Ehangu safle mewnforio nwy hylifol yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
South HookFfynhonnell y llun, BEN STANSALL

Mae cwmni South Hook LNG, sy'n mewnforio a storio nwy hylifol, wedi cadarnhau cynlluniau i ehangu ei safle ar gyrion Aberdaugleddau yn Sir Benfro.

Yn ôl y cwmni mi allai'r cynllun gael ei gwblhau erbyn Gorffennaf 2025.

Dywedodd y cwmni, sy'n cael ei ariannu gan gwmni ynni Qatar, Exxon Mobil a Total Energies, fod cyfranddalwyr wedi cefnogi cynlluniau i fuddsoddi ac ehangu'r safle.

Mae'r datblygiad yn debygol o fod yn ddadleuol gan fod ymchwil wedi dangos bod cynhyrchu a chludo nwy hylifol yn creu 10 gwaith mwy o allyriadau carbon o'i gymharu â nwy sy'n dod yn uniongyrchol o dan ddaear.

Mae South Hook LNG wedi bod yn mewnforio nwy hylifol o wahanol rannau o'r byd cyn ei droi yn nwy a'i ddosbarthu i gartrefi ers 2010.

Ar hyn o bryd, mae'r safle yn medru prosesu 15.6 miliwn tunnell o nwy y flwyddyn - tua 20% o anghenion Prydain.

Mae llywodraethau Cymru a Phrydain wedi cael cais i ymateb.

Pynciau cysylltiedig