Ystyried Rob a Ryan ar gyfer gwobr Rhyddfraint Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ryan Reynolds a Rob McElhenneyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi codi proffil y clwb pêl-droed a'r dref

Mae Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi disgrifio eu henwebiad ar gyfer gwobr gan Gyngor Sir Wrecsam fel "braint".

Bydd cynnig yn cael ei gyflwyno i arweinwyr y cyngor ddydd Mawrth i roi anrhydedd Rhyddfraint Bwrdeistref Sirol Wrecsam i'r clwb pêl-droed a'u perchnogion o Hollywood.

Cydnabod "hanes hir y clwb o wasanaethau Wrecsam a'i phobl" yw nod bwrdd gweithredol y cyngor a "dylanwad y perchnogion newydd wrth godi ymwybyddiaeth a phroffil byd-eang Wrecsam".

Dywedodd CPD Wrecsam eu bod "wrth eu bodd".

Mewn datganiad, dywedodd McElhenney a Reynolds ei fod yn "fraint enfawr" i gael eu henwebu ar gyfer y wobr.

"Yr elfen fwyaf arwyddocaol o'r anrhydedd yw ei fod yn cydnabod ein bod wedi dechrau cyflawni yr hyn roedden ni wedi bwriadu gwneud, oddi ar y cae.

"Fel ry'n ni wedi ail-adrodd droeon, nid amdanom ni y mae hyn, fe wnaethon ni greu cyfle wnaeth y gymuned ei gofleidio'n y lle cyntaf, a nawr mae'n symud ymlaen.

"Y newyddion da yw mai dim ond cryfhau y gwnawn ni gyda'n gilydd gyda'r gymuned yn arwain."

Fe wnaeth Cyfarwyddwr Gweithredol y clwb, Humphrey Ker, dynnu sylw at y ffaith fod y clwb yn cael ei "gydnabod am ei hanes hir yn hytrach na dim ond yr oes newydd".

Ychwanegodd Mr Ker: "Fe wnaeth sawl un, cyn Rob a Ryan, yr hyn ry'n ni'n ei gyflawni heddiw yn bosib ac maen nhw'n haeddu clod am eu cyfraniad."

Os caiff y cynnig ei gymeradwyo gan y bwrdd gweithredol ddydd Mawrth 8 Tachwedd, bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng nghyfarfod llawn y cyngor ar 21 Rhagfyr.

Pynciau cysylltiedig