Cyhuddo dyn o lofruddio dyn lleol arall ym Mwcle
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 24 oed o Fwcle, Sir Y Fflint wedi ymddangos o flaen ynadon wedi i'r heddlu ei gyhuddo o lofruddio dyn arall.
Bu farw Steven Wilkinson, 23, ar ôl cael ei drywanu mewn ymosodiad yn Precinct Way y dref am 22:30 nos Fawrth.
Mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug, fe gadarnhaodd Jamie Scott Mitchell ei enw, cyfeiriad a dyddiad geni, ac fe ddywedodd ei gyfreithiwr ei fod yn bwriadu pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad o lofruddiaeth.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth.
Mae teulu Mr Wilkinson wedi ei ddisgrifio fel person oedd "mor frwdfrydig" am bopeth mewn bywyd, gan ddweud bod ei farwolaeth "wedi gadael gwacter yn ein calonnau [ac] ein bywydau".
Wrth i Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi nos Wener eu bod wedi cyhuddo Mr Mitchell, dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark Pierce: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau Steven ar yr adeg anodd yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2022