Merch yn achub chwaer yn tagu ar ôl cwrs cymorth cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyddiau ar ôl bod ar gwrs cymorth cyntaf, rhoddodd Emma ei sgiliau ar waith i achub ei chwaer

Mae merch chwech oed wedi diolch i'w chwaer am achub ei bywyd, ddeuddydd ar ôl iddi fod ar gwrs cymorth cyntaf.

Aeth Emma, 17, ati i roi'r gwersi ar waith ar ôl sylwi ar Magi Elen yn cael trafferth anadlu yng nghaffi'r teulu ger Aberdaron ym Mhen Llŷn.

Mi wnaeth y fyfyrwraig ddefnyddio technegau roedd hi wedi eu dysgu 48 awr ynghynt i ryddhau darn o selsig oedd yn sownd yng ngwddw Magi.

Y peth cyntaf ddywedodd ei chwaer fach wrthi ar ôl iddi ail-ddechrau anadlu oedd "I love you".

Methu anadlu

"O'n i yn y gegin yn golchi llestri a dyma Magi'n dod i mewn yn dechrau tagu", meddai Emma, sydd yn astudio cwrs sylfaen sgiliau-bywyd yng Ngholeg Llandrillo Glynllifon ger Caernarfon.

Disgrifiad o’r llun,

Ddeuddydd ar ôl bod ar gwrs cymorth cyntaf mi wnaeth Emma achub bywyd Magi Elen

"Mi wnes i ollwng y llestri a dechrau tapio hi ar ei chefn i gael y sosej allan. Oedd hi ddim yn gallu anadlu, oedd ei gwynab hi'n goch ac o'n i'n gwybod bod hi angen help.

"Y gair nath hi ddeud ar ôl i'r sosej ddod allan oedd love you."

Ddeuddydd yn gynharach roedd Emma, sydd ag anableddau dysgu ac epilepsi, wedi bod ar gwrs cymorth cyntaf yn y coleg, yn cael ei ddysgu gan Ambiwlans St Ioan Cymru.

Yn ogystal â dysgu technegau cymorth cyntaf sylfaenol, fel CPR i gadw'r cylchrediad i fynd os oes ataliad ar y galon, cafodd y dosbarth eu hyfforddi ar beth i'w wneud wneud os yw rhywun yn tagu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kim, mam Emma a Magi Elen yn dweud y dylai pawb wneud cwrs cymorth cyntaf

Dim ond canmoliaeth sydd gan Kim, mam Emma i'w merch: "Just anhygoel. Fedra i byth ddiolch digon iddi hi."

"Be' fysa wedi gallu digwydd os na fysa hi wedi gwneud y cwrs cymorth cynta? Os na fysa Emma yna, sa'i di gallu bod yn stori hollol wahanol.

"Dwi'n proud ohoni ei bod hi wedi gwneud y cwrs a dwi'n gobeithio fedar hi ddefnyddio y sgiliau eto."

Dywedodd Kim fod y stori'n tanlinellu pa mor bwysig yw gwersi cymorth cyntaf.

"Dwi'n meddwl bod o'n hynod o bwysig bod pobl yn gwneud cwrs cymorth cyntaf i allu achub a helpu pobl mewn angen. A wnawn ni byth anghofio hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ryan Cawsey yn falch fod Emma wedi gallu gwneud defnydd o'r cwrs cymorth cyntaf

Dywedodd Ryan Cawsey, yr hyrfforddwr cymunedol gydag Ambiwlans St Ioan Cymru oedd wedi dysgu Emma: "Pan glywais i stori Emma roeddwn i'n llawn balchder.

"Mae'n bwysig iawn dysgu cymorth cyntaf achos mae'n gwneud gwahaniaeth mewn argyfwng, fel mae stori Emma yn dangos.

"Well done Emma, da iawn. Gwaith gwych!"

Nôl ym Mhen Llŷn, wrth i'r teulu eistedd yn y gegin, Magi Elen sydd yn cael y gair olaf: "Diolch!"

Beth i'w wneud os oes rhywun yn tagu?

Tagu ysgafn: Eu hannog i besychu - mae'n bosib y gallan nhw glirio'r rhwystr eu hunain.

Tagu difrifol: Taro eu cefn - gofynnwch iddyn nhw bwyso ymlaen, a tharo eu cefn hyd at bum gwaith rhwng y ddwy balfais (shoulder blade) gyda gwaelod eich llaw.

Dal i dagu? Rhoi hyd at bum gwthiad i'r abdomen - sefyll tu ôl iddyn nhw, rhoi dwrn wedi ei gau uwch y botwm bol, a gyda'r llaw arall ar ei ben tynnu i fyny ac i mewn yn gyflym. (Ddim ar gyfer babannod na merched beichiog.)

Parhau i dagu? Os nad yw gwasgu'r abdomen wedi gweithio ffonio 999 a dweud bod rhywun yn tagu. Parhau i daro eu cefn a gwasgu'r abdomen nes bod help yn cyrraedd.

Os yw'r person yn mynd yn anymwybodol a ddim yn anadlu, dechrau CPR a chywasgu'r frest.

Ffynhonnell: Gwasanaeth Iechyd

Pynciau cysylltiedig