Staff ysgol arbennig yn ddieuog o ymosod ar dri bachgen

  • Cyhoeddwyd
Laura Murphy a Mandy Hodges
Disgrifiad o’r llun,

Laura Murphy (chwith) a Mandy Hodges (cot ddu) yn cyrraedd Llys y Goron Abertawe yn ystod yr achos

Mae llys wedi cael dau aelod o staff mewn ysgol anghenion arbennig yn Rhondda Cynon Taf yn ddieuog o ymosod ar blant ag awtistiaeth.

Roedd yr athrawes Laura Murphy a'r cynorthwyydd dysgu Mandy Hodges yn gwadu saith cyhuddiad o ymosod drwy guro a chreulondeb i dri o fechgyn wyth, naw a 10 oed.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod y ddwy wedi'u gweld gan aelodau eraill o staff yn Ysgol Park Lane, Aberdâr yn rhwygo amddiffynwyr clust oddi ar glustiau disgybl naw oed.

Roedd yna honiadau hefyd o lusgo bachgen ar draws fuarth yr ysgol, ac o wthio bachgen arall.

Ond fe benderfynodd y rheithgor brynhawn Mercher bod Ms Murphy a Ms Hodges yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.

Pynciau cysylltiedig