Canslo darlithoedd wrth i staff prifysgolion streicio

  • Cyhoeddwyd
DarlithFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff y naw prifysgol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y streic

Fe fydd darlithoedd a seminarau rhai myfyrwyr yng Nghymru yn cael eu canslo wrth i filoedd o aelodau o staff ymuno â gweithredu diwydiannol drwy Brydain.

Bydd aelodau o Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn streicio ar 24, 25 a 30 Tachwedd i alw am well tâl ac amodau, a gwrthwynebu toriadau i'w pensiynau.

Bydd staff ym mhob un o'r naw prifysgol yng Nghymru yn cymryd rhan, gydag un cynrychiolydd undeb yn dweud na fedran nhw roi "yr addysg o ansawdd y mae ein myfyrwyr yn ei haeddu, a bai y cyflogwyr yw hynny".

Mae'r sefydliadau wedi dweud y byddan nhw'n gweithio i sicrhau y bydd yr effaith ar y myfyrwyr yn cael ei gadw i'r lleiaf posib.

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n deall pam eu bod yn ei wneud e, a dwi'n eu cefnogi nhw," meddai Charlie Palmer

Dywedodd Charlie Palmer, myfyriwr ail flwyddyn sy'n astudio dylunio ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru, ei fod yn cefnogi ei ddarlithwyr.

"Maen nhw'n fodlon gwneud unrhyw beth i mi, felly dwi'n barod i wneud beth bynnag sydd angen iddyn nhw," meddai.

"Mae gen i lot i'w wneud a llawer o ddarlithoedd i fynd iddyn nhw felly mae'n dipyn o bryder - ond dwi'n deall pam eu bod yn ei wneud e, a dwi'n eu cefnogi nhw."

'Gwella pethau i bawb'

Dywedodd y myfyrwyr cyfryngau a ffilm, Ben Hancock a Morgan Hulse, fod y rhan fwyaf o'u seminarau, darlithoedd a gweithdai ddydd Iau a dydd Gwener wedi'u canslo o ganlyniad i'r streic.

Ond dywedodd Ben, sydd yn ei flwyddyn gyntaf, "cyn belled â'i fod yn gwella cyflogau pobl" ei fod yn "cefnogi'n llwyr".

"Pan mae'n dod at y streiciau yma yn y brifysgol, y streiciau rheilffyrdd, unrhyw streiciau - dwi o'u plaid achos maen nhw'n gwella pethau i bawb sy'n gweithio", meddai Morgan.

"Mae'n rhaid i bawb ennill cyflog y gallan nhw fyw arno."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r myfyrwyr Ben Hancock a Morgan Hulse yn cefnogi'r streic

Mae sawl prifysgol yng Nghymru wedi dweud nad ydyn nhw'n disgwyl i'r streiciau darfu'n ormodol.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhagweld y bydd y mwyafrif o'u staff yn gweithio fel arfer.

"Ym mhob achos, bydd Met Caerdydd yn gwneud ei gorau i liniaru effaith y streic ar ddysgu ac ar brofiad y myfyrwyr," meddai llefarydd.

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn credu fod "unrhyw effaith arwyddocaol ar astudiaethau myfyrwyr yn gymharol isel".

Mae Prifysgol De Cymru yn galw ar fyfyrwyr i fynychu eu sesiynau fel arfer, oni bai eu bod yn cael gwybod fel arall.

Dywedodd sawl prifysgol, yn cynnwys Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe, eu bod yn bwriadu lliniaru'r effaith ar eu myfyrwyr, tra bod Bangor yn dweud eu bod yn siomedig â chanlyniad y pleidleisiau dros weithredu diwydiannol.

Ffynhonnell y llun, Dr Anita Nakao Pilgrim
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Anita Naoko Pilgrim mae myfyrwyr yn cefnogi'r penderfyniad i streicio

Dywedodd Dr Anita Naoko Pilgrim, cynrychiolydd yr UCU yn y Brifysgol Agored yng Nghymru fod y staff sy'n streicio yn gwneud hynny "i bob pwrpas ar gyfer y myfyrwyr".

"Dwi'n cael negeseuon drwy'r amser gan fy myfyrwyr," meddai. "Ac maen nhw'n dweud eu bod yn ein cefnogi ni."

"Ers blynyddoedd lawer nawr mae amodau gwaith mewn prifysgolion wedi dirywio. Mewn termau real, mae tâl wedi mynd lawr tua 25%.

"Mae'r sector wedi torri, ac mae angen i'r rheolwyr eistedd i lawr gyda'r undebau i'w drwsio."

Codiad cyflog o 13.6% yn 'afrealistig'

Mae Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau, sy'n trafod cyflogau ar ran prifysgolion, yn dweud fod yna "siom fawr drwy'r sector gyda'r ymdrechion i darfu ar sefydliadau Addysg Uwch drwy dargedu myfyrwyr".

Dywedodd fod galwad yr undeb am 13.6% yn fwy o gyflog yn "afrealistig" ac y byddai'n costio "oddeutu £1.5bn" i brifysgolion a pheryglu swyddi.

Mae rhai aelodau hefyd yn streicio dros bensiynau, gan honni fod toriadau yn seiliedig ar ail-werthuso gwallus o'r gronfa bensiwn.

Dywedodd llywydd Universities UK, yr Athro Steve West fod eu pensiwn yn "parhau i fod yn un o'u cynlluniau pensiwn preifat mwyaf deniadol yn y wlad, gyda chyfraniad y cyflogwr tua thair gwaith uwch na chyfraniadau cyflogwyr ar gyfartaledd ymysgu cwmnïau'r FTSE 250".

"Rydym wedi ein tristau wrth wynebu gweithredu diwydiannol unwaith eto allai darfu ar fyfyrwyr ac aelodau eraill o staff," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor: "Mae swyddogion sabothol Undeb Bangor yn cefnogi staff i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

"Fodd bynnag, rydym hefyd yn deall y gallai'r streiciau gael effaith sylweddol ar eich astudiaethau.

"Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich cwrs, dyddiadau cau, neu sut y bydd hyn yn effeithio ar eich amser yma yn y Brifysgol, rydym yn eich annog i siarad â staff yn eich ysgolion."