'Angen i S4C greu llai o gynnwys,' medd Guto Harri
- Cyhoeddwyd
Dylai S4C ganolbwyntio ar "gynhyrchu llai" o raglenni a phwysleisio ar ansawdd yn hytrach na darlledu o fore tan nos, yn ôl cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Rhif 10.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddydd Mercher, dywedodd Guto Harri bod gwendid hefyd wrth farchnata rhaglenni S4C.
Mewn datganiad, dywedodd S4C eu bod yn "cydnabod" bod lle i wella a bod marchnata a hyrwyddo yn flaenoriaeth iddyn nhw.
Roedd Mr Harri, sy'n gyn-aelod o Awdurdod S4C, hefyd o'r farn bod y setliad ariannol presennol ar gyfer S4C yn "eitha' da".
£88m yw cyllideb S4C eleni, a hwnnw'n gyfuniad o ffi'r drwydded a grant gan Lywodraeth San Steffan.
Yn ei dystiolaeth i'r Pwyllgor, dywedodd Mr Harri ei bod hi'n "well cynhyrchu llai a chael rhywbeth y bydd llawer o bobl yn elwa ohono na chynnal sianel linol pan fo gyda chi Gymraeg o fore tan nos ond bod cynulleidfaoedd yn fach iawn, tra bod rhaglenni gwych yn cael eu colli am nad ydyn nhw'n cael eu marchnata'n gywir".
"Weithiau mae ychydig yn llai yn cynnig tipyn mwy," meddai.
Aeth ymlaen i ddweud bod y setliad ariannol presennol i S4C "yn eitha' da" ac yn "dipyn" o arian.
"Mae llawer iawn o arian yn cael ei roi i raglenni iaith Gymraeg, dros £100m y flwyddyn pan ydych chi hefyd yn cynnwys y rhaglenni sy'n cael eu darparu am ddim gan y BBC i S4C. Felly dwi ddim yn meddwl bod yna fater o ariannu.
"Mae llawer iawn mwy o arian yn cael ei roi mewn i raglenni Cymraeg yng Nghymru na sydd 'na i raglenni Saesneg sydd wedi eu gwreiddio yng Nghymru.
"Mae siaradwyr di-Gymraeg Cymru yn gallu teimlo'n cheated i ryw raddau, weithiau, nad oes digon sy'n adlewyrchu eu byd nhw."
'Ffordd i fynd gyda'n gwaith hyrwyddo'
Roedd Mr Harri hefyd yn feirniadol o strategaeth hyrwyddo rhaglenni S4C.
"Un agwedd lle nad yw S4C wedi llwyddo hyd yn hyn yw wrth hyrwyddo'r rhaglenni gwych sy'n cael eu comisiynu gyda strategaeth gyfathrebu ffyrnig, uchelgeisiol a chadarnhaol," meddai.
Wrth ymateb i'r sylwadau, dywedodd S4C eu bod yn "derbyn y sylwadau ac yn cydnabod bod gennym ffordd i fynd gyda'n gwaith hyrwyddo".
"Mae marchnata a hyrwyddo yn flaenoriaeth fawr i ni ac yn rhan o'n strategaeth newydd ac o'n taith trawsnewid.
"Mae cynlluniau hyrwyddo clir ac uchelgeisiol gyda nifer o'n cyfresi newydd.
"Mae cyfres newydd Gogglebocs Cymru a'n drama Dal y Mellt wedi derbyn sylw anhygoel yn ddiweddar ac rydym yn edrych ymlaen i fod yn rhan o ymgyrch Cwpan y Byd ac i droi S4C yn goch dros yr wythnosau nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2022