Gwrthwynebu rhyddfraint Wrecsam i Rob a Ryan dros ffrae Mullin
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd Ceidwadol o Gyngor Wrecsam wedi gwrthwynebu cynnig i roi anrhydedd rhyddfraint y ddinas i berchnogion CPD Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Pleidleisiodd y Cynghorydd Hugh Jones yn erbyn anrhydeddu'r actorion am eu cyfraniad i'r ddinas wedi i ymosodwr y clwb, Paul Mullin, wisgo esgidiau gyda neges arnyn nhw'n sarhau'r Blaid Geidwadol.
Roedd y geiriau ar yr esgidiau, meddai'r Cynghorydd Jones, yn "neges o gasineb" ac fe feirniadodd Ryan Reynolds am hoffi llun ohonyn nhw a gyhoeddodd Mullin ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd cynnig y rhyddfraint nawr yn mynd o flaen holl gynghorwyr y sir pan fydd y cyngor llawn yn cyfarfod ar 21 Rhagfyr.
Hugh Jones a chynghorydd Ceidwadol arall, Paul Roberts, oedd yr unig aelodau o fwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam i wrthwynebu rhoi'r gair olaf i'r cyngor llawn.
"Dwi wedi ystyried yr argymhelliad yma o ddifri' dros yr wythnosau diwetha'," meddai'r Cynghorydd Jones - arweinydd grŵp Ceidwadol y cyngor a'r aelod sy'n arwain ar faterion amgylcheddol ac yn hyrwyddo'r Gymraeg.
"Dwi'n llawn ddeall yr angerdd dros Glwb PêI-droed Wrecsam, ond i mi dydy'r amseriad a'r gwerthoedd a'r blaenoriaethau ddim yn iawn.
"'Dan ni'n rhoi rhyddfraint ar adeg pan mae un o'u chwaraewyr amlycaf wedi cyhoeddi neges o gasineb i ran o'n cymuned, ac mae un o'r perchnogion wedi hoffi neges Instagram yn cynnwys y neges honno o gasineb."
"Mae'n iawn i bobl anghytuno [ond] mae casineb yn ddinistriol o le bynnag y daw. Pan ddaw o bobl amlwg, dydw i ddim yn credu bod hynny'n ateb gofynion rhyddfraint y bwrdeistref sirol."
Mae'r sefyllfa, meddai, yn codi cwestiynau ynghylch "pwy rydym am eu cydnabod yn ein cymdeithas" a pha neges y byddai'n ei roi i ysgolion a phobl ifanc.
Awgrymodd hefyd gyrff a phrojectau lleol eraill sy'n haeddu'r anrhydedd cymaint, os nad mwy, gan gynnwys Côr Meibion Rhosllannerchrugog, sylfaenwyr cwmni Moneypenny, cynhyrchwyr y brechlyn Covid-19 a chanolfan chwarae The Venture ym Mharc Caia.
Dywedodd CPD Wrecsam bod y llun o esgidiau Paul Mullin wedi'i gymryd "heb i ni wybod na rhoi caniatâd".
Ychwanegodd eu bod yn cymryd "safbwynt niwtral" ar wleidyddiaeth, a'u bod yn "delio gyda'r mater yn breifat".
Mae'r cyngor yn cynnig rhoi rhyddfraint y ddinas i'r sêr Hollywood yn sgil effaith eu penderfyniad i brynu'r clwb pêl-droed a'r sylw i'w clwb a'r ardal ers hynny o bedwar ban byd.
Mae'r enwebiad hefyd yn cydnabod hanes hir y clwb ei hun.
Yng nghyfarfod y bwrdd gweithredol, dywedodd Hugh Jones bod y clwb wedi rhoi Wrecsam ar map "ers degawdau" ac yn haeddu cydnabyddiaeth "ers cyfnod maith", diolch i wirfoddolwyr a achubodd y clwb cyn i'r actorion ei brynu.
Ond roedd arweinwyr y gwrthbleidiau - Dana Davies ar ran Llafur a Marc Jones o Blaid Cymru - yn feirniadol bod y cynnig rhyddfraint wedi mynd o flaen y bwrdd gweithredol yn hytrach nag yn syth i'r cyngor llawn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022