'Gwefr' darganfod llythyron coll R Williams Parry
- Cyhoeddwyd
Mae casgliad newydd o lythyrau y bardd R Williams Parry sydd wedi dod i'r fei yn hynod werthfawr, ac yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r bardd, meddai'r awdur Angharad Tomos.
Mae hi'n un o dair sydd wedi bod yn darllen y llythyron coll, a'r wythnos hon bydd yn rhannu eu cynnwys yn yr Eisteddfod AmGen.
Fe gafodd y 30 llythyr newydd eu hysgrifennu dros ganrif yn ôl ac maent yn rhan o archif Cymdeithas Addysg y Gweithwyr.
Neb wedi gweld y llythyron o'r blaen
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Ms Tomos: "Digwydd dod ar draws y llythyron a wnaethon ni yn archif Cymdeithas Addysg y Gweithwyr.
"I ddechrau roeddem yn hynod o falch dod o hyd i un neu ddau lythyr gan Williams Parry at Silyn Roberts ond yna dyma ganfod mai Williams Parry oedd awdur y llythyron a ysgrifennwyd o dan yr enw Llion.
"Does neb wedi gweld y llythyron yma o'r blaen."
Llion oedd ffugenw y bardd o Ddyffryn Nantlle yn Eisteddfod 1910 pan enillodd y gadair am Awdl yr Haf.
"Mae hwn yn gasgliad gwerthfawr sydd yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o R Williams Parry fel dyn ac fel bardd," ychwanegodd Ms Tomos.
"Mae nifer fawr o'r llythyron yn sôn am ei brofiad unig yn y fyddin.
"Mewn un llythyr dywed nad oes posib cael sgwrs gall gyda neb am fwy na hanner munud heb sôn am hanner awr a bod pawb yn sôn am 'spree a'r gwn mawr'.
"Dywed hefyd bod 'rhyfel heb ramant yn waeth na marwolaeth'."
Yn y llythyron mae R Williams Parry yn crefu ar ei ffrind Silyn i newid catrawd lle roedd mwy o Gymry gan nad oedd "am fynd i'r angau yng nghwmni Cockneys", ac mae nifer o'r llythyron a ysgrifennwyd yn 1917 yn llawn cerddi coffa i ffrindiau a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ychwanegodd Ms Tomos nad oedd yn syndod i ddarllen ei eiriau ar ddiwedd y rhyfel:
'Glory be! Hallelujah! Bendigedig! Wele gyfiawnder fel y môr a heddwch fel tonnau'r môr.
'Yr wyf yn rhy orfoleddus i sgwennu bron. Rhaid i mi fynd i'r synagog neu'r dafarn.'
Bydd Angharad Tomos yn manylu ar gynnwys y llythyron sydd bellach yn rhan o archif Addysg i Oedolion yn yr Eisteddfod AmGen, dolen allanol ddydd Mercher am 10:30.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2021