CPD Caernarfon: Rhybudd i gefnogwyr ifanc i wella ymddygiad
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi rhybuddio cefnogwyr ifanc i wella eu hymddygiad yn ystod gemau cartref neu wynebu gwaharddiad.
Daw'r rhybudd gan fwrdd rheoli'r clwb ar ôl iddyn nhw dderbyn nifer o gwynion gan oedolion "sy'n dymuno gwylio'r gemau heb sgrechian, rhedeg ac ymddygiad afreolus cyson".
Mewn neges ar Facebook, dolen allanol, dywed y bwrdd eu bod wedi gorfod cyflogi swyddogion diogelwch ychwanegol "ar gost sylweddol i'r clwb" ar gyfer eu gêm ar yr Oval yn erbyn Aberystwyth nos Wener.
"Rhaid ei gwneud yn glir y bydd unrhyw un nad yw'n ymddwyn yn briodol yn y gêm ddydd Gwener, neu unrhyw gêm yn y dyfodol, yn cael ei gyrru allan o'r stadiwm, ac o bosibl ei wahardd," meddai'r datganiad.
"Os bydd y broblem yn parhau yn dilyn gêm dydd Gwener, ni fydd dewis arall ond ystyried cyflwyno polisi newydd yn yr Oval, a fydd ddim yn caniatáu i blant dan oedran penodol fynychu gemau heb fod yng nghwmni oedolyn."
Mae'r clwb yn bumed yn y Cymru Premier ar ôl naw gêm.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Mai 2017