Tancer olew o Rwsia ddim am ddychwelyd i Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Ni fydd y tancer Louie sy'n cludo olew o Rwsia yn docio yn Aberdaugleddau wedi'r cwbl, yn ôl cwmni sy'n gweithredu yn y burfa yn Sir Benfro.
Roedd gwleidyddion o Gymru wedi galw am beidio rhoi caniatâd o'r fath oherwydd ymosodiad byddin Rwsia ar Wcrain.
Dyma'r eildro i'r tancer gyhoeddi na fydd yn dod i Sir Benfro, ac yn hytrach bydd yn mynd i Antwerp yng Ngwlad Belg.
Daeth cyhoeddiad cyntaf ei fod yn newid cyfeiriad ddydd Mawrth ar ôl i sancsiynau yn erbyn llongau o Rwsia gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU.
Ond mae'r sancsiynau yn gwahardd llongau o Rwsia rhag glanio ac nid nwyddau fel nwy ac olew.
Roedd sôn ddydd Mercher fod y tancer am geisio dychwelyd i Aberdaugleddau, ar ôl hwylio o Primorsk yn Rwsia dan faner Ynysoedd Marshall.
Dywedodd llefarydd ar ran Puma Energy: "Ar hyn o bryd dyw sancsiynau Llywodraeth y DU ddim wedi targedu tanwydd sy'n cael ei fewnforio, ond beth bynnag am hynny mae'r llong wedi ei dargyfeirio ac ni fydd yn galw yn Aberdaugleddau."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford fod yr achos yn dangos yr angen am dynhau'r rheolau sancsiynau.
"Mae'n anhepgor fod y rhai gyda diddordebau yn mynd i geisio canfod bylchau a dod o hyd i ffyrdd o amgylch [y sancsiynau].
"Os mai dyna sy'n digwydd a bod y tancer yn ceisio dychwelyd i Aberdaugleddau ar sail ei fod yn credu bod bwlch yn y rheolau yna mae angen gweld gweithredu buan ar lefel Llywodraeth y DU i gau bylchau o'r fath."
'Ehangu sancsiynau'
Roedd yr AS lleol Stephen Crabb hefyd wedi datgan na ddylai'r Louie gael caniatâd i ddadlwytho yn Sir Benfro.
Dywed Mr Crabb, AS Ceidwadol Preseli Penfro, "nad yw'n dderbyniol" fod nwyddau o Rwsia dal yn gallu cael mynediad i ddyfroedd gwledydd Prydain.
Ni ymatebodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU i gais Mr Crabb i ehangu'r sancsiynau presennol i gynnwys cargo, ond cadarnhaodd "nad yw llongau sy'n cludo cargo i neu o Rwsia o fewn cwmpas y sancsiynau trafnidiaeth presennol".
Dywedodd harbwrfeistr Aberdaugleddau Mike Ryan bod Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU wedi cadarnhau nad yw'r sancsiynau yn cynnwys nwyddau sy'n dod o Rwsia.
Dywedodd Mr Ryan fod llongau fel y Louie yn cludo nwyddau o dan faner gwledydd eraill - Ynysoedd Marshall yn yr achos yma - er mwyn osgoi'r embargo.
"Rydym yn parhau i gydweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth wrth ddilyn cyfarwyddyd y llywodraeth," meddai.
"Ond nid oes gennym y grym yma i benderfynu ein hunain i osod sancsiynau ar longau sy'n dod i'r porthladd."
Mae tancer olew arall, Pluto, sy'n cludo olew o Rwsia wedi docio yn Aberdaugleddau ers dydd Sadwrn, cyn i'r sancsiynau ddod i rym.
Mae'r tancer yna hefyd yn teithio dan faner Ynysoedd Marshall.
Aberdaugleddau ydy porthladd ynni mwyaf y DU.
Wrth i'r galwadau am dynhau'r sancsiynau ar nwyddau o Rwsia barhau, mae'r corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol Cymru wedi cyhoeddi fod cynghorau yn adolygu eu cronfeydd pensiwn sy'n buddsoddi yn Rwsia.
Mae hyd at £200m o arian oddi wrth y cronfeydd pensiwn wedi ei fuddsoddi mewn cwmnïau a chronfeydd yn Rwsia.
Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y £200m yn cynrychioli llai na 1% o'r £20bn mae cynghorau Cymru wedi ei fuddsoddi mewn gwahanol wledydd.
"Mae rheolwyr cronfeydd buddsoddi yn adolygu eu strategaethau buddsoddi," meddai datganiad gan y gymdeithas.
"Yna, fe fydd o'n benderfyniad i gynghorau unigol beth maen nhw am ei wneud."
Yn y cyfamser, mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru sydd o dras Wcrainaidd wedi dweud ei fod yn deall y gallai ymdrech filwrol gan Nato i atal awyrennau rhyfel Rwsia arwain at ryfel niwclear.
Mae Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, wedi apelio ar wledydd y Gorllewin i sefydlu parth dim-hedfan uwchben y wlad.
Ond mae ysgrifennydd amddiffyn y DU wedi gwrthod y syniad, gan ddweud y byddai'n debygol o sbarduno gwrthdaro ar draws Ewrop.
Dywed Mick Antoniw ei fod yn credu fod y rhan fwyaf o bobl Wcráin yn cydnabod y risg, ac y gallai penderfyniad o'r fath weld byddinoedd y DU a Nato yn dod yn rhan o'r rhyfel.
Ond dywedodd wrth bodlediad Walescast fod Wcráin angen mwy o arfau gan wledydd eraill er mwyn fod "â'r gallu i ymladd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022