Trywanu Merthyr Tudful: Cyhuddo dyn o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Stryd Brynmorlais, Merthyr Tudful
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷyn Stryd Brynmorlais, Merthyr Tudful, fore Sul

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio, wedi i ddau berson gael eu trywanu ym Merthyr Tudful ddydd Sul.

Mae disgwyl i Patrick Shaw, 52 oed o Benydarren, ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mawrth.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i eiddo yn Stryd Brynmorlais, Penydarren, am 08:30 fore Sul yn dilyn adroddiadau bod dau berson wedi cael eu trywanu yno.

Aethpwyd â dyn a dynes i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr am driniaeth, ac maent yn parhau yn yr ysbyty, ac mewn cyflwr sefydlog.

Pynciau cysylltiedig