Dylan Iorwerth sy'n mynd Dan Ddirgel Ddaear
- Cyhoeddwyd
Ar hyd a lled Cymru mae yna fynceri, twneli, a chuddfannau sy'n atgof o ryfeloedd.
Yn y rhaglen Dan Ddirgel Ddaear ar BBC Sounds, mae Dylan Iorwerth yn mynd ar drywydd cyfrinachau rhyfeloedd y ganrif ddiwethaf - o ffatri arfau dychrynllyd i fyncyr niwclear a ddaeth yn ganolbwynt i brotestiadau anferth.
Ond y mwya' rhyfeddol oedd byncyrs y fyddin gudd. Dylan Iorwerth sy'n rhannu peth o'u hanes gyda Cymru Fyw.
Byncyr Brynbuga
Oni bai eich bod yn gwybod, fyddech chi fyth yn sylwi. Dim ond rhyw ddrws haearn sydd yno, fel petai yna ffwrn hen ffasiwn wedi'i gosod yn y llethr. Ac mae yna dyfiant o'i gwmpas.
Hyd yn oed o stryffaglu i agor y drws trwm, fyddech chi fawr callach. Dim ond math o bibell goncrid sydd yno, yn ymestyn i'r tywyllwch. Dim i awgrymu fod yna ddwy ystafell yn y pen draw, dan drwch o droedfeddi o bridd.
Dim ond yn y degawdau diwetha' y daeth hi'n amlwg fod yna gasgliad o guddfannau fel yma ar hyd a lled de Cymru. Ychydig oedd yn gwybod eu bod yno, llai fyth yn sylweddoli eu harwyddocâd.
Yn ardal Brynbuga yr oedd yr un y bues i'n ei weld - byncyr un o unedau Auxilliary yr Hôm Gard yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Hwn ydi un o'r ychydig rai sydd wedi ei adfer, gan berchennog Castell Brynbuga a'r tir lle mae'r lloches gudd.
Winston Churchill, pan ddaeth yn Brif Weinidog, oedd wedi cefnogi syniad yr unedau Auxilliary. Roedd am weld sefydlu unedau tebyg i'r Resistance yn Ffrainc, ond cyn i'r goresgyn ddigwydd. Efo criwiau eraill yn canolbwyntio ar gysylltiadau (roedd gan un Ficer yn Sir Fynwy drosglwyddydd radio y tu cefn i'w allor), roedden nhw'n paratoi am y gwaetha'.
Roedd amryw o'r byncyrs yn Sir Fynwy, o fewn cyrraedd i'r ffatrïoedd arfau, y gweithfeydd dur a'r dociau yn ardal Casnewydd. Mi allwch weld olion un arall o fewn milltir neu ddwy i gwrs golff y Celtic Manor - mae hwnnw wedi lled ddadfeilio a siâp y stafelloedd tanddaear i'w gweld yn glir.
O fewn cyrraedd i bob un o'r byncyrs, mi fyddai tyllau eraill yn y ddaear, i storio bwyd ac arfau a ffrwydron: bwyd ar gyfer goroesi tanddaear am bythefnos neu ychydig mwy; arfau a ffrwydron er mwyn lladd a dinistrio pe bai byddin yr Almaen yn goresgyn gwledydd Prydain.
Y Fyddin Gudd
Mae yna ragor o'r cuddfannau - rhai wedi eu ffeindio, rhai ynghudd o hyd - ar hyd y glannau draw heibio Bae Caerfyrddin i Sir Benfro. Dyna'r mannau lle byddai'r Almaenwyr fwya' tebyg o lanio. Mae yna rai byncyrs hefyd ar hyd arfordir de a dwyrain Lloegr ac i fyny dwyrain yr Alban.
Am fwy na phedair blynedd, rhwng dechrau 1940 a hydref 1944, roedd y byncyrs yn cael eu defnyddio gan griwiau bychain o ddynion lleol, rhwng chwech ac wyth fel arfer. Ar yr wyneb, aelodau o'r Hôm Gard oedden nhw, ond nid Private Jones a Captain Mainwaring mo'r rhain.
Roedden nhw'n cael eu recriwtio o blith dynion a fyddai'n nabod eu hardaloedd yn dda. Roedd angen cael rhai a fedrai ffeindio'u ffordd yn nhywyllwch dudew'r nos ac roedd angen sgiliau arbennig, fel y gallu i drin ffrwydron. Roedd glowyr a mwyngloddwyr yn aml yn ddewis amlwg.
Mae yna awgrym hefyd fod yr awdurdodau'n chwilio am ddynion a fedrai fod yn galetach eu calon na'r cyffredin. Pe bai'r Almaenwyr wedi glanio, gwaith y dynion yma fyddai ymosod arnyn nhw yn y dirgel, gan ddinistrio unrhyw beth a allai fod o fudd i'r gelyn - o ffatrïoedd a chanolfannau milwrol, i bobl.
Byncyr Casnewydd
Y tu allan i olion yr ail fyncyr, mewn coedwig dawel ger y cwrs golff yng Nghasnewydd, yr eglurodd Jeff Spencer o'r corff hanesyddol Cadw y byddai disgwyl i'r dynion yma ladd arweinwyr lleol y fyddin rhag ofn iddyn nhw roi gwybodaeth i'r Almaenwyr.
Yn sydyn, yn fanno, heb ddim ond sŵn adar o'n cwmpas ni, a murmur pell trafnidiaeth, mi ddaeth holl oblygiadau dychrynllyd rhyfel yn glir. Dyna'r math o beth sy'n digwydd mewn rhyfel. Mewn rhyfel, mae pobl gyffredin - yn lowyr, ffermwyr a pherchnogion siop - yn troi yn rhywbeth arall.
Fyddai'r dynion ddim yn eu twyllo eu hunain am beryglon eu gwaith chwaith. Pythefnos go dda o fwyd oedd yn cael ei guddio - doedd dim disgwyl i neb ohonyn nhw fyw dim hwy na hynny. Pe baen nhw mewn peryg o gael eu dal, roedd disgwyl iddyn nhw eu saethu eu hunain.
Yn y nos y bydden nhw'n ymarfer, heb ddweud dim wrth neb, gan gynnwys eu teuluoedd agosa'. 'Gwaith yr Hôm Gard' fyddai'r esgus, ond roedd eu hymarferion nhw ar lefel gwbl wahanol. Wrth wasgaru'r unedau yn 1944, doedd dim modd eu clodfori, rhag datgelu'r gyfrinach.
Olion y Rhyfel Oer yng Nghaerfyrddin
Mae gweithgareddau cudd yn rhan o bob rhyfel ac, unwaith y byddwch chi'n dechrau chwilio, mae mwy a mwy'n dod yn amlwg.
Dyna pam yr es i wedyn i ffatri arfau Rhydymwyn ger yr Wyddgrug lle'r oedd bomiau gwenwyn yn cael eu creu ac i sefyll uwchben salfe byncyr niwclear Caerfyrddin, un o olion y Rhyfel Oer.
Mae yna ragor, wrth gwrs. Ac mewn ambell fan, mae yna storfeydd arfau sydd heb gael eu ffeindio o hyd. Cerddwch yn ofalus, rhag ofn.
Hefyd o ddiddordeb: