Adam Price: 'Penderfyniad i'r Senedd yw'r arwisgo'
- Cyhoeddwyd
Pobl Cymru ddylai benderfynu a ddylid cael seremoni ffurfiol i gydnabod Tywysog newydd Cymru, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Dywed Adam Price mai'r Senedd ddylai wneud unrhyw benderfyniad am arwisgiad, a hynny wedi "sgwrs gyhoeddus".
Daw ei sylwadau wedi i'r Prif Weinidog Mark Drakeford ddweud na chafodd wybod o flaen llaw am benodiad William yn Dywysog Cymru - doedd y protocol ddim yn gorchymyn hynny.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fyddan nhw'n gwneud unrhyw sylw yn ystod y cyfnod galaru.
Mae BBC Cymru yn deall bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn galwad, fel mater o gwrteisi, am Dywysog newydd Cymru, cyn araith y Brenin ddydd Gwener.
Dywedodd Mr Drakeford y byddai'r Tywysog William yn cyflawni ei rôl mewn ffordd sy'n ateb gofynion y Gymru fodern, gan ychwanegu ei fod wedi cael "sgwrs gynnes" gyda'r Tywysog wedi iddo ef a'i wraig Catherine gael eu cadarnhau yn Dywysog a Thywysoges Cymru.
Dywed Mr Price ei fod eisoes wedi dweud nad oes rôl i Dywysog Cymru yn y "Gymru fodern ddemocrataidd" ac nad yw wedi newid ei feddwl.
Nid yw am dynnu'r Teulu Brenhinol i unrhyw drafodaeth wleidyddol wrth iddyn nhw alaru, meddai, ond ychwanegodd bod yr arwisgo yn wahanol gan ei fod yn benderfyniad gwleidyddol.
"Dyw e ddim yn angenrheidiol, ac yn 1911 a 1969 penderfynwyd ar y mater gan wleidyddion i bob pwrpas ac felly mae ond yn iawn i gael trafodaeth ar y mater," meddai Mr Price wrth siarad ar Radio Wales.
"Rwy'n credu bod y prif weinidog yn iawn i ddweud ei bod hi'n bwysig i ni yma yng Nghymru i gael sgwrs ynglŷn a ddylid cael seremoni - mae hynny yn rhoi statws cyfansoddiadol lled swyddogol i Dywysog Cymru."
Mae trafodaeth ddiweddar wedi bod am rôl Tywysog Cymru, gyda phôl piniwn ymhlith 1,020 o bobl yn 2022 gan ITV ac YouGov yn awgrymu bod 46% yn credu y dylid cael Tywysog Cymru arall - roedd 31% yn erbyn.
Nid nawr yw'r amser i gael trafodaeth ar y mater, meddai Mr Drakeford.
"Dwi'n credu fod yna le i drafodaeth ac fe fydd hi'n iawn i gael un, ond does dim rhaid i'r drafodaeth gyrraedd ei hanterth yr wythnos hon nac yn ystod yr wythnosau nesaf," meddai.
Mae Mr Drakeford wedi nodi eisoes na ddylai'r seremoni fod yr un fath â'r un a gynhaliwyd yng Nghastell Caernarfon yn 1969.
Dywed Mr Price ei bod hi'n bwysig cael sgwrs yng Nghymru cyn i unrhyw benderfyniad neu gyhoeddiad gael ei wneud.
"Dyna pam rwy' wedi ysgrifennu at y prif weinidog yn croesawu ei sylwadau a gofyn a yw'n cytuno mai ni yng Nghymru a ddylai wneud y penderfyniad yn dilyn sgwrs gyhoeddus cyn bod y penderfyniad yn cael ei wneud ar ein rhan," meddai.
"Rhaid i'r penderfyniad gael ei wneud gan y rhai sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd i gynrychioli pobl Cymru a hynny wedi trafodaeth a phleidlais yn y Senedd ac nid yn Llundain, gan Lywodraeth y DU."
Ar hyn o bryd mae gan y Blaid Lafur 30 sedd yn y Senedd - gyda'r 30 arall wedi'u rhannu rhwng y Ceidwadwyr (16), Plaid Cymru (13) a'r Democratiaid Rhyddfrydol (1).
Mae cynlluniau ar y gweill i gynyddu nifer yr aelodau i 96 erbyn yr etholiad nesaf yn 2026.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2022
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022