Cymorth osteoporosis ar 'bwynt o argyfwng' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymdeithas Frenhinol Osteoporosis yn dweud ei bod hi'n "bwynt o argyfwng" yng Nghymru o ran gofal i gleifion ag esgyrn brau.
A hithau'n ddiwrnod osteoporosis y byd, maen nhw'n galw am fynd i'r afael â'r hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel "loteri cod post" wrth drefnu cymorth.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion tasglu arbennig ddydd Iau i edrych ar y gwasanaethau ar gyfer cleifion sy'n byw â chyflwr osteoporosis, gyda'r bwriad o sicrhau mwy o gysondeb o ran triniaeth.
Mae tua 185,000 o bobl yn byw ag osteoporosis yng Nghymru. Mae'n gyflwr sy'n effeithio ar esgyrn y corff, ac yn eu gwanhau.
Mae hynny'n golygu wedyn bod peryg gwirioneddol o dorri esgyrn, a hefyd mae'r esgyrn yn gallu cymryd llawer yn hirach i wella ar ôl torri.
Mae triniaethau ar gael i reoli'r cyflwr, ond does dim gwella.
Mae'n effeithio ar ddynion a menywod, ond mae'n tueddu i fod yn fwy cyffredin ymysg menywod.
Un sy'n byw â'r cyflwr yw Catherine Richards, sy'n 52 oed o Lanelli.
"Ar fy nghorff i yn bersonol, mae e 'di effeithio ar fy nghefn i. Rwy' mewn poen dyddiol, cyson a difrifol," meddai.
"Rwy' methu gwneud pethe nawr o'n i'n cymryd yn ganiataol cyn cael y diagnosis. Mae e wedi effeithio ar fy hyder i.
"Rwy' methu codi rwbeth lan o'r llawr, coginio neu 'neud 'chydig o lanhau oherwydd bo' fi yn poeni yn ofnadwy bo' fi'n mynd i gwympo a thorri rwbeth.
"Rwy'n lwcus, ma' gyda fi help gartre, ond dyw pawb ddim mor lwcus â hynna ac felly mae'n bwysig i beidio bod â chywilydd gofyn am help.
"Gall cwymp gael canlyniade difrifol iawn i fi achos fi yn torri esgyrn mor hawdd."
'Braidd dim cefnogaeth i gael'
Mae'r ofn o gwympo a chael anaf neu dorri esgyrn yn gwneud Catherine yn nerfus iawn i adael y tŷ.
"Y cyfan dwi'n gweld yw esgyrn yn torri ac rwy'n meddwl 'o na'.
"Ro'n i yn berson hyderus cyn hyn, yn hoffi mynd mas, mynd i weld Lerpwl yn chwarae a mynd ar wyliau.
"Mae e wedi effeithio arna i hefyd yn seicolegol gyda phethe fel iselder ysbryd."
Dywedodd Catherine fod cael diagnosis cynnar yn hollbwysig, a bod angen mwy o help i gleifion ar ôl cael diagnosis hefyd.
"Rwy' 'di ffeindio bod braidd dim cefnogaeth i gael. Mae'r gymdeithas osteoporosis wedi helpu yn fawr ond dyna fe," meddai.
"Does dim llawer o gefnogaeth ac mae hynny'n poeni fi. S'dim lot o gymorth cyn, na chwaith ar ôl cael y diagnosis."
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gyfrifol am ofal Catherine, eu bod yn cydnabod pwysigrwydd diagnosis cynnar ac yn "awyddus i wella'r gwasanaeth... sydd wedi cael ei daro gan alw cynyddol a heriau staffio".
Creu tasglu newydd
Mae'r Gymdeithas Frenhinol Osteoporosis yn dweud bod lle i wella, a bod y sefyllfa yng Nghymru wedi cyrraedd "pwynt o argyfwng".
Maen nhw'n galw am sicrhau diagnosis cynnar ac wedyn y driniaeth a'r feddyginiaeth sydd ei angen ar gleifion.
Ddydd Iau mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd tasglu yn cael ei sefydlu er mwyn ceisio sicrhau cysondeb o ran triniaeth a chefnogaeth.
Ond maen nhw hefyd yn dweud fod angen newid diwylliant a sicrhau fod pobl yn cymryd cyfrifoldeb am eu cyrff eu hunain a chadw'n heini.
Dywedodd Dr Gwenan Huws, rhiwmateolegydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan a llefarydd ar ran Coleg Brenhinol y Meddygon, fod cael diagnosis cynnar yn hollbwysig gydag osteoporosis.
"Da' ni'n gwybod os yda chi'n cael un tor asgwrn da' chi'n llawer mwy tebygol o dorri asgwrn eto, ac yn aml iawn mae pobl yn torri dau, dri asgwrn cyn eu bod nhw'n cael diagnosis o osteoporosis," meddai.
"Yn y cyfnod yna ma' nhw'n gallu mynd yn llawer iawn mwy bregus, ella angen cyfnod yn yr ysbyty a falle methu byw yn annibynnol.
"Felly os yda chi'n gallu canfod y cleifion hyn ar ôl cael y tor asgwrn cynta' a dechre triniaeth i leihau'r risg o dor asgwrn arall, da' chi'n gallu caniatáu iddyn nhw fyw yn annibynnol a gwella eu cyflwr byw ac arbed cost i'r gwasanaeth iechyd.
"Da' ni'n gwybod bod nhw 'di profi bod y gost o sefydlu'r gwasanaethau yma - er bod o'n costio llawer i'w redeg - yn arbed yn aruthrol i'r gwasanaeth iechyd, felly mae'n werth pob ceiniog sy'n cael ei fuddsoddi.
"Da' ni'n arbed miliynau i'r gwasanaeth iechyd drwy atal y cleifion rhag dod i'r ysbyty, atal nhw rhag gorfod cael triniaethau llawfeddygol ar gyfer trin y tor asgwrn ac arbed y gost o edrych ar eu hôl nhw yn y gymuned."
'Mynd yn waeth cyn mynd yn well'
Mae Catherine Richards wedi dechrau mynd i gerdded gan ddefnyddio ffyn er mwyn osgoi cwympo.
Ond mae hi'n cyfaddef ei bod hi dal yn nerfus wrth adael y tŷ, yn enwedig nawr yn ystod tymor yr hydref a dail ar lawr a pherygl o lithro.
Chwe blynedd yn ôl roedd hi'n gweithio fel rheolwr siop, yn mwynhau ei swydd ac roedd dyfodol disglair o'i blaen.
Bellach mae hi wedi gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith oherwydd ei hiechyd.
"Does dim gwella. Ma' hwn yn rwbeth sy' rhaid fi fyw â fe, a bydd e'n mynd yn waeth cyn mynd yn well," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018