Safle Truss 'ddim yn anghynaladwy', medd Ysgrifennydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Liz TrussFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Truss wedi mynnu y bydd hi'n parhau fel prif weinidog

Mae Ysgrifennydd Cymru Syr Robert Buckland wedi rhybuddio na ddylai'r Ceidwadwyr "daflu prif weinidog arall i'r bleiddiaid" wrth i'r pwysau gynyddu ar Liz Truss.

Yn siarad wedi i'r prif weinidog ddiswyddo ei Changhellor Kwasi Kwarteng, dywedodd Mr Buckland ar BBC Radio 4 ei fod yn cydnabod fod Ms Truss mewn "sefyllfa anodd".

Ond ychwanegodd y byddai cael gwared arni fel prif weinidog yn arwain at "fwy o ansefydlogrwydd".

Dywedodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr Arglwydd Nick Bourne, fod Ms Truss wedi colli "pob hygrededd" ac nad yw'n gweld sut y gall hi oroesi.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kwasi Kwarteng ei alw 'nôl o'r Unol Daleithiau i gael ei ddiswyddo ddydd Gwener

Daeth y sylwadau wedi diwrnod o helynt i Lywodraeth y DU, ble cafodd Mr Kwarteng ei alw yn ôl o'r Unol Daleithiau i gael ei ddiswyddo, gyda Jeremy Hunt yn cael ei benodi fel y canghellor newydd.

Fe wnaeth Ms Truss hefyd wneud tro pedol ar gael gwared ar gynnydd i'r dreth gorfforaethol.

Dyma'r ail dro pedol mawr o gyllideb fechan y llywodraeth fis diwethaf, wedi i weinidogion eisoes benderfynu na fydden nhw'n torri cyfradd uchaf y dreth incwm.

Dywedodd Mr Hunt fore Sadwrn y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd "ym mhob agwedd" ar drethi a gwariant.

"Mae'n rhaid i ni ddangos i'r byd fod gennym gynllun sy'n gadarn yn ariannol. Dyna sut ry'n ni'n adfer sefydlogrwydd," meddai.

"Rwy'n gwneud y swydd yma oherwydd, er yr holl benderfyniadau anodd, mae gen i hyder hirdymor aruthrol yn ein gwlad. Mae gennym botensial anferth yma."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Hunt fod ganddo "hyder hirdymor aruthrol yn ein gwlad"

Yn siarad ar raglen Any Questions BBC Radio 4 nos Wener fe wadodd Mr Buckland fod safle Ms Truss yn "anghynaladwy".

"Mae hon wedi bod yn wythnos wleidyddol anodd iawn. Dydw i ddim am wadu hynny, ond ydw i'n credu bod ei safle yn anghynaladwy? Nac ydw," meddai.

'Angen atal dadl fewnol'

Pan ofynnwyd iddo pam fod Mr Kwarteng wedi gadael, ond nid Ms Truss, dywedodd: "Ry'n ni wedi gweld gyda llywodraethau'r gorffennol - canghellor yn cael ei gysylltu'n gryf gyda pholisi sydd ddim wedi gweithio.

"Mae sawl enghraifft hanesyddol o gangellorion yn symud 'mlaen, ond dydy prif weinidogion heb wynebu'r un ffawd.

"Os ydyn ni'n taflu prif weinidog arall i'r bleiddiaid fe fyddwn ni'n wynebu mwy o oedi, mwy o drafod, mwy o ansefydlogrwydd - i'r gwrthwyneb o'r hyn sydd ei angen gyda'r gaeaf o'n blaenau.

"Y peth olaf dy'n ni eisiau ydy dadl fewnol yn y blaid."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hon wedi bod yn wythnos wleidyddol anodd iawn," meddai Robert Buckland

Un arall sydd wedi cefnogi Ms Truss ydy cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Glyn Davies.

"Fe ddylai pob aelod o'r blaid Geidwadol fod yn cefnogi ein harweinydd, yn enwedig tra'i bod hi'n mynd trwy gyfnod anodd," meddai.

"Dyw hi ddim yn hawdd bod yn brif weinidog. A dweud y gwir mae'n swydd eithriadol o anodd.

"Mae hi wedi rhedeg mewn i drafferthion a'n cyfrifoldeb ni oll ydy ei helpu hi i oroesi'r storm a bod yn llwyddiant."

'Colli enw da'

Ond dywedodd yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, fu'n arwain y Ceidwadwyr Cymreig rhwng 1999 a 2011, ei fod yn credu na all y prif weinidog barhau yn y rôl.

Dywedodd wrth BBC Wales Today: "Mae hi wedi cefnu ar y polisïau wnaeth ennill yr arweinyddiaeth iddi, ac mae hi wedi cefnu ar ei changhellor.

"Nid cwestiwn o gefnogaeth ASau Ceidwadol, neu hyd yn oed aelodau'r Ceidwadwyr, ydy hyn.

"Mae'n gwestiwn o'r marchnadoedd arian, mae'n gwestiwn o golli enw da, a dydw i ddim yn gweld sut y gall hi oroesi hyn.

Ychwanegodd bod angen "diogelu safonau byw" a "sicrhau nad ydy cyfraddau morgeisi yn codi'n uwch na maen nhw wedi yn barod".