Gwerthu llawysgrif o'r gerdd Eifionydd er budd y Brifwyl

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
R Williams ParryFfynhonnell y llun, Archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eifionydd yn un o gerddi mwyaf adnabyddus R Williams Parry, ac un o'r rhai mwyaf eiconig yn Gymraeg

Mae dyn o Gricieth wedi talu dros £900 am gopi o'r gerdd Eifionydd yn llawysgrifen y bardd a'i hysgrifennodd, R Williams Parry.

Dywed Dewi Jones bod ganddo "reswm da dros ei phrynu" ac nad oedd "am adael i'r cyfle basio neu mi faswn i'n cicio fy hun".

Mae'r cliw i'r cysylltiad yn llinell olaf y gerdd lle mae'r bardd o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, yn sôn am y Lôn Goed:

A rhodio'i harddwch wrthyf f'hun / Neu gydag enaid hoff, cytûn.

Eglurodd Dewi fod brawd ei daid yn un o ffrindiau pennaf R Williams Parry, a bod y ddau yn hoff o fynd am dro ar hyd y Lôn Goed.

"Cafodd Robert Pritchard Evans o Felin Llecheiddior Bryncir ei eni yn yr un flwyddyn â Robert Williams Parry, 1884, ac roedd y ddau yn cydoesi â'i gilydd yn y coleg ym Mangor, ac yn ffrindiau pennaf.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd brawd taid Dewi Jones yn ffrind pennaf i R Williams Parry

"Pan fyddai Williams Parry yn dod i Eifionydd, byddai'n galw heibio fy hen ewythr, ac un lle yr oeddan nhw'n hoff o fynd efo'i gilydd oedd i'r Lôn Goed.

"Fy hen ewythr oedd yr 'enaid hoff, cytûn' hwnnw," meddai.

Roedd Robert Pritchard Evans yn un o 11 o blant, ond cafodd y teulu ergyd greulon adeg y Rhyfel Mawr. Cafodd ef a'i frawd, Owen Edward Evans, eu lladd tua'r un pryd â'i gilydd, yn Ffrainc yn 1917.

"Yn Yr Haf a Cherddi Eraill gan Williams Parry mae 'na gyfres o englynion iddo dan y teitl Yr Ysgolhaig, ac ar ôl y pedwar englyn hwnnw iddo fo, mae un arall i'w frawd ac yntau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Taflen goffa Robert Pritchard Evans, a'r englynion iddo gan R Williams Parry a ymddangosodd yn Yr Haf a Cherddi Eraill

"Mae'r englyn hwnnw ar garreg ym mynwent eglwys Llanfihangel y Pennant, Cwm Pennant. Nid carreg fedd mohoni achos dydyn nhw ddim wedi'u claddu yno, a 'mynor' y mae'r bardd yn ei galw hi."

Nid fan hon y dwfn hunant - dros y môr / Dyrys, maith, gorffwysant / Ond eu cofio'n gyson gânt / Ar y mynor ym Mhennant.

Hanes y llawysgrif

Syniad gan aelodau pwyllgor apêl Criccieth, Pryderi Llwyd Jones a'i wraig Eirwen, oedd cynnal ocsiwn o waith celf a gofyn i artistiaid a chrefftwyr gyfrannu eitemau i'w gwerthu.

Dywedodd Pryderi Llwyd Jones iddo gysylltu â'r arlunydd portreadau, David Griffiths, o Bwllheli'n wreiddiol, a'i fod yntau wedi sôn am yr ocsiwn wrth Arfon Haines Davies.

"Mi gysylltodd Arfon efo fi i gynnig y llawysgrif i'r ocsiwn, chwarae teg iddo," meddai Pryderi Llwyd Jones.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y llawysgrif o'r gerdd eiconig Eifionydd

"Roedd o wedi bod yn ei feddiant ers rhai blynyddoedd, ac roedd wedi ei dderbyn gan weddw T Rowland Hughes, a oedd yn byw yn ei ymyl yng Nghaerdydd.

"Roedd o'n gweld cyfle i gyfrannu i'r eisteddfod yn Llŷn ac Eifionydd, ac roeddan ninnau'n falch iawn o'i dderbyn. Roedd o'n gynnig hael iawn ac mi wnaeth yn dda iawn ar y noson."

Bu Dewi Jones yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle, ac yn athro a phrifathro yno maes o law, ac mae'n dweud bod hynny hefyd yn un o'r rhesymau iddo brynu'r llawysgrif.

Codi £8,000 ar y noson

Dywedodd Wendy Rees, cadeirydd Pwyllgor Apêl ardal Cricieth ar gyfer yr eisteddfod fod pob un y gofynnwyd iddyn nhw gyfrannu eitemau wedi bod yn "andros o barod i helpu".

"Roedd yr ocsiwn yn cael ei chynnal yn Neuadd Goffa Cricieth ac yn fyw ar Facebook ac roedd rhwng 30 a 40 o bobl yn cymryd rhan," meddai.

"Ond roedden ni fymryn yn nerfus, achos dydach chi byth yn gwybod efo'r math yma o beth. A hefyd, fyddai'r cysylltiad â'r we yn gweithio'n iawn? A be fydden ni'n wneud os oedd 'na eitemau heb eu gwerthu?

"Mi gawson ni 27 o eitemau i'w gwerthu, a dwi'n falch iawn o ddweud ein bod wedi gwerthu pob un ohonyn nhw, a chodi dros £8,000 ar y noson, sydd yn anhygoel."