Cynlluniau hybu darllen yn hanfodol i siopau llyfrau
- Cyhoeddwyd
Dywed perchnogion rhai siopau llyfrau bod cynlluniau y llywodraeth i annog plant i ddarllen yn gwbl allweddol wrth i ysgolion brynu llawer llai o lyfrau.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Gwyn Sion Ifan, rheolwr siop Awen Meirion yn Y Bala, bod ysgolion yn prynu llawer llai o lyfrau wrth i gyllidebau ysgolion grebachu.
Daw ei sylwadau wedi i Trystan Lewis o Siop Lyfrau Lewis yn Llandudno ddweud yr wythnos diwethaf nad oedd ganddo ddewis ond gwerthu ei siop - hynny'n rhannol gan bod gwerthiant llyfrau i ysgolion wedi mwy na haneru ers iddo agor yn 2007.
"Roedd pryniant ysgolion yn fawr ond dros y blynyddoedd wrth i'w cyllideb ostwng mae nhw'n anorfod yn prynu llai o lyfrau.
"Mae ysgolion yn trio bod yn gefnogol o hyd ond dyw'r arian ddim yna - dwi i felly yn gwerthfawrogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar y cyd a'r Cyngor Llyfrau," meddai Gwyn Sion Ifan.
"Mae union effaith y cynlluniau i'w canfod gan eu bod yn newydd ond mae nhw i'w croesawu'n fawr."
Mae'r prosiect Caru Darllen Ysgolion yn darparu llyfrau am ddim i blant ysgol ym mhob ysgol wladol yng Nghymru, yn brosiect gwerth £4.6m a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
"Yr hyn sy'n digwydd yw bod ysgolion uwchradd yn cael tocyn llyfr gwerth £7 i bob disgybl 11-16 oed er mwyn iddynt ei gyfnewid am lyfr o'u dewis nhw. Dan ni yn mynd â stondin i'r ysgol - ac fe fyddwn wedyn yn cael arian am dalebau'r plant," medd Mr Ifan.
"Mae plant iau yn dewis llyfrau o blith rhai sydd wedi cyrraedd yr ysgol - fe fyddan nhw am ddim iddyn nhw ac yna mae'r ysgol yn dewis y siop a ddylai gael yr arian. Mae cymorth o'r fath yn gwbl hanfodol."
Dywed llefarydd ar ran y Cyngor Lyfrau: "Ry'n yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i gefnogi'r sector llyfrau yng Nghymru ac i hyrwyddo darllen er pleser.
"Mae cynnig cefnogaeth ariannol i siopau llyfrau a hwyluso eu cysylltiadau gydag ysgolion lleol wrth wraidd y cynllun hwnnw.
"Mae'n un o'r ffyrdd yr ydym yn chwilio am ffynonellau cymorth a chyllid newydd i gefnogi'r sector llyfrau yng Nghymru."
Yn Aberystwyth dywedodd Tomos Morgan o Siop Inc bod gwerthiant llyfrau plant yn parhau yn sefydlog.
"Dwi i ddim wedi gweld gostyngiad - mae ysgolion yn parhau i gefnogi a chylchoedd meithrin yn enwedig.
"Ry'n ni yn sobr o falch o gynllun Gwales sef os yw rhywun yn prynu o'r wefan eu bod yn gallu nodi pa siop y maent yn dymuno ei chefnogi. Ry'n ni'n 'neud yn dda o'r cynllun yna," ychwanegodd.
"Gwales yw ein llwyfan gwerthu llyfrau ar-lein, lle gall cwsmeriaid archebu'n uniongyrchol o'n Canolfan Ddosbarthu, ac wrth brynu llyfr gallant enwebu siop lyfrau yng Nghymru i dderbyn comisiwn o 5% o werth yr archeb... mae'n un o'r ffyrdd y gallwn gynnig dewisiadau prynu i gwsmeriaid, gan barhau i gefnogi siopau llyfrau," ychwanegodd llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau.
Cynnwys adnoddau digidol rhad ac am ddim
"Mae'r oes ddigidol hefyd yn annog llai o ysgolion i brynu llyfrau," meddai Gwyn Sion Ifan. "Erbyn hyn mae gan y rhan fwyaf o ysgolion dabledi ac mae llawer o adnoddau ar-lein. Mae hynny yn gymorth i ysgolion wrth i'w cyllidebau crebachu.
Wrth ymateb i gwestiwn a oedd y Cyd-bwyllgor Addysg yn ceisio arbed costau i ysgolion wrth ddewis meysydd llafur dywedodd llefarydd: "Wrth i ni ddatblygu ein cymwysterau, byddwn yn dilyn proses drylwyr i sicrhau eu bod yn ymdrin â themâu a thestunau allweddol, yn ôl gofynion y rheoleiddiwr.
"Pan gyflwynir gweithiau a thestunau newydd, datblygir amrywiaeth o ddeunyddiau addysgu a dysgu, sy'n cynnwys adnoddau digidol rhad ac am ddim, i helpu ysgolion, colegau a dysgwyr â'u cyflwyniad.
'Mae dewis o weithiau gosod wedi'u cynnwys yn ein cymwysterau, ond nid ydym mewn sefyllfa i wneud sylw ar arferion prynu deunyddiau o'r fath gan ysgolion a cholegau.
'Bydd ein timau'n ymgynghori ag ysgolion a cholegau yn rhan o'n menter Cymwys ar gyfer y Dyfodol. Rydym am nodi'r math o gefnogaeth sydd ei angen arnynt, gan gynnwys adnoddau digidol a gwerslyfrau."
Mwy o siopau llyfrau yng Nghymru y pen
Wrth ymateb i'r ffaith bod Siop Lewis yn Llandudno yn gorfod cau ychwanegodd llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau: "Mae'n ddrwg gennym glywed fod Siop Lewis wedi gwneud y penderfyniad i gau'r siop a symud i wasanaeth ar-lein, ar ôl gwasanaethu cwsmeriaid yn Llandudno ers 15 mlynedd gan wneud cyfraniad hynod bwysig i'r gymuned yn ystod y cyfnod hwnnw."
"Rydym yn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd gyda'r llyfrwerthwyr i drafod eu hadborth, gan gynnig grant i siopau sydd yn rhoi blaenoriaeth i lyfrau o fewn eu darpariaeth.
"Rydym hefyd yn cynnig Cynllun Ymestyn, sy'n rhoi cymorth ariannol i siopau i gynnal digwyddiadau tu hwnt i'r siop, ac mae unrhyw werthiant i ysgolion neu lyfrgelloedd neu brosiect yn sicrhau bod cyfran o'r elw yn mynd i'r siop lyfrau.
"Yn ystod y pandemig Covid, gwnaethom hefyd gymryd camau ychwanegol i gefnogi siopau llyfrau nad oeddent yn gallu agor neu a oedd am symud mwy o wasanaethau ar-lein.
"Sefydlwyd proses i'n galluogi i gyflawni archebion gwefan ar gyfer siopau llyfrau ledled Cymru, gan leihau'r baich gweinyddol ar siopau wrth iddynt werthu llyfrau o'u gwefannau eu hunain."
Ychwanegodd y Cyngor Llyfrau bod mwy o siopau llyfrau yng Nghymru y pen nag mewn unrhyw wlad arall o fewn y Deyrnas Unedig.
"Mae'r darlun ar draws Cymru yn un cymysg, gyda rhai siopau yn addasu eu modelau gweithredu, a rhai siopau newydd yn agor fel Siop y Pentan, Llanelli a Siop Cyfoes, Llandeilo.
"Mae Cwpwrdd Cornel yn Llangefni hefyd wedi dechrau ar bennod newydd yn ei hanes wrth drosglwyddo i Siop Awen Menai," ychwanegodd llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2022