Tai haf: Grym cynllunio i wneud 'byd o wahaniaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae mesurau cynllunio bellach wedi dod i rym gyda'r bwriad o reoli nifer yr ail gartrefi o fewn rhai o ardaloedd gwledig Cymru.
O hyn ymlaen, bydd gan gynghorau sir yr hawl i orfodi unrhyw un sy'n newid defnydd cartref i fod yn dŷ gwyliau, ail gartref neu lety gwyliau, sicrhau caniatâd cynllunio yn gyntaf.
Ond yr awdurdodau unigol fydd yn penderfynu a ydyn nhw am ddefnyddio'r grymoedd newydd neu beidio.
Fe gofnodwyd bod 23,974 o ail dai wedi eu cofrestru yng Nghymru ar ddechrau 2022.
Mae'r ddeddf yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y Blaid Lafur â Phlaid Cymru yn y Senedd, gyda'r gallu gan gynghorau hefyd i dargedu ardaloedd penodol gyda lefelau uchel o ail eiddo ac eiddo gwyliau ar osod, er mwyn atal mwy o dai rhag eu trosi i'r sector dwristiaeth.
'Pwysau dychrynllyd'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru fore Iau, fe wnaeth yr ymgynghorydd cynllunio, Mark Roberts, esbonio'r drefn ar hyn o bryd.
"O dan y gyfundrefn bresennol mae tŷ preswyl yn cynnwys tai haf, ail gartrefi a hyn a llall, o dan dosbarth defnydd C3," dywedodd.
"Beth mae'r diwygiad presennol am ei wneud yw cyflwyno dau ddosbarth defnydd newydd sef C5, mae tai haf am ddod o dan hwnnw, a mae llety gwyliau dros dro am ddod o dan C6.
"Mae tŷ parhaol yn cael ei ddiffinio fel eiddo mae pobl yn trigo ynddo am fwy na 183 diwrnod y flwyddyn, mae C5 yn golygu 183 diwrnod neu lai.
"Mae dosbarth defnydd llety gwyliau dros dro [C6] yn golygu bod tŷ preswyl yn gallu cael ei ddefnyddio am gyfnod o 31 diwrnod yn unig."
Er y newidiadau, yn ei farn o, dydy'r mesurau "ddim yn mynd ddigon pell."
Ychwanegodd: "Mae 'na rai llefydd fel Caerfyrddin, Penfro, Eryri... maen nhw o dan bwysau dychrynllyd, er enghraifft Abersoch.
"Beth mae hyn am wneud yw rhoi'r pŵerau i Wynedd neu Sir Gâr i fedru gwneud y cyfarwyddiadau yma, ond yr unig ffordd i reoli hwn yn llym ydy newid adran 55 o'r ddeddf gynllunio - sydd am dd'eud yn glir fod newid defnydd o dŷ preswyl parhaol i dŷ haf neu ail gartref, fod angen caniatâd cynllunio."
'Gosod cap'
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, eisoes wedi croesawu cyflwyniad y ddeddf newydd pan gafodd ei gyhoeddi dros yr haf.
Hefyd yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd un o gynghorwyr Plaid Cymru'r sir ac aelod blaenllaw o'r grŵp ymgyrch Hawl i Fyw Adra, Rhys Tudur, fod y mesurau am wneud "byd o wahaniaeth".
"Dw i wrth fy modd eu bod nhw wedi mynd mor bell â rhoi'r rheoliadau yma yn eu lle, maen nhw am wneud byd o wahaniaeth.
"Mae'n gwbl amlwg fydd modd i ni allu gosod cap ar y niferoedd o dai haf sydd ymhob cymuned.
"Mae'n holl bwysig fod capiau ar eu niferoedd neu allwn ni ddim cadw'n cymunedau'n fyw a dyna pam fod y mesurau yma mor bwysig, i wneud ein cymunedau'n gynaliadwy.
"Os da chi angen cais cynllunio i droi tŷ yn dy haf mi fedar hwnnw gael ei wrthod gan yr awdurdod lleol petai nhw'n meddwl bod gormodedd yn y cymunedau rheiny.
"Mae eisiau mwy o fesurau pellach fel treth tir ar bobl sy'n prynu tŷ i fod yn ail dŷ... ond mae hwn yn sicr yn gam ymlaen ac mi fydd yn gam effeithiol iawn i ni allu rheoli niferoedd y tai haf - dim eu gwahardd yn llwyr - ond bod ni'n gallu eu rheoli nhw fel bo'r angen a'u monitro nhw yn fwy agos."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2022