Fêpio ac ymddygiad gwael yn straen sylweddol ar athrawon

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ymgyrch
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrch newydd ar y cyd rhwng holl ysgolion uwchradd Sir Gâr a'r cyngor i geisio gwella ymddygiad

Mae staff ysgolion uwchradd yn Sir Gâr wedi gweld cynnydd mawr mewn problemau ers dychwelyd i'r ystafell ddosbarth wedi'r cyfnodau clo.

Mae penaethiaid y sir wedi dweud wrth Newyddion S4C fod y sefyllfa yn rhoi straen sylweddol ar athrawon.

Mae'r ymddygiad gwael yn cynnwys iaith sarhaus tuag at gyd-ddisgyblion ac athrawon, tarfu ar wersi a phlant mor ifanc ag 11 oed yn anweddu, neu fêpio, mewn toiledau.

Bellach mae ymgyrch ar y cyd rhwng y cyngor a holl ysgolion uwchradd y sir i wella ymddygiad disgyblion.

"Nes i sylwi bod rhai plant yn gwneud pethau drwg. Fi'n cofio gweld cwpl o'n nhw'n fêpio," meddai Molly, disgybl Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo.

"O'dd fy mrawd i wedi rhybuddio fi bod rhai pobl yn ddrwg, ond dim lot, ond fi'n credu o'n i'n anlwcus bod y rhai drwg yn fy nosbarth cofrestru."

Molly
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Molly ei bod wedi gweld "rhai plant yn gwneud pethau drwg"

Mae Lucas yn brif fachgen yn yr ysgol, ac wedi sylwi ar y dirywiad mewn ymddygiad hefyd.

"Nawr mae pobl yn fêpio ar y bws... a fi wedi gweld hefyd plant yn gweiddi 'nôl ar athrawon - maen nhw'n rhegi ar athrawon.

"Pryd o'n i'n blwyddyn 7, bydden i byth wedi gweld hwnna."

Lucas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucas wedi gweld dirywiad mewn ymddygiad plant ers iddo ddechrau yn yr ysgol

Mae'r problemau yn bresennol ymhob ysgol yn y sir, ac mae Molly a Lucas bellach wedi cyfrannu at fideo ymgyrch newydd ar y cyd rhwng yr holl ysgolion uwchradd a'r cyngor i geisio gwella ymddygiad.

Fe ddaeth disgyblion ac athrawon pob un o ysgolion y sir i sesiwn rhannu profiad yn Neuadd y Sir fis Gorffennaf, lle cafodd sylwadau eu recordio i greu'r fideo.

Mae bellach wedi cael ei ddangos ym mhob ysgol uwchradd yn y sir, a'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.

Ionwen Spowage
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ionwen Spowage, dyw disgyblion "ddim yn deall pam mae angen iddyn nhw fihafio mewn ffordd arbennig"

Dywedodd pennaeth Ysgol Bro Dinefwr, Ionwen Spowage: "Fi'n credu y peth mwya' sy'n poeni pawb - y newid mawr - yw'r diffyg parch.

"Diffyg deall bod systemau yn eu lle, bod angen i ni weithio mewn ffyrdd arbennig a chefnogi ein gilydd.

"Dyna fi'n credu yw'r gwahaniaeth mawr. 'So what' yw hi, a jyst ddim yn deall pam mae angen iddyn nhw fihafio mewn ffordd arbennig.

"Mae [y straen] yn fwy amlwg na mae wedi bod erioed weden i, ac mae'n rhaid i'r staff fynd i'r afael â'r pethau yma cyn allwn nhw feddwl am ddysgu.

"Weden i bod nhw [y problemau] yn ddifrifol, ond fi'n credu fod pawb yn poeni bod nhw'n mynd i waethygu felly dyna pam oedd yr ymgyrch yma mor bwysig i ni gyd."

Dr Llinos Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Nid yma i gosbi mae athrawon," meddai pennaeth Bro Myrddin, Dr Llinos Jones

Ychwanegodd Dr Llinos Jones, pennaeth Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin, sydd hefyd yn rhan o'r ymgyrch: "Fe welwyd bod 'na ddirywiad.

"Fe welodd y sir hynny ac maen nhw wedi rhoi buddsoddiad sylweddol yn yr ymgyrch.

"Nid yn unig ymgyrch gyhoeddus ond mae 'na arian wedi cael ei fuddsoddi ar gyfer bod pob ysgol nawr yn gallu cael swyddog cynhwysiant i weithio gyda disgyblion, i weithio gyda rhieni.

"A swyddogion ieuenctid hefyd llawn amser yn yr ysgolion, achos nid yma i gosbi mae athrawon... yma i gydweithio gydag unigolion er mwyn gwella ymddygiad yn gyffredinol."

Glynog Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies fod y pandemig "wedi gadael ei ôl ar y system addysg"

Dyw hi ddim yn glir faint o arian bydd Cyngor Sir Gâr yn ei fuddsoddi eto, gyda'r prosiect yn dal i barhau yn ôl llefarydd.

"'Wy'n blino'n fawr fod y ddwy flynedd a hanner yma wedi gadael ei ôl ar ein disgyblion ni. Mae wedi gadael ei ôl ar y system addysg," meddai'r Cynghorydd Glynog Davies, yr aelod cabinet dros addysg a'r Gymraeg.

"Dydyn nhw ddim wedi bod 'na wyneb yn wyneb gyda'r athrawon. Maen nhw wedi bod yn syllu ar ryw sgrin am oriau di-ben-draw. 'Falle wedi colli'r arfer o fod mewn dosbarth ac ymddwyn mewn ffordd dda mewn dosbarth.

"Ni'n cefnogi [y prosiect] am ein bod ni'n gwrando ar ein penaethiaid ni. Mae'r penaethiaid yma yn chwarae rôl bwysig yn y sir. Maen nhw'n gofalu am ein pobl ifanc ni.

"Mae'n rhaid i ni wrando, mae'n rhaid i ni helpu ein hysgolion ni, i helpu'r athrawon i gael y gorau mas o'r plant.

"Gallwn ni ddim 'sgubo'r peth naill ochr. 'Wy'n benderfynol o fynd law yn llaw gyda'n penaethiaid, gyda staff ein hysgolion uwchradd ni."