Apêl o'r newydd wedi darganfyddiad cocên ar draeth

  • Cyhoeddwyd
Traeth Borth
Disgrifiad o’r llun,

Ddydd Mercher fe welwyd swyddogion yn patrolio traethau lleol

Mae apêl am wybodaeth wedi ei lansio wrth i swyddogion heddlu barhau i archwilio traethau ar ôl darganfod 'swm sylweddol' o gocên yng Ngheredigion.

Fore Sadwrn daeth cerddwyr o hyd i nifer o fagiau du wedi eu clymu ar draeth Tan-y-Bwlch ger Aberystwyth.

Wrth i'r heddlu ymchwilio i sut y cafodd "maint mor anaferol o uchel" o'r cyffur ei olchi fyny, mae ymholiadau yn parhau.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y pecynnau - credir i fod yn cynnwys y cyffur - wedi eu canfod mewn dau safle.

Ddydd Mercher roedd swyddogion yn cynnal patrolau o draeth Borth i fyny at Ynys Las, gyda dim sicrwydd bod yr holl becynnau a gafodd eu gollwng i'r môr wedi cyrraedd y lan.

Disgrifiad o’r llun,

Heddlu ar draeth Borth, ger Aberystwyth, ddydd Mercher

Gyda mwy o ragolygon o dywydd gwael, mae swyddogion o dde Cymru hefyd wedi bod yn defnyddio beiciau cwad i chwilio ar hyd y draethlin.

Apêl o'r newydd

Wrth i Wylwyr y Glannau hefyd gynorthwyo'r ymdrechion, mewn apêl gofynnodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ar unrhyw un a welodd unrhywbeth amheus i gysylltu â'r heddlu.

Disgrifiad,

"Syndod" wedi i gyffuriau gael eu canfod ar draeth

"Mae swyddogion yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys i sefydlu o ble y daeth y llwyth yn ogystal â'r derbynwyr arfaethedig," dywedon nhw mewn datganiad.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn anarferol, ond gwyddom mai dyma un dull y mae grwpiau troseddau trefniadol yn eu ddefnyddio i drosglwyddo cyffuriau ar y môr.

"Hoffem ailadrodd apeliadau i'r cyhoedd os ydyn nhw'n dod o hyd i unrhyw beth amheus ar y traethau y dylen nhw gysylltu â'r heddlu ar unwaith ar 101."

Pynciau cysylltiedig