Cyfarfod i wrthwynebu cau safle Ambiwlans Awyr Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Daeth dros 50 o bobl i gyfarfod cyhoeddus ym Mhorthmadog nos Wener i wrthwynebu cau canolfan yr Ambiwlans Awyr yng Nghaernarfon.
Mae ymgyrchwyr yn pryderu y gallai'r ganolfan yn Ninas Dinlle gau, ynghyd â'r gwasanaeth o'r Trallwng, a chael ei ganoli mewn man arall.
Dyma'r ail gyfarfod i drafod dyfodol y safle, wedi i ymgyrchwyr a gwleidyddion sy'n cynrychioli seddi yn y gogledd-orllewin gwrdd ym Maes Awyr Caernarfon y penwythnos diwethaf.
Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dweud y gallai ad-drefnu'r gwasanaeth olygu cyrraedd dros 500 o achosion ychwanegol y flwyddyn.
Ond nid yw wedi cadarnhau'r newidiadau, gan fynnu bod nifer o opsiynau yn cael eu hystyried wrth iddyn nhw geisio cryfhau eu gwasanaethau.
Mae deiseb ar-lein i achub safle Caernarfon wedi denu dros 3,700 o lofnodion.
Un o'r rheiny fu'n annerch y cyfarfod nos Wener oedd y Cynghorydd Gwynfor Owen o ward Harlech a Llanbedr ar Gyngor Gwynedd.
"Mae'n bosib profi unrhyw beth efo ffigyrau, wrth gwrs," meddai, wrth ymateb i honiad yr elusen y byddai'n gallu cyrraedd dros 500 yn rhagor o achosion pob blwyddyn.
"Y peth faswn i'n ei dd'eud ydy, fedrwch chi gyrraedd 500 o bobl mewn ardal drefol yn hawdd iawn.
"Mae cyrraedd 500 o bobl mewn ardal wledig yn llawer anoddach."
Ychwanegodd y Cynghorydd Plaid Cymru: "Ella bod dwyster yr anghenion yn yr ardaloedd gwledig yn fwy nag ydyn nhw ar y pryd yn yr ardaloedd trefol.
"Lle dwi'n poeni ydy, o brofiad, 'dan ni wedi gweld pethau'n symud i'r dwyrain a 'dan ni'n colli gwasanaeth yma yn y gorllewin.
"'Dan ni angen y gwasanaeth yma i fedru mynd lawr yr arfordir gorllewinol o Gymru.
"Os dio'n cael ei leoli rhywle arall 'dan ni'n mynd i golli'r gwasanaeth. Does 'na'm dwywaith am hynny."
Cyrraedd 16% yn fwy o alwadau
Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd eu caffi ym Maes Awyr Caernarfon yn cau ac yn symud i ganol tref Caernarfon.
Maen nhw'n dweud eu bod wedi derbyn gwaith ymchwil gan un o gyrff y GIG yng Nghymru, y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), sy'n awgrymu y gallai ad-drefnu'r gwasanaeth olygu y gallan nhw gyrraedd 583 o achosion ychwanegol y flwyddyn.
Ar hyn o bryd maen nhw'n medru cyrraedd 72% o'r galwadau, ond gyda newidiadau maen nhw'n honni y gallai hynny godi i 88%.
Mae'r elusen yn ystyried symud y gwasanaeth o'r Trallwng a'i leoli gyda gwasanaeth y gogledd, ond mae'r union leoliad yn dal yn destun gwaith ymchwil.
Byddai'r newid hefyd yn ymestyn oriau'r gwasanaeth, yn ôl yr elusen.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd prif weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru, Dr Sue Barnes, bod "ein ffocws wedi newid o fynd â'r cleifion i'r ysbyty agosaf i fynd â'n staff meddygol at y cleifion".
"Rydym yn gweithio ar y ffyrdd yn ogystal ag yn yr awyr. Mae hyn yn hanfodol pan na all yr hofrenyddion hedfan am resymau technegol neu pan mae'r tywydd yn wael," meddai.
"Oherwydd ein lleoliadau presennol, dydy ein cleifion yn y gogledd a'r canolbarth ddim yn elwa o'r gwasanaeth amgen yma oherwydd cysylltiadau ffyrdd gwael - yn wahanol i drigolion de Cymru."
Erbyn 8 Tachwedd bydd cynigion ffurfiol ar yr ad-drefnu yn cael eu cyflwyno gan un o gyrff annibynnol y gwasanaeth iechyd.
Bryd hynny bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal, gyda disgwyl penderfyniad terfynol gan y byrddau iechyd ar y model y maen nhw eisiau ei weld yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd23 Medi 2022
- Cyhoeddwyd26 Awst 2022
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022