Lucy John: Teyrngedau i 'athletwraig anhygoel' fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i seiclwr adnabyddus fu farw ar ôl gwrthdrawiad yn sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Bu farw Lucy John, 35, o'i hanafiadau wrth iddi seiclo ar yr A48 ger y gylchfan yn Nhrelales am 09:10 fore Sul.
Mae hi wedi ei disgrifio fel "athletwraig anhygoel" ac "ysbrydoliaeth".
Mae'r heddlu wedi apelio am gymorth i ddarganfod beth ddigwyddodd ond dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mewn teyrnged, dywedodd teulu Lucy mai hi oedd "canolbwynt eu bydysawd teuluol".
"Roedd Lucy yn fam, yn wraig, yn ferch, yn chwaer, yn wyres, yn gyfnither, yn fodryb, yn nith, yn driathletwr, yn athletwr CrossFit, yn gydweithiwr ac yn ffrind i lawer o bobl ar hyd y gymuned leol.
"Roedd hi'n llawn egni, yn ddisglair, yn bositif ac yn angerddol am fywyd.
"Mae'r cariad a chefnogaeth gan bawb oedd yn ei hadnabod, ymhell ac agos, yn gysur mawr i'w holl deulu ar yr adeg anodd hon."
'Gadael bwlch parhaol'
Dywedodd llefarydd ar ran campfa CrossFit Pen-y-bont fod Lucy wedi bod yn aelod o'r dechrau.
"Fe fydd yn gadael bwlch parhaol yn y gampfa, a dwi'n gobeithio y byddwn ni'n cydio'n dynn yn yr atgofion o Lucy drwy'r tristwch llethol y mae'r newyddion yma yn ei achosi," meddai.
Fe fydd y gampfa yn cynnal munud o dawelwch cyn eu dosbarthiadau er cof amdani.
Mewn neges ar Facebook dywedodd Clwb Triathlon Pen-y-bont: "Roedd gan Lucy'r holl rinweddau y gallech obeithio eu cael. Roedd hi'n benderfynol, brwdfrydig, ac yn ymroddedig i bob agwedd o'i bywyd. Teulu, gwaith, ffrindiau a hyfforddi.
"Rydym ni wedi cael negeseuon di-ri' gan bobl yn adrodd eu hatgofion o Lucy a phob un ohonyn nhw'n dweud person mor anhygoel, ysbrydoledig a pharod ei chymwynas oedd hi."
Dywedodd Tondu Wheelers fod Lucy yn "athletwraig anhygoel," ac yn "enaid hardd" yn ogystal ag ysbrydoliaeth i holl ferched y clwb.
Dywedodd yr heddlu fod car Honda Civic du wedi bod yn y gwrthdrawiad ac maen nhw'n apelio am dystion a lluniau dash-cam.
Dywedodd y ditectif gwnstabl Alun EfstathiouL "Dwi eisiau diolch i aelodau o'r cyhoedd wnaeth helpu ar y pryd, ac i'r gymuned leol am eu hamynedd tra bod y ffordd ar gau wrth i ni gynnal ein hymchwiliad.
Mae fy meddyliau gyda'r ymadawedig ar hyn o bryd."
Fe wnaeth y llu gadarnhau nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2022