Cannoedd o gleifion yn cael eu methu, yn ôl yr ambiwlans awyr

Hofrennydd ar safle y gwasanaeth ambiwlans awyr yn y Trallwng
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad yr elusen yw i gau'r safle yn y Trallwng a Chaernarfon a sefydlu canolfan newydd yn Rhuddlan erbyn diwedd 2026

  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o gleifion ar draws gogledd a chanolbarth Cymru yn cael eu methu gan y gwasanaeth ambiwlans awyr oherwydd diffyg adnoddau, yn ôl prif weithredwr yr elusen.

Dywedodd Sue Barnes bod angen ail-strwythuro yn sgil y cynnydd yn y galw a'r ffaith bod adnoddau yn cael eu tan ddefnyddio.

Dros gyfnod o ddwy flynedd, dywedodd Ms Barnes bod 551 o gleifion wedi eu "methu".

Ni chafodd y gwasanaeth ei ddefnyddio ar 360 o ddiwrnodau ar y safleoedd yng Nghaernarfon a'r Trallwng, meddai.

Mae'r cynllun i gau'r ddau safle ac agor un newydd ar hyd yr A55 ger Y Rhyl yn parhau i wynebu gwrthwynebiad cryf er i apêl gan ymgyrchwyr yn yr Uchel Lys fethu.

Derwyn Jones ar safle y gwasanaeth yn Nafen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Derwyn Jones yn hyderus y bydd mwy o gleifion yn elwa o ofal yr ambiwlans awyr yn sgil sefydlu'r safle newydd yn y gogledd

Mae gan y gwasanaeth ambiwlans awyr bedwar safle ar hyn o bryd - dau yn y de, un yn y canolbarth a'r llall yn y gogledd.

Mae gan bob safle hofrennydd a cheir sy'n cael eu defnyddio gan y timau gofal critigol ond safle Caerdydd yn unig sy'n weithredol 24 awr y dydd.

Gwella cydraddoldeb yn narpariaeth y gwasanaeth ar draws y wlad sydd tu ôl i'r penderfyniad i gau'r canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon a sefydlu un newydd yn Rhuddlan.

Yn ôl prif weithredwr yr elusen, bydd y newidiadau hefyd yn caniatáu i'r ambiwlans awyr weithredu 24 awr y dydd yn y gogledd hefyd.

Mae ffigyrau swyddogol yr elusen yn dangos bod 551 o alwadau ar ôl 20:00 wedi eu methu yn y canolbarth a'r gogledd rhwng 2022 a 2024. Dim ond 81 o gleifion eu gafodd eu gweld.

Cafodd 932 o gleifion eu gweld yn ystod yr un cyfnod yn y de a "dyw hynny ddim yn ddigon da", yn ôl Ms Barnes.

'Hapus efo'r penderfyniad i symud'

Mae sawl ffactor gan gynnwys y rhwydwaith ffyrdd o amgylch cymunedau gwledig yn atal hyblygrwydd y gwasanaeth, yn ôl yr elusen.

Roedd Derwyn Jones yn gweithio ar y safle yng Nghaernarfon tan yn ddiweddar, ond fe symudodd yr ymarferydd gofal clinigol i'r un yn Nafen, Llanelli, gan fod gwell cyfle iddo ddefnyddio'i sgiliau yn fwy cyson.

"Dwi'n hollol hapus efo'r penderfyniad i symud," meddai.

"Mae gen i deulu hefyd yn Sir Fôn a teulu ym Mhen Llŷn hefyd a dwi'n dawel fy meddwl bod hyn yn mynd i fod lot yn well i boblogaeth gogledd Cymru a chanolbarth Cymru."

Pryder nifer o ymgyrchwyr yw y bydd hi'n cymryd mwy o amser i'r hofrennydd gyrraedd cleifion mewn ardaloedd gwledig ar ôl cau'r safleoedd yn y Trallwng a Chaernarfon.

"Dyw'r amser ymateb ddim yn gymaint o ffactor i ni o gymharu â'r gwasanaeth ambiwlans," ychwanegodd Mr Jones.

"Nhw yw'r cyntaf i ymateb i alwad 999 bob tro. Nhw yw'r ton cyntaf a'r ambiwlans awyr yw'r ail don."

Gofal arbenigol yn lleihau marwolaethau

Yn cydweithio gyda Mr Jones ar yr hofrennydd mae ymgynghorwyr gofal brys profiadol sydd hefyd yn gweithio yn ysbytai'r gwasanaeth iechyd.

Ers sefydlu timau arbenigol o fewn yr elusen mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr wedi lleihau'r nifer o farwolaethau o ganlyniad i ergyd, gwrthdrawiad neu gwympo gan 37%, yn ôl Mr Jones.

"Yn y gorffennol, byddai claf sydd wedi dioddef ergyd yn mynd i'w ysbyty lleol i gael sgan CT a wedyn bydden nhw'n sylweddoli bod angen i'r claf fynd i ganolfan trawma ar driniaeth.

"Roedd hwn yn cymryd hyd at chwech awr a roedd pobl yn marw o ganlyniad.

"Ond erbyn hyn, hyd yn oed os ydyn ni'n cymryd ugain munud yn hirach i gyrraedd galwad, mae'r unigolyn yn derbyn y gofal cywir ac yn gallu cyrraedd canolfan trawma of fewn awr a hanner a hynny ar ben derbyn gofal critigol ar ymyl y ffordd, ar y hofrennydd neu yn un o'n ceir."

Un o'r ymgyrchwyr yn erbyn cau safle'r Trallwng, Beryl Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad i gau'r safle ambiwlans awyr yn y Trallwng yn un sydd am beryglu bywydau, meddai'r ymgyrchydd leol, Beryl Vaughan

Er gwaetha'r addewid i wella darpariaeth y gwasanaeth o'r awyr ac ar y ffordd, mae ymgyrchwyr yn dadlau y bydd trigolion ardaloedd gwledig ac anghysbell yn colli mas.

Mae Beryl Vaughan yn un o'r rhai sy'n gyfrifol am helpu i sicrhau ambiwlans awyr yn y Trallwng.

Dros y blynyddoedd mae hi wedi helpu i godi ymwybyddiaeth a channoedd ar filoedd o bunnoedd i'r elusen.

Ond yn sgil y bwriad i dynnu'r adnodd o'r ardal, mae hi wedi penderfynu i beidio parhau i gefnogi'r elusen.

"Gallai ddim credu'r peth. Maen nhw'n chwarae a bywydau ac mae o'n beth difrifol.

"Pobl leol sy'n codi'r arian ac mae cymaint sy'n ddibynnol arno."

Ychwanegodd: "Maen nhw'n sôn am symud i Ruddlan ond mae Rhuddlan yn enwog o gael niwl o'r môr. Does dim problem fel hynny fan hyn yn y Trallwng.

"Mae yna le digonol ac mae nhw'n medru codi heb ddim problem."

Cynghorydd sir Powys, Elwyn Vaughan ym maes awyr y Trallwng
Disgrifiad o’r llun,

Dydy nifer o bobl tu hwnt i'r canolbarth ddim yn sylweddoli cryfder y teimlad tuag at y penderfyniad i gau'r safle yn y Trallwng, yn ôl Elwyn Vaughan

Dywedodd y cynghorydd sir, Elwyn Vaughan: "Ers y dechrau un, maen nhw wedi bod yn gwthio'r lein y bydden nhw yn medru ymateb i fwy o alwadau, gallu ymdrin â mwy o bobl. Wel wrth gwrs os ydych chi'n lleoli'ch hun mewn llefydd trefol, mwy torfol.

"Ond hanfod y gwasanaeth ydi ei fod yn wasanaeth ar gyfer ardal gwledig. Dyna'r pwynt gwreiddiol a dyna'r pwynt maen nhw'n methu cydnabod."

Laura Davies yn ei chegin
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o ymddiriedolwyr yr elusen, Laura Davies, yn credu'n gryf taw'r prif nod yw i wella darpariaeth y gwasanaeth i bawb yng Nghymru

Tua 1% o alwadau i'r gwasanaeth Ambiwlans Awyr - 13 galwad y dydd ar gyfartaledd - sy'n gymwys ar gyfer gofal arbenigol.

Yng Ngorffennaf 2021, gŵr Laura Davies, Arwel, a'i merch ifanc, Sofia, dderbyniodd y gofal hwnnw ar y pryd wedi damwain difrifol ar y ffordd rhai milltiroedd o'u cartref yn Llanwrda, Sir Gaerfyrddin.

Daeth hofrenyddion yr ambiwlans awyr o Gaerdydd a'r Trallwng, yn ogystal â char y gwasanaeth o'i safle yn Dafen, ond yn anffodus bu farw Arwel.

"Mae'r ambiwlans awyr Cymru yn gwasanaeth sbesial iawn i ni fel teulu," meddai.

"Nid jyst yr ymateb ar y diwrnod oedd yn sbesial ond y gofal ni wedi derbyn fel teulu gan yr elusen ers y damwain. Mae hynny wedi helpu i ddeall y rhesymau a'r triniaeth cafodd Arwel a Sophia ar y diwrnod.

"Roedd hwnna i gyd yn help i ddeall pam nad yw Arwel yma rhagor."

Pynciau cysylltiedig