Llety dros dro: 'Ro'n i'n byw mewn gwesty am bedwar mis'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Treuliodd Ceri gyfnod o bedwar mis mewn gwesty gyda'i babi newydd-anedig

Mae'r argyfwng prinder tai yng Nghymru yn golygu bod miloedd yn cael eu rhoi mewn llety dros dro gan awdurdodau lleol, sy'n cynnwys gwestai heb le i goginio na golchi dillad.

Yn ôl un ddynes o Wynedd wnaeth gofrestru'n ddigartref, fe dreuliodd gyfnod o bedwar mis mewn gwesty yn y sir gyda'i babi newydd-anedig oherwydd nad oedd tŷ cymdeithasol ar gael.

Mae ymchwil gan BBC Cymru yn dangos y bu cynnydd o bron i 5,000 yn nifer y bobl sy'n cael eu rhoi mewn llety dros dro gan awdurdodau lleol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae cynghorau'n disgrifio'r ffigyrau fel her aruthrol, ac elusen Shelter Cymru yn disgrifio'r sefyllfa fel pryder enfawr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi ymrwymo i ddileu digartrefedd", a'i bod yn cydnabod yr angen i symud pobl yn gynt o lety dros dro.

Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Ceri gyfnod o bedwar mis mewn gwesty gyda'i babi newydd-anedig oherwydd nad oedd tŷ cymdeithasol ar gael

Mae llety dros dro yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol i unigolion sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref pan nad oes opsiwn arall.

Mae BBC Cymru wedi clywed profiad un ddynes o Wynedd sy'n dweud iddi gael ei chartrefu mewn gwesty yng Ngwynedd heb le i goginio bwyd i'w babi am gyfnod o bedwar mis wrth aros am dŷ.

Mae Ceri bellach wedi cael ei symud o'r gwesty i dŷ dros dro newydd mewn ardal wledig o'r sir, sydd 20 milltir o lle mae ei theulu a'i ffrindiau'n byw.

'Dim ffordd o goginio bwyd'

Doedd Ceri ddim yn dymuno cael ei hadnabod, felly rydym yn defnyddio ei henw cyntaf yn unig.

Mae hi'n dal i aros am ei chartref cymdeithasol parhaol ond, yn dweud nad ydy hi'n ffyddiog y bydd hynny'n digwydd yn fuan.

"Dwi just eisiau tŷ mewn ardal lle dwi wedi dewis, lle alla i neidio ar y bỳs am 10 munud i weld ffrindiau, teulu a rhywle alla i alw'n gartref," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri a'i phlentyn bellach yn byw mewn tŷ dros dro newydd mewn ardal wledig o Wynedd

Fe gofrestrodd Ceri yn ddigartref 'nôl ym mis Ionawr yn fuan ar ôl cael babi.

Heb unman arall i fynd fe ddarparodd Cyngor Gwynedd lety dros dro iddi mewn gwesty, ond roedd hi'n dal yno bedwar mis yn ddiweddarach.

"Oeddan ni yn y broses o weanio, ond doedd dim ffordd o goginio bwyd - oll oedd yna oedd tegell yn yr ystafell," meddai Ceri.

"Roedd yn rhaid mynd allan i fwyta am dri phryd y diwrnod a hynny'n costio - teithio i dai teulu a ffrindiau i gwcio te i'r babi... ac yna trafferth ei setlo hefyd. Oedd o just yn really, really anodd."

Yn ôl Ceri, roedd rhai sefyllfaoedd hefyd wedi codi lle doedd neb wedi archebu'r ystafell ar eu cyfer, gan olygu bod yn rhaid symud i westy arall 25 milltir i ffwrdd am gyfnodau byr.

"Doeddan ni methu golchi dillad yna. Mi oedd o'n straen financial massive," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi just eisiau tŷ mewn ardal lle dwi wedi dewis," meddai Ceri

Mae Ceri bellach wedi ei symud i dŷ dros dro mewn rhan wledig o'r sir, ac er yn ddiolchgar o hynny mae hi'n dweud bod yr ansefydlogrwydd yn parhau i wneud bywyd yn anodd.

"Dwi really eisiau mynd 'nôl mewn i gwaith ond dwi'm isio commitio i gal job rownd fan'ma oherwydd fe alla i gael phonecall 'fory i ddweud bod 'na dŷ i mi mewn ardal lle dwi 'di dewis, ac mae'r ardal yna yn bell o lle dwi rŵan."

Tra nad ydy Ceri yn gweld bai ar yr awdurdod lleol, gan gydnabod y pwysau sy'n eu hwynebu, mae'n ymddangos fod ei phrofiad yn un sy'n cynyddu ar draws Cymru.

Nifer y bobl ddigartref mewn llety dros dro yng Nghymru. Nifer yr unigolion mewn llety dros dro ar ddiwedd pob mis.  .

Ym mis Awst 2020 roedd 3,577 o bobl ar draws Cymru yn byw mewn llety dros dro.

Erbyn Awst eleni fe neidiodd y nifer yna i 8,545, gyda 2,515 o'r rheiny'n blant.

Yng Ngwynedd mae 247 o bobl yn byw mewn sefyllfa debyg i Ceri, ac yn ôl yr aelod cabinet dros dai, Craig ab Iago, mae 'na bryder y bydd y sefyllfa'n gwaethygu oherwydd yr argyfwng costau byw, diffyg tai a sefyllfa "fregus ffoaduriaid Wcráin".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Craig ab Iago wedi disgrifio'r sefyllfa fel "anfoesol"

"Dydy hyn ddim yn iawn - mae'n anfoesol. Ni 'di'r chweched wlad gyfoethocaf yn y byd," meddai.

"Da' ni'n sôn am wario £6m y flwyddyn yn cartrefu pobl dros dro mewn gwely a brecwast. Ma'n anfoesol - dyma fywydau pobl."

Awdurdodau lleol sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb i gartrefu'r digartref, ac mae'r Cynghorydd ap Iago yn dweud fod pwysau ariannol yn golygu bod cynghorau ar draws Cymru yn wynebu heriau cyllidebol enfawr, a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd wrth adeiladu mwy o dai.

Wrth ymateb i sefyllfa Ceri dywedodd y Cynghorydd ab Iago fod ei stori yn "dorcalonnus".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mabon ap Gwynfor fod y sefyllfa "tu hwnt i argyfyngus"

Yn ôl cadeirydd pwyllgor trawsbleidiol llywodraeth leol a thai yn y Senedd, mae'r sefyllfa tu hwnt i argyfwng.

"Mae'n rhaid i ni weld buddsoddiad sydyn a sylweddol," meddai Mabon ap Gwynfor AS.

"Mae'r term argyfwng yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn, mor aml dwi ddim yn meddwl fod o'n cyfiawnhau y sefyllfa.

"Mae o tu hwnt i argyfyngus, ac mae awdurdodau lleol yn tynnu gwallt eu pennau ddim yn gwybod beth i'w wneud bellach.

"Mae'n rhaid canfod datrysiad sydyn neu bydd niferoedd y bobl sy'n ddigartref yn cynyddu'n sylweddol."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r bobl yn gaeth gan fod nunlle iddyn nhw symud ymlaen," medd Heddyr Gregory o Shelter Cymru

Tra bod elusen Shelter Cymru yn cydnabod yr heriau o brinder tai, maen nhw'n dweud fod y cynnydd mewn niferoedd yn bryder enfawr.

"Mae 'na gymaint yn byw mewn llety dros dro am gyfnod hirach - rhai am dros flwyddyn - ac erbyn hyn maen nhw dan ei sang," medd Heddyr Gregory o'r elusen.

"Mae prinder dybryd o lety dros dro erbyn hyn ac mae'r bobl yn gaeth gan fod nunlle iddyn nhw symud ymlaen."

Ychwanegodd bod dros 2,000 o blant bellach yn byw mewn llety dros dro, a bod hynny hefyd yn cael effaith andwyol ar addysg ac iechyd meddwl.

'Cydnabod yr angen i symud pobl yn gynt'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi ymrwymo i ddileu digartrefedd a sicrhau fod unrhyw achosion yn brin, yn fyr ac nad yw'n digwydd eto.

"Ry'n ni'n gwneud hyn trwy sicrhau fod pobl yn cael eu cefnogi i gartref addas a sefydlog, ac eleni ry'n ni wedi rhoi £10m yn ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn helpu gyda'r costau o ddarparu llety dros dro.

"Mae hyn yn rhan o'r £197m ry'n ni'n buddsoddi yn ein gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai.

"Gan gydnabod yr angen i symud pobl yn gynt o lety dros dro, ry'n ni hefyd wedi darparu £65m yn ychwanegol ar gyfer Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, sydd ar ben y £300m ry'n ni'n buddsoddi mewn tai cymdeithasol y flwyddyn ariannol yma - y ffigwr uchaf erioed."