Bwlch ariannol 'argyfyngus' o £53m i Gyngor Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Cyngor Caerdydd yn wynebu'r bwlch ariannol "mwyaf erioed" yn ôl yr arweinydd Huw Thomas

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio fod cynghorau'n wynebu "sefyllfa argyfyngus" yn sgil chwyddiant a'r galw cynyddol am wasanaethau.

Yn ôl y Cynghorydd Huw Thomas, mae cyngor y brifddinas yn wynebu bwlch ariannol o £53m - y mwyaf yn ei hanes.

Dywedodd, hyd yn oed pe bai'r cyngor yn cau pob parc a llyfrgell a rhoi'r gorau i gasglu sbwriel yn llwyr, ni fyddai hynny'n ddigon i wneud yr arbedion sydd eu hangen.

Mae'r cyngor yn wynebu bil o £15m yn ychwanegol ar ynni yn unig, meddai.

Daw wrth i adroddiad gan undeb Unsain ddweud y bydd angen i gynghorau yng Nghymru arbed dros £200m yn y flwyddyn ariannol nesaf wrth i'r argyfwng costau byw ddwysau.

Cyngor Caerdydd - sy'n cael ei redeg gan y blaid Lafur - sy'n wynebu'r bwlch ariannol mwyaf o bell ffordd o ran cynghorau Cymru.

'Sefyllfa anghredadwy'

Mae Cyngor Sir Gâr eisoes wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i gynghorau ystyried cwtogi gwasanaethau os yw'r sefyllfa economaidd yn gwaethygu.

Dywedodd y cyngor hwnnw wrth BBC Cymru fis diwethaf eu bod nhw angen dod o hyd i arbedion o hyd at £22m.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd yn wynebu bil o £15m yn ychwanegol ar ynni yn unig, meddai'r arweinydd

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Iau, dywedodd y Cynghorydd Thomas ei bod yn "sefyllfa anghredadwy".

"Oherwydd pwysau chwyddiant a'r pwysau yn y galw am ein gwasanaethau ry'n ni'n wynebu bil yn y flwyddyn ariannol nesa o £15m ychwanegol mewn costau ynni yn unig.

"Wedyn mae'r pwysau o gyflog teg i'n staff ac yna disgwyl cynnydd yn y galw am ein gwasanaethau cymdeithasol i'r henoed i godi i £9m.

"Ry'n ni wedi gweld y galw'n dyblu am wasanaethau'r cyngor o ran arian a gwaith dros yr haf yn unig, felly mae'n sefyllfa argyfyngus i gynghorau ledled Cymru.

"Rhyw £53m yw'r bwlch ry'n ni'n disgwyl yng Nghaerdydd am y flwyddyn nesa - y gap mwyaf mae'r cyngor wedi ei wynebu mewn hanes."

'Ergyd ysgytwol i gymunedau'

Fis Hydref rhybuddiodd un cynghorydd sy'n gyfrifol am gyllid ar gyngor yn y gogledd bod posibilrwydd o awdurdodau'n mynd yn fethdalwyr.

Yn ôl y Cynghorydd Mike Priestley o Gyngor Sir Conwy maen nhw'n wynebu diffyg o "o leiaf £20m" y flwyddyn nesaf.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gynghorau eisoes wedi gorfod gwneud toriadau dros y blynyddoedd diwethaf i wasanaethau anstatudol, megis llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Thomas, yn rhybuddio na fyddai torri sawl gwasanaeth yn llwyr yn ddigon i gau'r bwlch ariannol maen nhw'n ei wynebu.

"Os awn ni 'nôl i lymder fel y gwelon ni 10 mlynedd yn ôl, yna dyw'r economi ddim yn mynd i dyfu a bydd cymunedau megis Caerdydd yn derbyn ergyd ysgytwol," meddai.

"Er na fydden ni'n gwneud hyn, fe allwn ni gau pob parc yn y brifddinas, cau pob llyfrgell a stopio casglu biniau yn gyfan gwbl, a byddai yna dal gap i'w lenwi.

"Dyna faint y wasgfa mae gwasanaethau lleol yn ei wynebu."

Llywodraeth Cymru'n wynebu'r un heriau

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod fod chwyddiant a chostau ynni wedi rhoi pwysau ar gyllidebau cynghorau lleol, ond yn pwysleisio fod y llywodraeth hefyd yn wynebu'r un pwysau.

"Rydyn ni hefyd yn wynebu heriau ariannol gwirioneddol oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig," meddai llefarydd fis diwethaf.

"Mae ein cyllideb werth £4bn yn llai dros y cyfnod gwario tair blynedd hwn, oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i £207m yn ychwanegol i dalu am gostau ynni'r gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn

Dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth BBC Cymru ychydig wythnosau yn ôl fod angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i £207m yn ychwanegol i dalu am gostau ynni y gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn.

Yn ôl Eluned Morgan mae'r costau ynni yn sylweddol uwch na'r £170m y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu i fynd i'r afael â'r rhestrau hir o gleifion sy'n aros am driniaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Trysorlys Llywodraeth y DU: "Rydym wedi ymrwymo i dyfu'r economi ledled y DU drwy ein cynllun twf, a fydd yn caniatáu inni ariannu a buddsoddi'n briodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

"Mae'r cyfrifoldeb am ariannu gwasanaethau cyhoeddus wedi'i ddatganoli i raddau helaeth ar draws y DU, ond rydyn ni wedi rhoi'r swm uchaf erioed o £18bn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru am y tair blynedd nesaf - y setliad adolygiad gwariant uchaf ers datganoli."