Cwpan y Byd: Y garfan bêl-droed wedi gadael Cymru am Qatar
- Cyhoeddwyd
Yma o Hyd gan gefnogwyr ifanc Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Llun
Mae carfan Cymru wedi gadael am Qatar ar gyfer Cwpan y Byd.
Fe adawodd yr awyren Maes Awyr Caerdydd toc cyn 16:00 er mwyn hedfan i'r Dwyrain Canol.
Roedd cefnogwyr yno i ffarwelio a dymuno'n dda i'r chwaraewyr wrth iddyn nhw adael.
Yn gynharach ddydd Mawrth, daeth cannoedd o blant i Stadiwm Dinas Caerdydd i ffarwelio â nhw hefyd.
Bu'r garfan yn ymarfer ar y cae wedi i berfformwyr ddiddanu rhai o ddisgyblion y brifddinas.

Fe ddaeth y garfan o westy'r Fro ar fws i Faes Awyr Caerdydd er mwyn teithio i Qatar
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Fe adawodd yr awyren am Qatar brynhawn Mawrth
Wrth i'r tîm pêl-droed ddechrau ar eu taith hir o Westy'r Fro ar gyrion Caerdydd i Qatar, roedd y tîm rygbi yno i ddymuno'n dda iddyn nhw yng Nghwpan y Byd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

(o'r chwith i'r dde) Joe Rodon, Aaron Ramsey, Chris Gunter, Jonny Williams a Chris Mepham ar yr awyren

Y rheolwr Rob Page yn setlo i lawr i wylio Michael Sheen yn The Damned United
Yn y stadiwm yn gynharach yn y dydd, dywedodd Harrison a Mathew o Flwyddyn 11 yn Ysgol Bro Edern eu bod yn methu aros i weld Cymru'n chwarae yng Nghwpan y Byd.

Dydy Harrison a Mathew o Ysgol Bro Edern methu aros i weld Cymru yng Nghwpan y Byd
Neco Williams yw hoff chwaraewr Mathew, ond i Harrison dim ond un ateb sydd.
"Mae'n rhaid iddo fod yn Gareth Bale, am bopeth mae e wedi 'neud i ni!"

Roedd Soffia, Cari, Lily a Bella wedi mwynhau'r profiad o weld y chwaraewyr yn ymarfer
Roedd Soffia, Cari, Lily a Bella o flwyddyn 8 wedi bod yn aros yn eiddgar i weld y chwaraewyr yn dod allan i ymarfer.
"Dwi'n gyffrous iawn, methu aros," meddai Cari.
Ychwanegodd Soffia eu bod nhw wedi mwynhau'r awyrgylch yn y stadiwm, gyda cherddoriaeth gan Sage Todz a'r Barry Horns ymhlith eraill.
"Maen nhw wedi bod yn grêt, pawb yn canu, pawb yn dawnsio."
'Yr egni'n wych'

Bydd y rapiwr Sage Todz yn teithio i Qatar ar gyfer y twrnament, ac yn perfformio i'r cefnogwyr allan yno.
"'Oedd yr egni'n wych, ac o'dd o'n grêt gweld y plant yn joio."
"Maen nhw angen cael fi ar y pitch! Mae'n insane yndi, a dwi just yn falch bod yn rhan o'r peth."
Mae'n hyderus hefyd am obeithion Cymru yng Nghwpan y Byd.
"Curo, obviously!" meddai wrth ragweld sut wnaiff y tîm yn y gystadleuaeth.

Wrth edrych ar y cefnogwyr ifanc dywedodd Gareth Bale: "Mae'n beth anhygoel i'w weld a gallwn ni ddim aros i fynd.
"Fe wnawn ni drio gwneud chi'n falch ohonom.
"Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein cefnogi o Gymru a led led y byd, a byddwn ni'n edrych ymlaen at weld yr holl luniau a fideos o'r dathliadau."

Bu'r garfan yn ymarfer yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn gwneud y daith hir i Qatar
Dyma'r tro cyntaf i Gymru chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 1958.
Fe fydd Cymru'n chwarae eu gêm gyntaf yn erbyn yr Unol Daleithiau ddydd Llun, ac yna Iran ar 25 Tachwedd a Lloegr ar 29 Tachwedd.
'Anhygoel'
Cyn ffarwelio â'r cefnogwyr dywedodd un arall o sêr Cymru, Aaron Ramsey ei fod dal yn gorfod pinsio ei hun nad breuddwyd yw'r cyfan.
"Mae'r peth yn wir anhygoel i ni i allu gwneud hyn", meddai.
"Gobeithio allwn ni fynd allan yna a rhoi ein gorau."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dywedodd y chwaraewr canol cae ei fod yn gwbl ffit ac yn ysu i chwarae.
"Yr holl dimau mawr rydym wedi eu cael yn y gorffennol, y chwaraewyr da, roedden nhw wedi dod mor agos, ond i wneud o mae hwn wedi bod yn flynyddoedd o drio.
"Mae yna deimlad o frawdgarwch ac mae hynny'n rhan o'n llwyddiant.
"Ni'n agos at ein gilydd - a dwi'n meddwl fod hynny yn amlygu ei hun yn ffordd ni'n chwarae."


Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2022