Logan Mwangi: 'Cyfle wedi ei golli i'w ddiogelu'

  • Cyhoeddwyd
Logan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan Mwangi ei ladd ddiwedd Gorffennaf y llynedd

Methodd bwrdd iechyd a rhannu gwybodaeth am anafiadau blaenorol a ddioddefodd bachgen pum mlwydd oed cyn ei lofruddiaeth.

Dyna gasgliad adolygiad ymarfer plant i lofruddiaeth Logan Mwangi yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Pan aeth ei fam â Logan i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Awst 2020 ar ôl iddo dorri ei fraich, fe sylwodd pediatregydd ar gyfres o gleisiau ac anafiadau eraill.

Does dim tystiolaeth bod gwybodaeth am yr anafiadau yma wedi ei rannu gydag asiantaethau tu allan i'r bwrdd iechyd.

Yn ôl yr adolygiad ni chafodd anafiadau a welwyd ar Logan Mwangi eu rhannu â "gwasanaethau a allai fod wedi cymryd camau priodol i'w ddiogelu".

31 o luniau

Yn Llys y Goron Caerdydd ym Mehefin, cafwyd ei fam, Angharad Williamson, ei lystad, John Cole a'i lysfrawd 13 oed, Craig Mulligan, yn euog o lofruddio Logan.

Cafodd ei gorff ei adael fel sbwriel ger Afon Ogwr ddiwedd Gorffennaf y llynedd.

Cafodd 31 o luniau o anafiadau Logan ym mis Awst 2020 eu tynnu gan yr ysbyty.

Roedd cleisiau uwchben ei bidyn, i'w dalcen a'i glustiau yn eu plith.

Mae'r adolygiad yn nodi y "dylai nifer o'r anafiadau, hyd yn oed ar eu pen eu hunain, fod wedi sbarduno atgyfeiriad".

Mae'n nodi'n glir "pe bai gweithwyr iechyd proffesiynol yn ystyried bod yr anafiadau ddim yn ddamweiniol, dylai fod ystyriaethau clir i nifer yr anafiadau a'r safle ar y corff, goruchwyliaeth rhieni... a oedd angen cymorth asiantaethau ehangach?"

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Angharad Williamson, Craig Mulligan a John Cole yn euog o lofruddiaeth Logan

Dywedodd y fam a'r plentyn ar y pryd mai anafiadau damweiniol oedd rhain. Doedd Angharad Williamson ddim yn gallu esbonio'r anaf uwchlaw ei bidyn.

Does gan y bwrdd iechyd na gwasanaethau i blant ddim cofnod o'r mater yma'n cael ei gyflwyno fel cyfeiriad amddiffyn plant.

Dim ond nawr yn ystod yr adolygiad yma y mae'r wybodaeth wedi dod yn wybyddus i asiantaethau eraill.

'Diffyg cyfathrebu'

Ar 17 Awst 2020, mae cofnodion yr adran iechyd yn dangos eu bod nhw wedi cysylltu â'r gwasanaethau i blant i drafod sefyllfa'r teulu.

Mae eu cofnodion nhw'n dangos bod gwasanaethau i blant yn effro i farn yr ymgynghorydd pediatrig nad oedd Logan Mwangi yn "blentyn oedd wedi dioddef anaf heb fod hynny ar ddamwain".

Mae cofnodion yr adran iechyd yn dangos bod gwasanaethau i blant wedi gofyn i'r ymgynghorydd anfon cadarnhad o'i farn mewn e-bost.

Does dim tystiolaeth bod hyn wedi cael ei wneud.

Mae'r adolygiad hefyd yn nodi na wnaeth asiantaethau rannu gwybodaeth am Logan Mwangi gyda'i dad, Ben Mwangi.

Fe fydd Mr Mwangi yn derbyn ymddiheuriad swyddogol.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan ei dynnu oddi ar y gofrestr diogelu plant fis cyn ei farwolaeth

Yn gefnlen i'r cyfan, medd yr adolygiad, mae'r cyfyngiadau cenedlaethol a osodwyd yn sgil Covid-19 a'r pwysau sylweddol ychwanegol y rhoddodd hyn ar staff proffesiynol oedd eisoes o dan bwysau.

Ond mae hefyd yn nodi na chafodd llais Logan Mwangi ei glywed ar ei ben ei hun, a bod angen gwella diwylliant y bwrdd iechyd fel bod modd "chwythu chwiban".

Mae gan fyrddau rhanbarthol diogelu plant gyfrifoldeb statudol i gynnal adolygiadau mewn achosion difrifol lle daeth camdriniaeth i'r amlwg.

Mae adolygiad Bwrdd Cwm Taf Morgannwg i lofruddiaeth Logan Mwangi yn un pellgyrhaeddol - ar draws asiantaethau.

Fe gymrodd yr asiantaethau isod ran yn yr adolygiad.

  • Heddlu De Cymru

  • Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

  • Gwasanaethau i blant awdurdodau lleol

  • Carfan ar ddyletswydd ar gyfer argyfyngau gwasanaethau cymdeithasol

  • Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol gan gynnwys Cymorth Cynnar

  • Landlord cymdeithasol cofrestredig

  • CAFCASS Cymru

  • Gwasanaethau cam-drin domestig

  • Gwasanaethau prawf

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod mewn afon, 250 metr o'i gartef

Mae'r adolygiad hefyd yn tynnu sylw at gefndir troseddol y llystad John Cole, ei aelodaeth o'r National Front a'r ffaith bod ei record yn cynnwys ymosodiad ar blentyn.

Drwyddi draw, medd yr adolygiad, doedd y gwasanaethau proffesiynol ddim wedi ystyried effaith cefndir aml-hil Logan Mwangi.

56 o anafiadau allanol

Yn gynharach eleni clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Logan fel carcharor yn nyddiau ola' ei fywyd byr.

Roedd wedi cael Covid ac fe gafodd ei gadw'n gaeth yn ei 'stafell wely.

Fe gafodd ei i orfodi i wisgo mwgwd a mynd heb fwyd a chael ei guro'n barhaus.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod yr achos llys aeth y rheithgor i weld yr ystafell ble cafodd Logan ei gadw - tu ôl i giât ar y drws - yn y dyddiau cyn iddo farw

Pan fu farw roedd gan Logan 56 o anafiadau allanol. Bu farw o anafiadau mewnol.

Roedd ei afu wedi rhwygo, roedd yna dyllau i'w goluddyn ac roedd ei ymennydd wedi dioddef trawma.

Beio'i gilydd am gamdriniaeth a dioddefaint Logan y gwnaeth Angharad Williamson, John Cole a Craig Mulligan.

Carcharwyd Williamson am 28 o flynyddoedd a Cole am 29 o flynyddoedd. Bydd Mulligan o dan glo am 15 mlynedd.

Argymhellion

Adolygiad estynedig yw'r un yma - am fod Logan wedi marw ac wedi bod ar gofrestr amddiffyn plant o fewn chwe mis.

Mae adolygiad Bwrdd Cwm Taf Morgannwg yn gwneud cyfres o argymhellion - 10 yn rhai lleol i ardal y bwrdd a phump yn rhai cenedlaethol Cymru gyfan.

Ymhlith yr argymhellion lleol mae cynnal adolygiad o sut mae'r bwrdd iechyd yn ymdrin ag anafiadau plant sydd ddim yn ddamweiniol, adolygu rhannu gwybodaeth, gwella dadansoddi risg, gwneud yn siŵr bod staff yn ymwybodol o hawliau am bryder diogelu, codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am rannu pryderon am blant.

Ac mae pum argymhelliad i Gymru:

  • Canllawiau am ddyletswydd i hysbysu a chynnwys pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant mewn asesiadau a phrosesau amddiffyn plant;

  • Llywodraeth Cymru i ystyried comisiynu adolygiad Cymru gyfan o ddulliau o gynnal cynadleddau amddiffyn plant effeithiol ar draws asiantaethau ar ôl Covid-19;

  • Llywodraeth Cymru i ystyried comisiynu ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol flynyddol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut i adrodd am bryderon diogelu;

  • Argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried comisiynu adolygiad llawn o systemau cofnodi, casglu a rhannu gwybodaeth gan yr adrannau Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Addysg a'r Heddlu;

  • Ystyried gosod isafswm o 12 wythnos ar gyfer unrhyw asesiad gwaith cymdeithasol mewn achosion cyfraith.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, ei bod yn croesawu'r adolygiad.

"Mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi o'r adolygiad ac rydym yn derbyn yr argymhellion sy'n ymwneud â Llywodraeth Cymru.

"Rwy'n disgwyl i'r holl asiantaethau i gymryd eu hamser i brosesu hyn a byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau fod yna symud ymlaen ar argymhellion cenedlaethol eraill er mwyn sicrhau fod yna newidiadau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae teyrngedau newydd wedi eu gosod er cof am Logan Mwangi ym Mharc Pandy, Sarn

Dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, fod yr adroddiad yn un anodd i'w ddarllen ac yn codi cwestiynau "yn enwedig pan mae'n datgan argymhellion rydym wedi eu clywed mewn adroddiadau blaenorol".

"Nid yw'n eglur sut mae'r byrddau diogelu rhanbarthol yn atebol o ran rhoi argymhellion ar waith... a dyw hi ddim yn glir sut mae'r hyn rydym yn ei ddysgu o adolygiadau unigol yn cael eu defnyddio ar lefel genedlaethol."

Yn ôl NSPCC Cymru mae angen i Lywodraeth Cymru i weithredu nawr er mwyn sicrhau cyd-weithredu mwy effeithiol rhwng asiantaethau wrth drafod diogelwch plant a sicrhau system "sy'n rhwystro creulondeb neu esgeuluso plant".

"Mae'n drasiedi na chafodd llais Logan ei glywed yn ystod ei fywyd byr.

"Mae'n rhaid i hyn fod yn drobwynt sy'n sicrhau na fydd llais unrhyw blentyn sydd angen cymorth ddim yn cael ei glywed."

Galwodd y Ceidwadwyr a Plaid Cymru am adolygiad annibynnol o'r sector yn ymwneud â gwaith cymdeithasol plant a gwasanaethau plant drwy Gymru.