Costau byw yn achosi mwy o blant i fethu'r ysgol?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ystafell ddosbarth wagFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pwyllgor wedi cyfeirio at dystiolaeth bod cau ysgolion yn ystod y pandemig wedi arwain at "agwedd fwy derbyniol at bresenoldeb is"

Mae yna alwadau am ymchwiliad brys i'r graddau y mae'r argyfwng costau byw yn achosi i blant Cymru fethu'r ysgol.

Yn ôl ffigyrau swyddogol roedd un o bob pum disgybl o gefndiroedd tlotach yn absennol yn gyson y llynedd.

Mae adroddiad y Senedd yn nodi bod angen gwell dealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu teuluoedd, gan dynnu sylw at drafnidiaeth, gwisg ysgol, offer a chostau tripiau ysgol.

Dywed Llywodraeth Cymru bod gwella cyfraddau presenoldeb yn flaenoriaeth genedlaethol ac mae wedi buddsoddi arian i helpu dysgwyr, gan gynnwys swyddog presenoldeb ym mhob awdurdod lleol i'r rhai mewn blynyddoedd arholiad.

Mae'r adroddiad yn dilyn ymchwiliad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sy' nodi ei fod wedi derbyn tystiolaeth bod cau ysgolion yn ystod y pandemig wedi arwain at "agwedd fwy derbyniol at bresenoldeb is mewn ysgolion", ac mae'n awgrymu bod angen ymgyrch gyhoeddus i helpu gwrthdroi'r duedd.

Absenoldeb parhaus yw pan fydd disgybl yn methu dros 20% o ddosbarthiadau yn ystod y flwyddyn ysgol.

Mae ffigyrau mis Hydref ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn rhoi presenoldeb ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar 93.1%, o'i gymharu ag 86.9% ar gyfer y rhai sydd yn gymwys.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, fod ffigyrau presenoldeb yr ymchwiliad yn "sylweddol is" ar gyfer plant mewn grwpiau blwyddyn sydd heb hawl i drafnidiaeth am ddim, ac y dylid mynd i'r afael â thlodi plant fod yn "allweddol wrth leihau absenoldeb".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Bryant yn awgrymu "cychwyn ymgyrchoedd yn genedlaethol ac yn lleol i atgyfnerthu pwysigrwydd presenoldeb yn yr ysgol"

Dywedodd Jayne Bryant, cadeirydd Llafur y pwyllgor, bod anfon plant i'r ysgol yn "fusnes drud".

"Mae'n rhaid i rieni ddod o hyd i arian ar gyfer gwisgoedd ysgol, llyfrau, technoleg, deunydd ysgrifennu, bagiau ysgol, tripiau ysgol, clybiau ar ôl ysgol," meddai.

"Mae diffyg trafnidiaeth am ddim hefyd yn broblem i lawer - mewn argyfwng costau byw gyda chwyddiant yn codi, mae hyn yn mynd yn anoddach fyth pob dydd.

"Heddiw, rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â sut mae costau cynyddol yn effeithio ar bresenoldeb disgyblion ac i gychwyn ymgyrchoedd yn genedlaethol ac yn lleol i atgyfnerthu pwysigrwydd presenoldeb yn yr ysgol."

Wrth i Covid daro'r byd addysg fe wnaeth gweinidogion annog cynghorau i beidio â dirwyo rhieni am fethu â sicrhau bod plant yn mynychu'r ysgol.

Ond fis Mai, ynghanol pryderon ynghylch presenoldeb, gofynnwyd i gynghorau fynd yn ôl at y canllawiau oedd mewn grym cyn y pandemig.

Pwysleisiodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, y dylai dirwyon fod yn "ddewis olaf" ac mai dim ond yn yr achosion mwyaf eithafol y byddent yn cael eu defnyddio.

'Rhesymau cymhleth' am y gostyngiad

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi bod yn glir bod gwella cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion yn flaenoriaeth genedlaethol.

"Rydym yn cydnabod bod y ffigyrau presenoldeb cyffredinol tua 3% yn is na chyn y pandemig a bod y rhesymau am hyn yn gallu bod yn gymhleth.

"Rydym wedi cymryd nifer o fesurau i gefnogi teuluoedd ac ysgolion, gan gynnwys buddsoddi £4m ychwanegol ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd i sefydlu perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni a disgyblion.

"Eleni fe wnaethom hefyd ddarparu £24m a oedd yn canolbwyntio ar ddysgwyr yn ystod blynyddoedd arholiadau, gan gynnwys cyllid penodol ar gyfer swyddog presenoldeb ym mhob awdurdod lleol i gefnogi dysgwyr."