Cynnydd o 57% yn heintiau Covid yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sydd wedi eu heintio â Covid yng Nghymru yn dal i gynyddu yn ôl ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Maen nhw'n amcangyfri bod un o bob 25 - 117,600 o bobl - wedi eu heintio yn ystod yr wythnos ddaeth i ben ar 11 Hydref.
Dyma'r ffigwr uchaf ers 11 wythnos, ac yn gynnydd o 57% ar yr wythnos flaenorol.
Ond fe wnaeth ffliiw a niwmonia achosi mwy o farwolaethau yng Nghymru na Covid ym mis Medi, yn ôl y ffigyrau.
Roedd 'na gynnydd sylweddol mewn heintiau Covid yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwetha, gyda 75,000 yn dioddef o'r clefyd.
Dyma'r ffigwr uchaf ers diwedd Gorffennaf.
Cymru yw'r wlad yn y DU gyda'r lefel uchaf o'r afiechyd ar hyn o bryd. Yn Lloegr mae'r gyfradd tuag un mewn 30, yr Alban un mewn 35 ac yng Ngogledd Iwerddon un mewn 40.
Ond fe wnaeth Covid achosi llai o farwolaethau yng Nghymru na ffliw a niwmonia y mis diwetha, meddai'r ystadegau.
Covid oedd degfed prif achos marwolaeth yng Nghymru ym mis Medi.
Roedd ffliw a niwmonia yn chweched, gyda'r gyfradd farwolaeth o ganlyniad i'r ddau glefyd yn weddol debyg i'r hyn oedd e cyn y pandemig.
Covid oedd ail brif achos marwolaethau yng Nghymru drwy gydol 2021, ar ôl clefyd y galon.
Gyda phryder am don bosib arall yn yr hydref mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar bobl sy'n gymwys i fanteisio ar y cyfle i gael brechlyn atgyfnerthu yn erbyn yr haint.
Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth Dros Dro Rhaglen Frechu Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Er ei bod yn rhy fuan i ddweud gyda sicrwydd, rydym ni'n gweld arwyddion posib o don hydrefol o Covid-19. Er bod nifer y rhai sy'n mynd yn ddifrifol wael yn llawer is nag yn ystod cyfnodau cynnar y pandemig, mae'r patrwm yn dal i achosi pryder.
"Gall pawb sy'n gymwys ar gyfer brechlyn atgyfnerthu gyfrannu tuag at arafu trosglwyddiad y clefyd drwy ei dderbyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022