Agor a gohirio cwest yn achos yr athletwraig Lucy John
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor a'i ohorio yn achos athletwraig adnabyddus a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad â char wrth iddi seiclo.
Roedd Lucy John, 35, yn ymarfer pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A48 ger cylchfan Trelales, yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr am 09:10 ddydd Sul 16 Hydref.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud bod cerbyd Honda Civic du yn rhan o'r digwyddiad, gan gadarnhau nad oedden nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r achos.
Clywodd y cwest, yn Llys Crwner Pontypridd, bod beic Ms John wedi torri yn ei hanner yn sgil y gwrthdrawiad.
Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad iddi farw yn sgil trawma'r gwrthdrawiad, a'i bod wedi torri ei chefn a'i phelfis.
"Rwy'n cael fy arwain i amau y gallai'r farwolaeth fod yn un annaturiol, a bod yr heddlu'n ymchwilio i hynny," dywedodd Crwner Cynorthwyol Canol De Cymru, Rachel Knight.
Fe gydymdeimlodd â theulu Ms John wrth ohirio'r cwest am bedwar mis tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2022