro Berlin, Dover Street Market, Wonderland a The WOW Magazine.

Mae hi wedi gweithio gyda chwmnïau fel Chanel, Louis Vuitton a Christopher Kane ac wedi tynnu llun o'r canwr enwog Nile Rogers.

Mae ganddi arddangosfa arbennig yn ffenest siop Selfridges fel rhan o'u prosiect Superfutures 2022 sy'n arddangos gwaith rhai o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous y byd.

Ar ôl astudio Cyfathrebu Ffasiwn ym Mhrifysgol Brighton mae hi bellach yn byw yn Llundain ar ôl iddi wneud cwrs meistr mewn Delwedd Ffasiwn yn Central St Martins.

Dyma flas ar feddylfryd y ferch tu ôl i'r lens.

Ffynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Un o luniau Lowri o Wythnos Ffasiwn Llundain, gwanwyn a haf 2023

Dwi'n cael fy ysbrydoli gan...

Gelf avant-garde gan gynnwys sculpture, celfyddyd perfformio, a delweddau llonydd a symudol - yn enwedig gweithiau sy'n creu subvert reality trwy ffotograffiaeth.

Dwi'n meddwl mai ffotograffiaeth yw'r ffordd i fi archwilio'r byd o fy nghwmpas i a chael gwerthfawrogi'r pethau sy'n cael eu methu yn ein bywyd dyddiol.

Dwi'n hoffi jest canolbwyntio ar fod yn y byd, bod yn observant a bod yn bresennol a jest gadael pethau i ddigwydd.

Mae'r syniadau'n ffurfio o brofiadau bob dydd, dillad, manylion, a breuddwydion hefyd.

Ffynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith gyda'r dylunydd ffasiwn enwog Robert Wun (chwith). Ar gyfer Wythnos Ffasiwn Llundain (dde).

Mae'n anodd diffinio'r gwaith ond…

Dwi'n meddwl dwi eisiau i bobl feddwl ei fod yn ddiddorol. Dwi'n hoffi pan mae stori yn ambiguous ac mae'n gorfodi person i gwestiynu.

Dwi'n aml yn teimlo fy mod isio i bobl deimlo yn rhyfedd neu yn anghyfforddus ond efallai mai jest y syniad o gwestiynu a rhoi ffordd wahanol o feddwl sy'n diddori fi.

Mae surrealism yn rhywbeth sydd yn ysbrydoli fi, yn enwedig 1930 surrealism. Artistiaid fel Man Ray, Dora Maar a Louise Bourgeois, a modernists fel Georgia O'Keeffe - dwi'n hoff iawn o'i defnydd o liw. Ar ôl astudio ffasiwn rydw i hefyd yn tynnu ysbrydoliaeth gan Richard Avedon a Tim Walker.

Ffynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Dover Street Market

Pan oeddwn yn ifanc…

Roeddwn i'n aml yn gwylio fy Mam-gu yn braslunio a phaentio watercolours.

Mae'n rhywbeth sydd yn agos at fy nghalon oherwydd cafodd Mam-gu byth y cyfle i fod yn artist. Yn byw yn lle rydyn ni'n byw ym Mhontypridd bydde hi byth wedi cael y cyfle na'r arian i fynd i ysgol gelf.

Ffynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddiad Glam MAC Cosmetics HIV Vigil (chwith). Gwaith gyda'r dylunydd Stephen Jones (dde)

Felly i fi mae'n bwysig cymryd pob cyfle sydd yn dod ata'i.

Dwi yn teimlo fel fy mod yn gwneud hi yn falch ac yn gwneud rhywbeth na gafodd hi'r cyfle i wneud. Dwi'n ffonio hi lot ac yn siarad gyda hi fel ei bod yn gallu byw hyn trwy fi.

Ffynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Un o'i lluniau ar gyfer Superfutures 2022 (chwith). Hunanbortread (dde)

Mae proses creu fi…

Yn eithaf organic, mae e'n dod yn eithaf naturiol. Dwi ddim yn meddwl mewn ffordd broffesiynol.

Mae'r gwaith fel arfer yn dechrau gyda'r ymchwil, gyda pobl a sgyrsiau gyda pobl. Dwi'n meddwl mae pobl yn rhan mawr o'r broses. Dwi'n hoff iawn o fod yn y llyfrgell ac edrych ar ffilmiau hefyd.

Ffynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Chanel

Ond mae'n gallu bod yn anodd oherwydd, er enghraifft, wythnos diwethaf roedd fy ffrind wedi gofyn wrtha'i os dwi eisiau saethu stori i Louis Vuitton a bod rhaid iddo gael ei wneud mewn diwrnod.

Mae'n rhaid i ti bigo fyny'r camera a meddwl yn syth. Nes i wneud hwnna yn y gegin a defnyddio'r blinds fel y backdrop. Roedd e yn very minimalistic!

Ffynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Llun gymerodd Lowri o'r canwr enwog Nile Rogers ar gyfer cylchgrawn Dover Street Market

Fel merch o dref fach…

Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i o gwmpas y bobl 'ma i gyd ac yn cyfarfod pobl fel Nile Rogers.

Mae Dover Street Market yn cael digwyddiadau mawr a partion enfawr i bobl enwog. Mae'r guestlist yn bobl enwog o'r byd ffasiwn a cerddoriaeth a dyma fi, o Bontypridd, yn tynnu lluniau ohonyn nhw. Mae'n rili cyffrous gweld sut mae'r bobl 'ma yn byw.

Gyda Chanel… dwi'n meddwl mai dyma'r foment cyntaf i fi fod yn falch iawn o rhywle dwi wedi cyrraedd.

Ffynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith y ffotograffydd i Chanel Beauty ar gyfer cylchgrawn Wallpaper

Nes i saethu'r brif stori harddwch i Wallpaper* mewn collaboration gyda Chanel Beauty ym Mehefin 2022, a dwi hefyd wedi saethu'r brif storI ffasiwn ar gyfer rhifyn mis Hydref - dwi'n teimlo mor gyffrous iddo fe fod ar y silffoedd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, dwi hefyd wedi gweithio gyda'r steilydd enwog Gareth Pugh yn dal digwyddiadau elusennol fel MAC Viva Glam HIV Virgil yn Carnaby St ac arddangosfa We Exist yn The Koppel Project Hive.

Mae'r gwaith hwn yn bwysig iawn i mi, mae dogfennu'r digwyddiadau hyn yn aml yn emosiynol, mae'n bwysig i mi helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu gweld.

Ffynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Arddangosfa Lowri yn ffenest Selfridges

Gyda Selfriges mae hwn yn rili cyffrous oherwydd mae'r window display yn cael ei ddangos tan fis Hydref. Mae'n cŵl achos mae e reit drws nesaf i'r prif ddrws a mae'n canolbwyntio ar artistiaid rhyngwladol ac up and coming.

Mae'n fyd newydd…

Ac yn fyd doeddwn i byth yn disgwyl i fod yn rhan ohonno. Mae'n mindblowing pan dwi'n meddwl amdano fe.

Dwi mor lwcus am y cyfleoedd yma. Dwi yn cymryd pob diwrnod fel mae'n dod.

O ran breuddwyd... yn ddelfrydol, byddai gallu byw yn Llundain yn gyfforddus a tynnu lluniau o bethau hardd yn anhygoel.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig