Ceidwadwyr yn beirniadu polisi iaith Cyngor Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor GwyneddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Nôd polisi iaith diwygiedig Cyngor Gwynedd yw sicrhau fod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth yng ngwaith yr awdurdod

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu polisi iaith newydd Cyngor Gwynedd am "gau allan" pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg.

Yn ddiweddar mae Cyngor Gwynedd wedi mabwysiadau polisi iaith diwygiedig fydd yn sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cael blaenoriaeth yng ngwaith yr awdurdod - gan gynnwys enw uniaith Gymraeg i'r cyngor.

Mae Gwynedd yn dweud fod y polisi newydd yn "cwrdd â gofynion cenedlaethol ac hefyd yn cryfhau'r arweiniad i staff wrth iddyn nhw ddelio â gwahanol sefyllfaoedd o ddydd i ddydd".

Ond yn ôl y Ceidwadwyr ddylai'r Gymraeg ddim cael blaenoriaeth dros y Saesneg.

'Cyngor Gwynedd' yn unig

Mae polisi iaith diwygiedig Cyngor Gwynedd yn golygu mai dim ond eu teitl Cymraeg maen nhw'n bwriadu ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Mi fydd hynny'n digwydd yn raddol, gydag arwyddion a deunyddiau yn cael eu newid pan fo angen eu hadnewyddu, er mwyn osgoi costau ychwanegol.

Mae'r polisi newydd hefyd yn cynnwys blaenoriaethu'r gwaith o amddiffyn enwau llefydd cynhenid Cymraeg.

Bydd y datblygiad, meddai'r awdurdod, hefyd yn sicrhau bod "arweiniad cadarn i staff o ran darparu gwasanaethau digidol yn ddwyieithog er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyhoedd yn parhau i allu defnyddio'r Gymraeg, sut bynnag y byddant yn cysylltu gyda'r Cyngor".

Disgrifiad o’r llun,

Dydy Sam Rowlands AS ddim am i un iaith gael blaenoriaeth dros y llall yng Ngwynedd

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar yr awdurdod i ail feddwl eu polisi.

Dywedodd llefarydd y blaid ar lywodraeth leol, Sam Rowlands AS, y dylai'r iaith Gymraeg gael ei hyrwyddo drwy roi cydraddoldeb iddi gyda'r Saesneg, nid blaenoriaethu un iaith dros y llall.

Yn ôl Mr Rowlands, sy'n gyn-arweinydd Cyngor Conwy: "Mae'n ymddangos fod rhai yn credu fod arwyddion sydd yn cau rhai allan yn dderbyniol, cyn belled mai siaradwyr Saesneg sy'n cael eu cau allan.

"Mae angen i ni sicrhau ein bod yn genedl gynhwysol, o ystyried mai dim ond Saesneg mae 80% o'r boblogaeth yn ei siarad.

"Mi fyddwn i'n pwyso ar Gyngor Gwynedd i ail feddwl eu strategaeth a chadw eu polisi dwyieithrwydd yn ei le."

Ffynhonnell y llun, PayPal/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ceidwadwyr am i Gyngor Gwynedd ail feddwl eu polisi gan mai dim ond Saesneg mae 80% o boblogaeth Cymru yn siarad

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Nid yw newid yr enw mae'r Cyngor yn ei ddefnyddio wrth gyfeirio at ei hun yn amharu ar ddefnydd iaith nac ar hawl aelodau o'r cyhoedd i ddefnyddio'r enw Saesneg.

"Nid yw chwaith yn amharu ar ddarpariaeth y Cyngor o wasanaethau dwyieithog.

"Yr hyn mae'n ei wneud yw sicrhau bod y Cyngor yn cymryd camau rhagweithiol i gynyddu statws gweledol y Gymraeg yn y sir.

"Oherwydd fod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru, a bod 65% o boblogaeth Gwynedd yn siarad Cymraeg, mae'r Cyngor yn ystyried y cam hwn yn un cwbl briodol.

"Credwn mai dim ond drwy roi blaenoriaeth i'r Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd fel hyn y gellir gweithio tuag at wir gydraddoldeb i'r ddwy iaith, gan fod y Saesneg eisoes yn cael ei blaenoriaethu mewn sawl rhan o fywyd cyhoeddus."

Pynciau cysylltiedig