Pwy yw Ysgrifennydd Cymru David TC Davies?

  • Cyhoeddwyd
David TC DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

David TC Davies yn Downing Street cyn cael ei benodi yn Ysgrifennydd Cymru

Ar ôl tua thair blynedd fel is-weinidog yn Swyddfa Cymru mae Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy, David TC Davies, wedi cael ei ddyrchafu i'r cabinet fel ysgrifennydd Cymru gan y prif weinidog newydd, Rishi Sunak.

Ond beth ydym ni'n ei wybod am ddyn newydd Cymru o amgylch bwrdd cabinet y DU?

Rhoddwyd yr enwau canol Thomas Charles iddo ar ôl arweinydd yr ail genhedlaeth o Fethodistiaid Calfinaidd Cymru, oedd yn flaenllaw yn y gwaith o ledaenu gwybodaeth o'r Beibl yn y Gymraeg.

Oddi wrth Thomas Charles y cafodd Mary Jones o Lanfihangel-y-pennant ei Beibl ym 1800. At hynny, gweithiodd yn ddiflino i sefydlu rhagor o Ysgolion Sul a darparu defnydd ar eu cyfer.

Pan aeth yr AS Cymreig i Dŷ'r Cyffredin yn 2005 byddai'r Llefarydd yn ei alw i siarad drwy gyfeirio ato fel David TC Davies, i'w wahaniaethu oddi wrth yr AS Torïaidd o Loegr David Davis a aeth ymlaen i fod yn Ysgrifennydd Brexit.

Top Cat

Roedd rhai ASau yn ei alw'n Top Cat, cyfeiriad at y gyfres gartŵn Americanaidd o'r 1960au y cafodd ei phrif gymeriad ei adnabod fel TC i "ffrindiau agos".

Wedi'i eni yn 1970 a'i addysgu yn Ysgol Gyfun Basaleg yng Nghasnewydd, roedd taid David TC Davies ar ochr ei fam yn löwr yng nglofa Clipstone, yn Swydd Nottingham - gyda nifer yn cellwair mai ef oedd yr "unig löwr Torïaidd yn y dref".

Roedd ei dad, Peter Davies, yn Geidwadwr lleol amlwg ac yn gynghorydd o Gasnewydd, yn gymeriad poblogaidd a oedd yn aml ar y cyfryngau Cymreig.

Ar ôl ysgol bu David TC Davies yn gweithio i Ddur Prydain ac ymunodd â'r Fyddin Diriogaethol, gan dreulio 18 mis fel gynnwr gyda Chatrawd Amddiffyn Awyr 104 ym Marics Rhaglan yng Nghasnewydd.

Yna fe dreuliodd gyfnod dramor, gan gynnwys Awstralia, lle roedd ei gyflogaeth yn cynnwys cyfnodau fel hyrwyddwr clwb nos, codi cnydau tybaco a gyrrwr rickshaw.

Yn ôl yn y DU bu'n gweithio fel gyrrwr lori ac yn rheolwr ar Burrow Heath Ltd, cwmni morgludiant ei deulu.

Ymgyrchydd "Na"

Daeth i amlygrwydd ym mywyd gwleidyddol Cymru 25 mlynedd yn ôl, fel ymgyrchydd "Na" yn erbyn creu'r Cynulliad.

Roedd ar yr ochr a gollodd yn refferendwm 1997, a ddaeth ychydig fisoedd ar ôl buddugoliaeth ysgubol Llafur Tony Blair yn yr etholiad cyffredinol, er bod pleidlais y refferendwm yn dynn, 50.3% o blaid a 49.7% yn erbyn.

Roedd Mr Davies wedi sefydlu enw fel un oedd yn amau gwerth datganoli.

Ond dwy flynedd yn ddiweddarach enillodd sedd Mynwy yn y Cynulliad, yr unig Dori a etholwyd yn uniongyrchol i gynrychioli etholaeth yn hytrach nag un o'r seddi rhanbarthol.

Ymroddodd yn fuan i ddysgu Cymraeg, gan wneud argraff ar Gymry Cymraeg yr egin-sefydliad gyda'i benderfyniad i ddefnyddio'r iaith ar bob cyfle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed David TC Davies fod gan wleidyddion yr hawl i ddweud pethau sydd weithiau'n anodd eu clywed

Etholwyd David TC Davies i Dŷ'r Cyffredin yn 2005. Yn ystod ei yrfa wleidyddol mae wedi mynd i ddŵr poeth o bryd i'w gilydd oherwydd sylwadau dadleuol ar bynciau sensitif.

Yn 2006, ar ôl byrgleriaeth yn ei dŷ tra bod ei deulu yn cysgu, galwodd am ganiatáu i berchnogion tai arfogi eu hunain â gynnau Taser.

Gwahoddiad trwy gamgymeriad

Ddwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei glapio yn araf mewn cynhadledd Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Du (NBPA) pan ddywedodd y dylent adael i swyddogion gwyn fod yn aelodau llawn o'r gymdeithas ac y gallai peidio â gwneud hynny gael ei ystyried yn hiliol.

Dywedodd yr NBPA fod Mr Davies wedi bod yn amharchus.

Roedd Mr Davies, cwnstabl arbennig ar y pryd, wedi cael gwahoddiad trwy gamgymeriad, pan oedd yr NBPA eisiau clywed gan David Davis AS, cyn ysgrifennydd cartref yr wrthblaid.

Yn 2013 dywedodd y byddai ei wrthwynebiad i briodas o'r un rhyw a'i gefnogaeth i refferendwm ar aelodaeth o'r UE yn rhoi ei hun i mewn i'r categori "swivel eyed-loon, fruit cake" - dyfyniad a briodolwyd i rywun agos at y Prif Weinidog David Cameron ar y pryd.

Yn 2016 cafodd ei alwad am blant mudol sy'n cyrraedd y DU o Calais i gael prawf dannedd i wirio eu hoedran ei gondemnio gan ddeintyddion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed ei gyd-Dorïaid fod Mr Davies wedi pwyllo dros y blynyddoedd

Mae hefyd wedi bod yn feirniad di-flewyn-ar-dafod o hawliau trawsryweddol.

Yn 2018 ymunodd â sgwrs Twitter wedi i'r Blaid Lafur wahardd aelod dros dro am bostio bod "menywod traws yn ddynion".

Ysgrifennodd: "Yn bendant nid yw rhywun sy'n meddu ar bidyn a phâr o geilliau yn fenyw.

"Dylai hyn fod yn ffaith fiolegol nid yn fater ar gyfer dadl wleidyddol."

Wrth siarad ar BBC Radio Cymru y llynedd am ei farnau dadleuol, dywedodd wrth Beti George: "Dydw i ddim eisiau peri tramgwydd i neb.

"Ond, ar yr un pryd, dwi'n meddwl bod gen i, neu eraill mewn gwleidyddiaeth, yr hawl i ddweud pethau sydd weithiau'n anodd eu clywed."

Dywedodd na fyddai'n ymddiheuro am unrhyw beth yr oedd wedi'i ddweud yn y gorffennol.

Pwyllo

Dywed ei gyd-Dorïaid fod Mr Davies wedi pwyllo dros y blynyddoedd.

Treuliodd David TC Davies naw mlynedd yn cadeirio'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, bu'n gweithio fel chwip cynorthwyol y llywodraeth ac fel gweinidog iau yn y Swyddfa Gymreig cyn cael ei ddyrchafu i'r cabinet yn ysgrifennydd Cymru yr wythnos hon.

Dangosodd ei ochr bragmatig yn 2018 pan, fel Brexitwr ymroddedig, anogodd ei gyd-Ewrosgeptiaid Torïaidd yn y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd i "lyncu eu balchder" a chefnogi cytundeb "Brexit hanner torth" Theresa May neu fentro dryllio'r prosiect cyfan.

Ynghanol y lefelau cynyddol o ymddygiad ymosodol tuag at wleidyddion ar y pryd fe a ddechreuodd wisgo camera corff yn 2019 at "ddibenion amddiffyn a thystiolaeth".

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno mynegodd rwystredigaeth bod ASau yn cynrychioli seddi Lloegr yn weinidogion yn Swyddfa Cymru, ond fe'i penodwyd i'r rôl ddirprwy honno yn yr adran ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

Y tu allan i wleidyddiaeth, priododd ei gariad hir dymor o Hwngari Aliz yn 2003, maen nhw'n byw yn Nhrefynwy ac mae ganddyn nhw dri o blant.

Mae David TC Davies yn frwd dros ffitrwydd ac yn mynychu'r gampfa bob dydd.