Gobaith o'r newydd i gefnogwyr ynni niwclear yn Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
WylfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r strategaeth yn crybwyll Wylfa yn Ynys Môn fel lleoliad 'dewisol'

Mae strategaeth diogelwch ynni Llywodraeth y DU wedi codi gobeithion cefnogwyr atomfa newydd yn Ynys Môn.

Mae'n awgrymu cynyddu'r defnydd o ynni niwclear, gan grybwyll safle Wylfa.

Gyda'r llywodraeth hefyd yn cynyddu targedau o ran ynni gwynt ar y môr, dywed un cwmni bod hynny'n cynnig cyfleoedd mawr i Gymru.

Ond mae gwrthwynebwyr ynni niwclear yn dweud bod trywydd y strategaeth yn eu "ffieiddio".

Mewn ymgais i hybu cyflenwadau ynni domestig y DU a lleihau allyriadau carbon, mae'r strategaeth yn cynnig targed newydd, sef i atomfeydd niwclear gyflenwi 25% o anghenion trydan y DU erbyn 2050.

Byddai angen ehangiad sylweddol o ganlyniad, ond mae pob un o atomfeydd cyfredol y DU, ac eithrio un, i fod i gael ei digomisiynu erbyn 2030.

Lleoliadau 'dewisol'

Mae Wylfa, ynghyd â Sizewell yn Suffolk ac Oldbury yn ne Sir Caerloyw, yn cael eu crybwyll fel lleoliadau dewisol, ac mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd "yn dechrau ar waith yn syth i sicrhau'r safleoedd".

Bydd corff cyhoeddus newydd, Great British Nuclear, yn cael ei sefydlu i gyflwyno prosiectau newydd, a bydd cronfa gwerth £120m yn cael ei lansio cyn diwedd Ebrill i helpu cwmnïau ddatblygu cynlluniau.

Mae partneriaeth o gwmnïau yn Unol Daleithiau America, sydd â diddordeb yn safle Wylfa, yn gobeithio cael cyfran o'r arian hwnnw, wedi i Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart deithio i Georgia ddechrau'r wythnos hon i'w cyfarfod.

Ac os oes cymeradwyaeth i'r dechnoleg yn fuan, bydd nifer o adweithyddion niwclear bychan (SMR) hefyd, medd gweinidogion, yn "rhan allweddol o biblinell y prosiect niwclear".

Mae Rolls-Royce wedi dweud wrth BBC Cymru yn y gorffennol bod Wylfa a safle'r hen atomfa yn Nhrawsfynydd yng Ngwynedd ar frig eu rhestr o leoliadau posib ar gyfer adweithyddion SMR.

Yn ôl adroddiadau mae cwmni arall sy'n datblygu'r un dechnoleg, Last Energy, hefyd â diddordeb yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Rolls-Royce
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o un o adweithyddion SMR Rolls-Royce

Mae'r strategaeth diogelwch ynni'n "gam mawr ymlaen" i Wylfa a Thrawsfynydd, yn ôl cadeirydd cangen Cymru o'r Sefydliad Niwclear, Mark Salisbury.

"Mae gyda ni safleoedd gwych yma gyda chymunedau cynhaliol sydd wedi hen arfer gyda rhedeg atomfeydd ac wedi gweld buddion cenedlaethau o gyflogaeth yn y pwerdai hyn."

Roedd cwmni Hitachi wedi bwriadu codi atomfa newydd yn Wylfa nes penderfyniad yn 2019 i atal eu cynlluniau yn dilyn methiant i ddod i gytundeb ariannol.

Dywedodd Mr Salisbury bod yna "ymdrech ar y cyd" erbyn hyn "i fynd i'r afael â thrafferthion ariannu cynlluniau niwclear gyda bil ariannu newydd a fydd yn lleihau costau adeiladu ymlaen llaw yn sylweddol".

Ychwanegodd: "Dylai hynny ei gwneud hi'n haws i godi atomfeydd ac fe fydd yn golygu ynni rhad a glân i'r defnyddiwr a fydd yn help gwirioneddol gyda phrisiau ynni."

'Dim swyddi yn fa'ma'

John Williams yw perchennog siop sglodion Y Wygyr ym mhentref Bae Cemaes ger Wylfa. Dywedodd bod angen atomfa newydd yna "er lles yr ynys".

Yn y blynyddoedd wedi i'r hen bwerdy gau, doedd dim diben agor y siop bob amser cinio gan fod llai o bobl yn mynd heibio.

"Mae wedi effeithio ar y pentref yn eitha' drwg," meddai. "Does dim swyddi yn fa'ma. Heb Wylfa fydd hi'n hollol farw yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n dawelach i fusnesau fel siop sglodion Y Wygyr ym Mae Cemaes ers i hen bwerdy'r Wylfa gau

Yn ôl Mag Richards o Gynghrair Wrth Niwclear Cymru (WANA) mae pwyslais y strategaeth ar ynni niwclear yn debygol o godi biliau ynni, yn hytrach na'u lleihau.

"Rydan ni'n ffieiddio oherwydd y cyfle anferthol sy'n cael ei golli yn fan hyn i fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu defnyddwyr a'r hinsawdd rŵan hyn," meddai.

"Rhaid i ni weithredu rŵan trwy droi at ynni adnewyddadwy a storio ynni, nid trwy ychwanegu mwy o drethi i filiau ynni sydd eisoes yn rhy uchel i ariannu technoleg na allai gyflenwi mewn pryd ac a fydd yn costio ffortiwn."

Beth arall sydd yn y strategaeth o ran Cymru?

Ffynhonnell y llun, Falck Renewables and BlueFloat Energy

Fe ddylai targedau uwch o ran faint o drydan sy'n cael ei gynhyrchu gan ffermydd gwynt ar y môr arwain at godi mwy o'r ffermydd oddi ar arfordir Cymru.

Y nod yw cynhyrchu gwerth 50 GW - digon i bweru bob cartref drwy'r DU - erbyn 2030 - ac i 5GW o hwnnw ddod yn sgil ffermydd gwynt newydd sy'n arnofio ar wyneb y môr.

Yn ôl Saurabh Shah o gwmni Falck Renewables - un o nifer o gwmnïau sy'n datblygu cynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt newydd yn y Môr Celtaidd oddi ar Sir Benfro - bydd targedau newydd yn help i ddenu buddsoddwyr.

"Mae yna stori o dwf yn fan hyn i Gymru," meddai.

"Ry'ch chi'n dechrau gyda'r prosiectau hyn a fydd ymhlith y rhai cyntaf drwy'r byd ar hyn o bryd, ac a fydd yn creu cyfleoedd posib i allforio yn y dyfodol."

Bydd yna groeso hefyd i gynlluniau i ddyblu capasiti cynhyrchu hydrogen carbon isel y DU, fel dewis amgen i nwy a phetrol, yn Aberdaugleddau ac ar Ynys Môn ble mae canolfannau hydrogen yn cael eu datblygu.

Prin yw'r cyfeiriadau yn y strategaeth i'r potensial o ran ynni llanw, oni bai am i'r llywodraeth ddatgan bwriad i "archwilio'n gryf" i'r cyfleoedd posib.

Mae gweinidogion hefyd yn dweud y byddan nhw'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r rheoleiddiwr ynni Ofgem i wella capasiti'r grid yng Nghymru.

Mae hwnnw'n faen tramgwydd ers cyfnod hir - mae rhannau o'r rhwydwaith yn llawn, gan wneud hi'n amhosib i gymunedau ychwanegu cynlluniau ynni adnewyddadwy newydd.

Ym marn Will Henson, rheolwr polisi ynni'r Sefydliad Materion Cymreig, dydy'r grid ddim yn ffit i bwrpas ar draws Cymru.

"Rydym wedi cyrraedd pwynt o benderfynu sut rydym am i'n grid cenedlaethol edrych, oherwydd dyna sy'n mynd i gynnal llawer o uchelgeisiau Cymru i gynhyrchu mwy o drydan trwy ffynonellau adnewyddadwy."

"Rhaid i ni allu plygio i mewn i'r grid yna. Mae angen iddo fod yn addas i'n anghenion ni yng Nghymru, ac [mae'r grym i wneud hynny] yn amlwg yn Llundain."

'Y cyhoedd o blaid'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Iau dywedodd un o Weinidogion Swyddfa Cymru, David TC Davies, fod cefnogaeth cyffredinol yn lleol ar gyfer datblygiad newydd ar safle Wylfa.

"Fel dwi'n ddeall mae mwyafrif pobl Ynys Môn yn gefnogol iawn o niwclear, gan gynnwys yr Aelod Senedd sy'n aelod o blaid sy'n erbyn niwclear fel arfer, y cyngor yn hollol o blaid a mae llawer o bobl yn gallu gweld y cyfleoedd," dywedodd.

Disgrifiad,

David TC Davies: 'Y pwyslais ar ynni niwclear yn dda o ran swyddi a'r Gymraeg'

"Fyswn yn hapus iawn i fyw drws nesaf i orsaf niwclear ac wrth gwrs dwi'n byw jyst i lawr y lon o Hinkley.

"Mae'r UN yn dweud fod e'n saff... mae'n lot mwy saff na llawer o ffyrdd arall o greu ynni, ac wrth gwrs os rydyn ni am gael net zero erbyn 2050 yna mae'n rhaid i ni gael niwclear.

"Mae'r UN yn dweud na fydd yn bosib i leihau carbon heb niwclear."

Ynglŷn ag ymarferoldeb cynllun newydd ar safle Wylfa, ychwanegodd: "O dan y system ar y pryd roedd rhaid iddyn nhw [Hitachi] adeiladu'r orsaf ac aros am hyd at 10 mlynedd, efallai, i gael arian yn ôl achos roedden nhw am chargio hyd at £92.5 pob megawatt awr, dyna'r pris yn llefydd arall.

"Ond bellach mae'r llywodraeth wedi newid y gyfraith i ganiatáu'r rheiny sy'n adeiladu gorsaf niwclear i gael rhan o'r arian cyn mae'r plant wedi'i orffen, y RAB model, felly mae lot mwy o ddiddordeb nawr.

"Cyn i unrhyw un ddod mewn a adeiladu gorsaf niwclear mae angen iddyn nhw brofi fod nhw'n gallu gwneud y swydd, dwi'n gallu dweud fod y cyngor, aelodau seneddau Bae Caerdydd a Westminster hollol o blaid y peth, felly mae cynrychiolwyr y cyhoedd ar Ynys Môn yn hollol o blaid."

'Rhy hwyr i ni aros am ynni niwclear'

Ond yn ôl Dylan Morgan o'r mudiad gwrth-niwclear Pobl Atal Wylfa B (PAWB), mae angen i Lywodraeth y DU ganolbwyntio ar ynni adnewyddol yn hytrach na niwclear sy'n "beryglus a budur".

"Mae 'na fwy na sibrydion wedi bod am hyn am gryn amser, be dwi'n meddwl oedd yn arwyddocaol oedd amwysedd David Davies," meddai mewn ymateb i sylwadau'r gweinidog.

Disgrifiad o’r llun,

Dylan Morgan: "Mae David Davies yn camddehongli'r mood falle ar Ynys Môn"

"Mae nhw'n sôn am darged o rŵan tan 2050, ond mae hynny'n adrodd cyfrolau, mae hyn [niwclear] yn dechnoleg beryglus, budur, eithriadol o ddrud ac araf.

"Mae gynnon ni argyfwng ynni nawr, argyfwng hinsawdd nawr, a bydd hi'n rhy hwyr i ni aros am ynni niwclear hyd yn oed os all gyfrannu mewn ffordd fach at leihau newid hinsawdd.

"Roedd Dr Gareth Wyn Jones yn pwysleisio fod angen mynd i'r afael â'r argyfyngau hyn nawr drwy harnesu'r amrywiaeth o dechnolegau adnewyddol sydd gynnon ni, sy'n lawer rhatach a chyflymach i'w hadeiladu."

Ar y gobaith o swyddi da ar yr ynys yn sgil gorsaf newydd, ychwanegodd: "Mae David Davies yn camddehongli'r mood falle ar Ynys Môn.

"Mae pobl wedi cael eu harwain i gredu fod swyddi yn dod, mae hyn wedi dechrau yn 2001 gydag adolygiad ynni cyntaf Tony Blair, gyda Blair yn 2006 yn nodi fod o eisiau gweld goraf niwclear ar hyd at wyth o safleoedd.

"Ond yn union fel Margaret Thatcher yn yr 80au oedd eisiau 10 gorsaf newydd, llwyddodd hi i gael un, a mae Blair wedi llwyddo i gael prosiect Hinkley C ar waith - ond dyw hwnnw ddim heb ei broblemau, costau ariannol, oedi a streicio ar y safle.

"Mae'n gwbl annibynadwy."

Pynciau cysylltiedig