Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd: Y Swistir 2-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwyliwch uchafbwyntiau'r gêm yn Zurich

Mae breuddwyd tîm merched Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd ar ben am bedair blynedd arall wedi colled dorcalonnus yn Zurich.

Roedd yn berfformiad dewr gan dîm Gemma Grainger, oedd yn wynebu'r talcen caled o orfod ennill yn erbyn un o dimau cryfaf Ewrop ar domen eu hunain.

Ond roedd gôl yn ystod munud olaf amser ychwanegol yn ddigon i weld y Swistir yn cyrraedd Cwpan y Byd er gwaethaf holl ymdrech y Cymry, oedd hefyd yn gobeithio sicrhau eu lle ar brif blatfform rhyngwladol gêm y merched.

Gôl gynnar

Roedd yn rhaid i Gymru ymdopi gyda chyfnod agoriadol o feddiant sylweddol gan y tîm cartref, gydag ergyd Viola Calligaris yn taro'r postyn wedi chwarter awr.

Ond dri munud yn ddiweddarach roedd tîm Gemma Grainger ar y blaen gyda Rhiannon Roberts yn llwyddo i rwydo o gic cornel Angharad James - i fawr foddhad yr aelodau o'r Wal Goch oedd wedi teithio i Zurich.

Gobaith Cymru oedd mynd fewn i'r egwyl ar y blaen, ond chwalwyd hynny wrth i un o sêr y tîm cartref, Ramona Bachmann, sgorio'n gelfydd heibio Laura O'Sullivan.

Roedd yn gôl siomedig i'w ildio, yn enwedig o ystyried ei amseriad, gyda'r Swistir wedi dechrau edrych yn rhwystredig.

Ffynhonnell y llun, Christian Kaspar-Bartke/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cymru ar y blaen wedi 18 munud diolch i gôl Rhiannon Roberts

Ond cychwynnodd yr ail hanner yn debyg i'r cyntaf, gyda'r Swistir yn mwynhau mwyafrif llethol y meddiant wrth i Gymru ganolbwyntio ar wrthymosod.

Roedd Kayleigh Green wedi ei gadael ar ei phen ei hun yn yr ymosod, gydag O'Sullivan yn arbed ergyd Svenja Fölmli yn gynnar i mewn i'r hanner.

Wrth lwyddo i ddarganfod fwy o le yn hanner Cymru daeth gôl O'Sullivan o dan mwy o bwysau cyn i'r dyfarnwr roi cic o'r smotyn i'r tîm cartref am lawio, wedi i'r digwyddiad gael ei wirio gan VAR.

Bydd Rachel Rowe yn teimlo bod dyfarniad y gic gosb wedi bod yn llym, ond tarodd ymdrech Svenja Fölmli yn erbyn y postyn.

Er iddi roi'r bêl yn y rhwyd wedyn, daeth achubiaeth i Gymru wrth i'r gôl gael ei ddiddymu gan nad oedd chwaraewr arall wedi cyffwrdd a'r bêl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y Swistir yn gyfartal yn hwyr yn yr hanner cyntaf

Seibiant dros dro oedd y digwyddiad i Gymru, serch hynny, wrth i'r Swistir barhau i chwilio am gôl.

Gwnaed newid i Gymru gydag 20 munud i fynd wrth i Ffion Morgan ddod ymlaen yn lle Carrie Jones, gyda Gemma Grainger yn gobeithio gwneud y mwyaf o gyflymder yr ymosodwraig o Landeilo.

Roedd chwaraewyr Cymru yn dangos arwyddion clîr o flinder wrth i'r hanner fynd yn ei blaen, gyda Laura O'Sullivan a Jess Fishlock angen triniaeth.

Daeth cyfle euraidd i Gymru gyda 10 munud i fynd wrth i ergyd Kayleigh Green fynd modfeddi dros y trawst.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Romana Bachmann yn credu ei bod wedi sgorio'r gôl buddugol tan i VAR ddod i achub Cymru

Roedd hi'n ymddangos fod y Swistir wedi sgorio'r gôl fuddugol wedi 83 munud ar ôl i Ramona Bachmann droi a gorffen yn gelfydd heibio O'Sullivan i gornel y rhwyd.

Ond wedi oedi sylweddol, VAR oedd achubiaeth Cymru unwaith eto wedi i'r swyddogion ddarganfod camsefyll yn ystod y symudiad yn arwain i'r gôl.

Amser ychwanegol

Wth i'r 90 munud ddirwyn i ben gyda'r sgôr yn parhau'n gyfartal, roedd y ddau dîm yn wynebu hanner awr o amser ychwanegol.

Er i Gymru chwarae 120 munud yn erbyn Bosnia nos Iau, roedd y Swistir wedi cael 10 diwrnod i baratoi.

Ond roedd coesau blinedig yn amlwg ymysg y naill ochr wrth i'r tebygolrwydd o giciau o'r smotyn gryfhau.

Daeth cyfle gwych i'r Swistir o gic rydd, ond doedd peniad rhydd Crnogorcevic ddim yn gywir.

Ar ddiwedd hanner cyntaf yr amser ychwanegol daeth cyfle arall ond methu hefyd wnaeth Rachel Rinast - er mawr rhyddhad i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Kunjan Malde/FAW
Disgrifiad o’r llun,

Wnaeth Cymru ymdrechu tan y diwedd er yr arwyddion clîr o flinder

Fe beniodd Hayley Ladd ymdrech arall oddi ar y llinell gydag ond pum munud yn weddill.

Ond gydag amser ychwanegol yn dod i derfyn roedd hi'n dorcalon llwyr i Gymru wrth i groesiad ddarganfod Fabienne Humm, a lwyddodd i rwydo o ongl dynn heibio O'Sullivan.

Ar ddiwedd y gêm roedd hi'n gyferbyniad llwyr wrth i chwaraewyr y Swistir ddathlu tra roedd siom llwyr ar wynebau merched dewr Gemma Grainger.