Rhybudd i ffermwyr yn y canolbarth wedi cyfres o ladradau
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n rhybuddio ffermwyr yn y canolbarth i fod yn wyliadwrus ar ôl cyfres o ladradau ar ffermydd yn yr ardal.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae 102 o feiciau cwad wedi cael eu dwyn ym Mhowys yn unig.
Erbyn hyn, dwyn beiciau cwad yw'r drosedd fwyaf cyffredin yn y sir, yn ôl Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys.
Dywed yr heddlu fod y lladron yn dod yn fwy beiddgar a phroffesiynol a bod gangiau troseddol yn targedu ffermydd.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Ifan Charles o Heddlu Dyfed-Powys, sy'n gyfrifol am blismona ym Mhowys: "Mae Powys wedi gweld cynnydd yn y nifer o beiriannau fferm yn cael eu dwyn - mae dros 100 o feiciau cwad wedi mynd, hefyd trelars, Land Rovers a pheiriannau eraill hefyd.
"Mae Powys wedi cael lot yn fwy na Sir Benfro a Cheredigion, ond mae Sir Gaerfyrddin wedi cael tipyn wedi'i ddwyn hefyd.
"Y sialens fwyaf ym Mhowys yw y ffin a maint y sir - ni'n gweld pobl o ganolbarth Lloegr, gogledd Cymru a de Cymru sy'n rhan o giangiau trefnus sy'n dod mewn er mwyn dwyn pethau oddi wrth y ffermwyr."
Aeth lladron i fferm y teulu Jones ger Llanerfyl yng ngogledd Powys ym mis Mehefin, gan ddwyn dau Land Rover - un yn tynnu trelar - o'u buarth yn oriau mân y bore.
Roedd y teulu'n cysgu ar y pryd a heb glywed dim - ond gwelon nhw'r lladron yn mynd â'u cerbydau ar eu system CCTV y bore wedyn.
"Roedd yn annifyr iawn," meddai'r ffermwr Wali Jones. "Dwi'n meddwl tipyn o'r cerbydau ac yn trio edrych ar eu hôl nhw.
"Ro'n i wedi gwario lot ar y Land Rover yma ac i ddeall yn y bore bod y ddwy Land Rover a trelar wedi mynd ro'n i wedi chwitho ac yn teimlo'n annifyr."
Yn ffodus, roedd traciwr wedi'i osod ar un o'r cerbydau a chafodd y ddau Land Rover a'r trelar eu canfod dros y ffin yn agos i Telford.
Ond yn aml iawn dyw ffermwyr ddim yn cael eu heiddo yn ôl.
Torri hen arferion
Dywed yr heddlu bod angen i ffermwyr fod yn llawer mwy gofalus a sicrhau bod eu pethau gwerthfawr yn ddiogel er mwyn gwrthsefyll bygythiad y troseddwyr.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi arestio 15 o bobl - mae un person wedi cael ei erlyn ac mae ymchwiliadau'n parhau i nifer o bobl eraill.
Mae llawer o ffermwyr wedi ymateb i'r rhybuddion dros y blynyddoedd o'r angen i fod yn wyliadwrus, ond mae rhai yn ei chael hi'n anoddach torri hen arferion.
Oherwydd hyn, mae'n rhaid i'r undebau ffermio barhau i ailadrodd yr un negeseuon, yn ôl Wyn Evans o NFU Cymru: "Mae'n rhaid i ni ddod i'r arferiad nawr o gloi ein cerbydau ar y closydd, cloi giatiau, rhoi arwyddion i fyny a CCTV hefyd a falle ystyried rhoi tracker ar ein cerbydau.
"Unwaith mae tracker arno mae'r heddlu yn gallu dilyn lle mae'r cerbyd wedi mynd.
"Dwi'n credu bod y negeseuon wedi mynd mas ac mae'n rhaid i ni fod yn llawer mwy gwyliadwrus, cydweithio gyda'n gilydd a'r heddlu er mwyn bwrw'r troseddu yma yn llai ac yn llai."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2017