Teyrnged i gwpl wedi gwrthdrawiad tri char yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Michael a MaryFfynhonnell y llun, Llun teulu / Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Michael a Mary McDonald 15 o wyrion a saith o or-wyrion

Mae teulu cwpl fu farw mewn gwrthdrawiad â thri char yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged iddyn nhw.

Bu farw Michael a Mary McDonald, 86 a 78, ar ffordd yr A4115 ger Arberth brynhawn Mawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Tredemel a Cross Hands tua 17:30 ond bu farw'r ddau yn y fan a'r lle.

Bu'n rhaid cludo oedolyn a dau blentyn i'r ysbyty am driniaeth hefyd wedi iddyn nhw gael anafiadau difrifol.

Wrth roi teyrnged iddynt, dywedodd y teulu fod Michael a Mary yn "rieni oedd yn cael eu caru'n fawr" gan saith o blant, 15 o wyrion a saith o or-wyrion.

Roedd y cwpl yn dod o Birmingham yn wreiddiol ond yn byw yn Ninbych y Pysgod ers 1982.

"Roedden nhw'n Gatholigion ffyddlon ac yn ymwneud yn gyson gyda chymuned y plwyf yn Ninbych-y-Pysgod ers 40 o flynyddoedd," dywedodd y teulu.

"Byddan nhw'n cael eu colli'n fawr gennym ni i gyd."

Wrth ddiolch i'r gwasanaethau brys, fe wnaeth y teulu ofyn am breifatrwydd yn ystod "cyfnod anodd".

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth yn dilyn y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig