Costau byw: Ffermwyr yn 'darged i ladron' dros y gaeaf

  • Cyhoeddwyd
Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Evans yn gobeithio gweld yr heddlu'n cynyddu eu presenoldeb mewn ardaloedd gwledig dros y gaeaf

Gallai'r argyfwng costau byw arwain at aeaf o droseddau cefn gwlad, yn ôl un undeb amaeth.

Fe ddangosodd arolwg diweddar gan NFU Mutual fod 89% o'r bobl gafodd eu holi yn credu y byddai'r sefyllfa bresennol yn arwain at gynnydd mewn troseddau gwledig.

Dywedodd un sy'n ffermio yng Ngwynedd a gollodd gar rai wythnosau yn ôl fod ffermwyr yn "darged i ladron".

Mewn ymateb, dywedodd Heddlu'r Gogledd - a fu'n cyfarfod ag undebau amaeth nos Lun - eu bod wedi "cynyddu patrolau mewn ardaloedd gwledig".

Dywed Rhodri Jones, cadeirydd NFU Cymru ym Meirionnydd, fod "pobl yr ardal yn teimlo dan warchae".

"Fydd rhaid iddo fo gael ei sortio - allith hyn ddim cario 'mlaen," meddai wrth Newyddion S4C nos Fawrth.

"Mae'n ofn mai mater o amser ydy hi tan fod rhywun yn brifo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cari Sioux yn dweud bod offer a cherbydau wedi eu dwyn o'i fferm a bod hynny'n "deimlad afiach"

Mae Cari Sioux yn ffermio yng Nghwm Cynllwyd ger Llanuwchllyn.

Dywedodd ei bod yn "amau popeth" ar ôl i offer a cherbydau ddiflannu o'r fferm yr wythnos ddiwethaf.

"Mi ddo'th 'na ladron yma nos Iau a dwyn motor-beic mawr, a motor-beic y plant, a ychydig o bethau eraill o'r siediau ar y buarth," dywedodd.

"Ti'n amau bob peth. Bob sŵn, bob golau, bob symudiad, a bob car sydd ar y ffordd 'ŵan.

"'Di o ddim yn neis iawn o gwbl, a fyswn i ddim 'isio i neb arall deimlo fel hyn chwaith achos mae o'n deimlad afiach."

'Targed i ladron'

Ychydig filltiroedd i ffwrdd ar fferm yn Rhydymain, mae Huw Evans yn dweud iddo golli Land Rover un noson rai wythnosau yn ôl.

Mae'n credu bod angen "cynyddu presenoldeb heddlu" yn yr ardal, ac ychwanegodd fod y sefyllfa "i'w weld fel petai o'n gwaethgu".

"Yn y pendraw dwi'n licio meddwl ein bod ni'n bobl heddychlon," meddai.

"'Dan ni'n mynd o gwmpas ein gwaith bob dydd, a mwy na digon i 'neud mewn diwrnod gwaith.

"Mae o'n drist bo' ni'n ffeindio'n hunain yn darged i ladron, ar raddfa fawr bellach."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn Pritchard o undeb NFU Cymru yn annog ffermwyr i fynd at yr heddlu ynghlych achosion o ladrata

Yn ôl undeb NFU Cymru, maen nhw wedi derbyn sawl cwyn dros yr wythnosau diwethaf yn ymwneud â lladrata yng nghefn gwlad.

Dywedon eu bod wedi derbyn cynnydd mewn cwynion yn benodol yn ardal Dolgellau a'r Bala.

"Y tueddiad sydd 'di bod yn yr achosion i gyd bron iawn ydy 'di o ddim jyst un ffarm yn cael ei hitio, ma' nhw'n hitio dwy neu dair efo'i gilydd," dywedodd Iestyn Pritchard o NFU Cymru.

"Felly mae'n ymgyrch ganddyn nhw mewn gwirionedd i ddod yma a dwyn.

"Ma' 'na dueddiad ynom ni fel cymuned wledig i beidio rhannu'r wybodaeth yma efo'r heddlu," ychwanegodd.

"Dwi'n meddwl yn fwy nag erioed rŵan mae o'n bwysig iawn fod pobl yn mynd allan, ac unrhyw beth ma' nhw'n ei weld, yn sicr yn mynd at yr heddlu a d'eud 'thyn nhw."

Yr heddlu i gynyddu patrolau

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd eu bod yn "gwrando ar bryderon y cymunedau ac wedi cynyddu patrolau mewn ardaloedd gwledig".

"Hoffwn hefyd annog unrhyw un sydd â beic cwad i gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu eu heiddo... ac i gysylltu â'r heddlu cyn gynted â phosib yn dilyn unrhyw ddigwyddiad."