Rygbi: Rees-Zammit yn gefnwr yng ngêm Cymru v Ariannin

  • Cyhoeddwyd
Louis Rees-ZammitFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louis Rees-Zammit wedi chwarae dros Gymru 20 o weithiau

Bydd Louis Rees-Zammit yn newid safle i fod yn gefnwr ar gyfer gêm Cymru'n erbyn Ariannin yng Nghyfres yr Hydref ddydd Sadwrn.

Bydd Alex Cuthbert yn dychwelyd i'r asgell wedi anaf, ac mae Gareth Anscombe yn ôl yn safle'r maswr.

Dillon Lewis fydd yn safle'r prop yn lle Tomas Francis a Dan Lydiate yn flaenasgellwr yn lle Tommy Reffell.

Wrth i Pivac gyhoeddi'r newidiadau i'r tîm yn dilyn y golled o 55-23 yn erbyn Seland Newydd, does dim lle yn y garfan o 23 i Francis nac Alun Wyn Jones.

Wedi i Francis gael ei dynnu o'r cae ar hanner amser yn erbyn y Crysau Duon, bydd y prop Sam Wainwright ar y fainc.

Daeth Alun Wyn Jones i'r cae ar gyfer yr ail hanner ddydd Sadwrn diwethaf ond Ben Carter fydd yn cymryd ei le ar y fainc yr wythnos hon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru'n wynebu chwaraewyr Ariannin ddydd Sadwrn a'r gic gyntaf yn Stadiwm Principality am 17:30

Dywedodd Pivac fod rhai chwaraewyr heb gael eu cynnwys er mwyn eu bod yn holliach ar gyfer y penwythnos canlynol.

"Fe wnaeth Dillon yn dda yn Ne Affrica," dywedodd.

"Dyma'r cyfle olaf mae'n siŵr i roi dechrau i'r rhai hŷn a dysgu gymaint ag y gallwn. Mae Dillon a Dan Lydiate wedi hyfforddi'n dda.

"Mae 'na rai newidiadau o ran y fainc," ychwanegodd, gan ddweud bod rhai chwaraewyr wedi cael man anafiadau yn ystod sesiynau hyfforddi yr wythnos hon.

"Mae 'na rai bois fyddwn ni eisiau edrych arnyn nhw ar hyd y gystadleuaeth felly yn achos Nicky Smith a Rhodri Jones dyna'n sicr beth roedden ni eisiau ei wneud ar gyfer y cwpl o gemau cyntaf."

Tîm Cymru i wynebu Ariannin ar 12 Tachwedd

Louis Rees-Zammit, Alex Cuthbert, George North, Nick Tompkins, Rio Dyer, Gareth Anscombe, Tomos Williams; Gareth Thomas, Ken Owens, Dillon Lewis, Will Rowlands, Adam Beard, Dan Lydiate, Justin Tipuric (capt), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ryan Elias, Rhodri Jones, Sam Wainwright, Ben Carter, Jac Morgan, Kieran Hardy, Rhys Priestland, Owen Watkin.