Lleoliad 'parchus' i gofio aberth milwyr Tregaron

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cofebau rhyfelFfynhonnell y llun, Cyril Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ryddhad i deuluoedd cyn-filwyr Tregaron fod y cofebau rhyfel wedi cael cartref newydd

Bydd gwasanaeth yn Nhregaron ddydd Gwener i ail-gysegru cofebau rhyfel y dref, ar ôl iddyn nhw gael eu symud i gartref newydd.

Bu pryder am eu dyfodol ar ôl i hen safle Ysgol Tregaron - ble arferai'r cofebion gael eu cadw - gael ei werthu i ddatblygwr preifat.

Ar drothwy Penwythnos y Cofio, mae'r gwasanaeth yn gyfle i gymuned Tregaron i ddod at ei gilydd i nodi'r achlysur.

Yn ôl y trefnwyr, fe fydd yn sicrhau dilyniant i'r ysgol newydd, sydd â'i hetifeddiaeth yn mynd 'nôl i 1897.

Cofio aberth

Un o'r enwau sy'n cael ei restru ar y gofeb yw David Jones (Dafydd) fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gadawodd y brifysgol yn Aberystwyth, ble roedd yn astudio Cemeg ac Amaethyddiaeth yn Nhachwedd 1914.

Yn un o wyth plentyn Wern Isaf, Llanio, roedd marwolaeth Dafydd yn destun anodd ac ychydig iawn fyddai'r genhedlaeth hŷn yn sôn amdano.

Ffynhonnell y llun, Cyril Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dafydd Jones, Llanio yng Nghoedwig Mametz yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Ond dros y penwythnos, fel pob blwyddyn arall, bydd y teulu yn cofio ei aberth yng Nghoedwig Mametz.

Dywedodd Sarah Evans, wyres chwaer Dafydd ei bod hi'n bwysig iddi hi "a'r gymuned gyfan" fod y milwyr yn cael eu cofio.

"Mae'r hen ysgol wedi mynd i eiddo preifat ac roedd rhywun yn becso beth fyddai hanes y cofebion yma," meddai.

"Lle bynnag mae safle'r ysgol, dyna lle dylai cartref y cofebion fod, gan fod y milwyr yma i gyd yn gyn-ddisgyblion."

Erbyn hyn, dywedodd fod y "cofebion mewn lleoliad diogel" gyda phlant yr ysgol yn cael dysgu'r hanes fel maen nhw wedi ei wneud ers degawdau.

"Roedd angen lle parchus iddyn nhw a dwi mor hapus bod hynny yn cael ei wireddu heddiw," meddai Ms Evans.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cofebau'n "rhan o'n hanes" meddai Prifathro Ysgol Henry Richard, Dorian Pugh

Bydd munud o dawelwch i gofio am y milwyr yn ystod y seremoni ail-gysegru, a bydd cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yno i drafod Dafydd Jones.

Dywedodd Prifathro Ysgol Henry Richard, Dorian Pugh: "Mae'r cofebau yma'n rhan o'n hanes ni fel ysgol a'n cymuned ehangach.

"Roedd yn bwysig i ni fod rhain yn derbyn cartref newydd o fewn yr ysgol fel ein bod ni'n parchu'r bobl arbennig yma a fod y disgyblion presennol yn parhau i werthfawrogi'r aberthiad ac yn cofio'r hanes.

"Rydym yn ffodus iawn bod y bardd Ifor ap Glyn yn mynd i fod yn bresennol yn y seremoni i ail-gysegru'r cofebau hyfryd yma.

"Bydd hefyd yn cynnal sesiwn gyda'r disgyblion gan edrych ar hanes Dafydd Jones sef un o'r enwau ar y placiau. Bydd hyn yn sbardun i waith pellach i ddisgyblion yn yr ysgol.

"Mae dosbarthiadau hanes yn astudio rhyfeloedd byd a bydd y cofebau yma'n sbardun i astudio hanes mwy lleol sydd wir yn arbennig."

Pynciau cysylltiedig