S4C yn 'adlewyrchu'r iaith sy'n cael ei siarad yng Nghymru'
- Cyhoeddwyd
Wrth i S4C ddathlu 40 mlynedd o ddarlledu yr wythnos hon, mae prif weithredwr y sianel yn dweud bod hi'n bwysig bod ei chynnwys "yn adlewyrchu sut mae pobl yn siarad Cymraeg heddi".
Roedd Siân Doyle yn ymateb i gwestiwn ynghylch y defnydd o'r Saesneg mewn rhaglenni Cymraeg wrth gael ei holi ar raglen Dros Frecwast.
Mae denu siaradwyr newydd, meddai, "yn rywbeth sy'n reit ar flaen ein blaenoriaethau ni" hefyd dros y 10 mlynedd nesaf, ynghyd â sicrhau bod modd gweld cynnwys S4C ar yr holl blatfformau digidol perthnasol.
Dywedodd hefyd bod y sianel yn trafod "bob dydd" sut mae parhau i sicrhau cynnwys safonol ac uchelgeisiol yn ystod yr argyfwng ariannol presennol.
Pan ofynnwyd faint o Saesneg roedd hi'n fodlon gweld ar y sianel, dywedodd Siân Doyle mai'r prif ystyriaeth yn hytrach yw "adlewyrchu sut mae pobl yn siarad Cymraeg heddiw a dyna yw ein prif flaenoriaeth".
"Y'n ni wedyn yn rhoi mwy o is-deitle ar, fel bod pobl sy'n dechre siarad Cymraeg yn gallu dilyn pethe.
"Y'n ni'n dechre sôn ynglŷn â sut y'n ni'n cael mwy o ddysgwyr i mewn a siaradwyr newydd yr iaith i'r sianel. Mae hwnne yn rywbeth sy'n reit ar flaen ein blaenoriaethe ni wrth i ni edrych ar y ddegawd nesa'."
O ran cyfraniad y sianel at hybu'r Gymraeg, dywedodd: "Mae'n bwysig bod gyda ni bethe cyfoes i bobl Cymru fel bod nhw'n gallu gweld yr iaith yn ffynnu ar y teledu neu ar TikTok neu le bynnag mae e.
"Dwi'n credu bod ni'n rhan hanfodol o hynny... ni'n gweithio gyda phartneriaid, gyda'r llywodraeth o ran cyrraedd y miliwn [targed nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2050].
"Mae hwnne'n rywbeth y'n ni'n edrych arno trwy'r amser."
Cynnwys mwy 'uchelgeisiol'
Mae'r sianel yn "hynod o falch", medd Siân Doyle, bod setliad ariannol diwethaf Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd ariannol tan Ebrill 2028.
Yn sgil y setliad yna, mae'r sianel eisoes wedi dechrau gwaith i adnewyddu'r gwasanaeth rhaglenni-ar-alw Clic dros y misoedd nesaf a'i roi ar bob platfform digidol.
Serch hynny, mae'r argyfwng ariannol bresennol yn fater "sy' ar ein meddylie ni yn bendant ar hyn o bryd" ac mae'r her o ddarparu cynnwys dan y fath amgylchiadau "yn rhywbeth y'n ni'n trafod bob dydd nawr".
Y peth pwysicaf, meddai, yw "targedu ein cynulleidfa yn dda" a sicrhau "cynnwys safonol" ac mae hi'n gobeithio y bydd gwylwyr yn "gweld gwahaniaeth achos y'n ni'n dod â cynnwys mwy uchelgeisiol i'r sianel".
Cyfeiriodd at y rhaglen Gogglebocs Cymru sy'n dechrau nos Fercher, a'r rhaglenni Cwpan y Byd dros yr wythnosau nesaf.
Mae'r sianel hefyd yn ymateb i'r newid ym mhatrymau gwylio cyffredinol trwy adael ei wylwyr ddewis sut maen nhw'n gwylio rhaglenni.
Mae'r gyfres ddrama Dal y Mellt yn cael ei darlledu fesul pennod bob nos Sul ar hyn o bryd ond mae hefyd ar gael yn ei chyfanrwydd ar-lein "fel box set i bobl sy'n dymuno gwylio'r cyfan mewn cyfnod byrrach".
"Mae'r [gwylio] llinol yn dal yn hynod o bwysig," meddai. "Mae'n cynulleidfa ni yn dal yn mynd i fod yn gwylio yn llinol, yn enwedig pethe byw - newyddion, chwaraeon, Cwpan y Byd...
"Ond wedyn fydden ni hefyd yn 'neud yn siŵr bod ni'n rhoi rhai pethe yn ddigidol hefyd fel pobl yn gallu dewis le maen nhw mo'yn gwylio a pryd maen nhw mo'yn gwylio."
Er nad yn rhagweld diwedd ar amserlenni teledu traddodiadol am gyfnod hir eto, y cwestiwn, medd, Siân Doyle yw faint o blatfformau fydd yn dod i'r amlwg yn y cyfamser.
"Mae'n bwysig fod ni fel S4C yn dala lan gyda'r rheina ac yn neud yn siŵr bod ni ar y llefydd iawn wrth i bobol wylio yn wahanol," dywedodd.
"Y'n ni'n gwybod bod pobl ifanc yn gwylio newyddion ar, er enghraifft, Instagram a TikTok. Ni nawr yn dod â newyddion ar Instagram a TikTok...
"Mae'n bwysig ein bod ni ddim dim ond yn rhoi arlwy i'r gynulleidfa draddodiadol... ond hefyd i'r gynulleidfa ifanc sy'n dod trwy'r ysgolion ac yn helpu ffynnu'r iaith Gymraeg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2022