Carcharu tri am droseddau caethwasiaeth fodern

  • Cyhoeddwyd
Jokubas Stankevicius, Ruta Stankeviciene a Normunds FreibergsFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jokubas Stankevicius, Ruta Stankeviciene a Normunds Freibergs eisoes wedi'u cael yn euog o gaethwasiaeth fodern

Mae tri o bobl wedi cael eu carcharu am gam-fanteisio ar ddyn bregus trwy ei orfodi i weithio, gan gymryd ei gyflog a'i basbort.

Fe dynnwyd cerdyn banc Rolands Kazoks, 31, oddi wrtho hefyd a chafodd ei atal rhag defnyddio cawod a chael dillad glân.

Roedd y ddau ddyn a menyw o Gasnewydd - Normunds Freibergs, 40, Jokubas Stankevicius, 59, a Ruta Stankeviciene, 57 - eisoes wedi'u cael yn euog gan reithgor o orfodi person i gyflawni llafur gorfodol.

Cafodd Freibergs ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar ddydd Gwener, tra bod Stankevicius wedi derbyn dedfryd o bedair blynedd.

Fe gafodd Stankeviciene ei dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i 20 mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis.

Cafwyd Freibergs yn euog hefyd o drefnu neu hwyluso taith person arall gyda golwg ar gam-fanteisio, ond yn ddieuog o weithredu fel gangfeistr heb drwydded.

Symud i Gymru i ennill mwy o arian

Clywodd yr achos y bu Mr Kazoks, sy'n wreiddiol o Latfia, yn byw yn Yr Almaen ond roedd eisiau adeiladu bywyd newydd yn y DU.

Fe chwiliodd am swyddi ar y we, ble gafodd ei gyflwyno i Freibergs. Roedd llun proffil Freibergs yn ei ddangos yn eistedd wrth ddesg mewn swyddfa a logo cwmni 'Thomas Recruitment' tu ôl iddo.

Bwriad y lluniau ar ei gyfrif oedd rhoi'r argraff ei fod yn gweithio i'r cwmni recriwtio, yn ôl yr erlyniad, ond doedd hynny ddim yn wir.

Ar ôl i Mr Kazoks ddarganfod y byddai'n gallu gweithio mewn becws am £8.20 yr awr a thalu £85 yn unig pob wythnos ar gyfer costau byw, fe deithiodd i Gymru.

Fe gynilodd £1,000 yn Yr Almaen a defnyddiodd yr arian i dalu rhwng €600 a €800 i Mr Freibergs fel blaendal ar gyfer llety.

Ond fe glywodd y llys, ar ôl iddo gyrraedd, y daeth Mr Kazoks i wybod y byddai'n byw mewn ystafell fach yn nhŷ Stankeviciene a Stankevicius yng Nghasnewydd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ruta Stankeviciene ei dal ar gamerâu cylch cyfyng yn tynnu arian o gyfrif banc Mr Kazkos yng Nghasnewydd

Fe wnaeth y tri diffynnydd ei dwyllo o gyfanswm o tua £10,000, gan gymryd ei basbort a rheolaeth o'i gyfrif banc.

Am 11 mis fe wnaethon nhw ei orfodi i weithio - yn gyntaf mewn becws ac yna mewn ffatri prosesu cig - a chymryd bron pob ceiniog o'i gyflog.

Dywedodd Mr Kazoks ei fod wedi cael ei fygwth pan ofynnodd beth oedd wedi digwydd i'w arian, ac fe ddywedon nhw wrtho eu bod arnyn nhw arian am rent, canfod swydd iddo a chostau'n ymwneud â Brexit.

Cydweithwyr Mr Kazoks yn y ffatri yn Y Fenni wnaeth fynegi pryder amdano i'r heddlu ar ôl ei weld yn dod i'r gwaith mewn sandalau yn yr eira.

'Wna i fyth anghofio'

Mewn datganiad i'r llys ddydd Gwener dywedodd Mr Kazoks y bydd "byth yn anghofio'r hyn wnaethon nhw i fi".

Dywedodd fod ganddo ofn dychwelyd i dde Cymru am ei fod yn poeni y gallai wynebu trais gan ffrindiau'r diffynyddion.

Ond dywedodd fod ei fywyd nawr yn wahanol iawn.

"Mae gen i ryddid, fy nghyflog y llawn, rwy'n rhentu fflat ac mae gen i gariad," meddai wrth y llys.