Teyrnged i ddyn o Wrecsam wedi gwrthdrawiad angheuol

  • Cyhoeddwyd
Andrew HowatFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw ar ôl cael ei daro gan gerbyd wrth gerdded ar ffordd ddeuol yn ardal Wrecsam nos Sadwrn.

Roedd Andrew Howat yn 40 oed ac yn byw yn lleol.

Mewn teyrnged dywedodd ei deulu eu bod mewn sioc fawr oherwydd eu colled.

"Ar Sadwrn 15 Hydref, fe wnaeth damwain drasig gymryd bywyd ein gŵr, tad, mab a brawd cariadus Andy Howat.

"Fe fydd o wastad yn cael ei gofio am ei natur hwyliog, personoliaeth fyrlymus a rhywun fyddai wedi helpu unrhyw un mewn angen.

"Fel teulu rydym yn dod at ein gilydd yn yr amser hwn o dristwch mawr, a gofynnwn am amser a llonyddwch i ddod i dermau gyda'n colled."

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am 22:40 nos Sadwrn, ac maen nhw'n parhau i apelio am dystion.

Roedd Mr Howat yn cerdded i gyfeiriad y de ar yr A483 yn ardal Gresffordd rhwng cyffordd 7 a 6.

Pynciau cysylltiedig