'Gwersi i'w dysgu' o farwolaeth drasig Logan Mwangi

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rhaid sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cefnogi'n iawn, medd Jane Dodds

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi galw am ymchwiliad annibynnol i wasanaethau plant mewn ymgais i atal trasiedi tebyg i farwolaeth Logan Mwangi.

Ddydd Iau cafodd ei fam, llystad a bachgen 14 oed ddedfrydau oes am lofruddiaeth y bachgen pum mlwydd oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Pan gafwyd hyd i gorff Logan yn Afon Ogwr roedd ganddo 56 o anafiadau allanol, a niwed mewnol difrifol i'w abdomen.

Mewn ymateb i'r digwyddiad mae galwadau wedi cynyddu am gamau cenedlaethol i geisio rhwystro'r un peth rhag digwydd eto.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd yn "ystyried yn ofalus" canlyniadau arolygiad diweddar o wasanaethau plant Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Williamson, 31, Craig Mulligan, 14, a John Cole, 40 wedi eu dedfrydu i oes o garchar

Bydd mam Logan, Angharad Williamson, dan glo am o leiaf 28 o flynyddoedd, a John Cole am isafswm o 29 mlynedd.

Cafodd Craig Mulligan, a gafodd ei enwi'n gyhoeddus am y tro cyntaf ddydd Iau, ddedfryd oes hefyd a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 15 mlynedd yn y ddalfa.

'Rhaid dysgu gwersi'

Gweithiodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, am dros 25 mlynedd fel gweithiwr cymdeithasol yn y maes amddiffyn plant.

Mae hi eisiau gweld adolygiad llawn ac annibynnol o wasanaethau ar draws Cymru.

Dywedodd: "Mae'r achos hwn yn gwbl drasig ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu fel nad yw byth yn digwydd eto.

"Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn glir iawn, yn dilyn nifer o ddigwyddiadau brawychus, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi adolygiad o fesurau amddiffyn plant ledled Cymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jane Dodds: "Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu fel nad yw hyn byth yn digwydd eto"

"Mae gweithwyr cymdeithasol, eu rheolwyr, gweithwyr cymorth i deuluoedd a chydweithwyr yn y systemau iechyd ac addysg yn gweithio'n galed i amddiffyn plant.

"Ond, mae angen mwy i helpu gweithwyr cymdeithasol i wneud eu gwaith ac mae angen Prif Weithiwr Cymdeithasol i Blant - fel sydd ganddynt yn Lloegr.

"Mae'r Alban a Lloegr yn cynnal ymchwiliadau annibynnol i gyflwr gwasanaethau cymdeithasol plant yn eu hawdurdodaeth. Does dim rheswm i Gymru beidio â gwneud yr un peth."

Gan bwysleisio'r angen iddo fod yn "hollol annibynnol", dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae angen rhywun sy'n gallu cymryd cam yn ôl o hyn, sydd ddim yn gweithio i'r llywodraeth na gwasanaethau cymdeithasol.

"Dwi'n siŵr, ar ôl digwyddiad mor drist, fod morâl y gweithwyr cymdeithasol a gwasanaethau iechyd yn y blaen yn isel a'u bod yn teimlo'n ofnadwy.

"Dwi eisiau sicrhau fod rhyw fath o ymchwiliad ddim yn canolbwyntio ar roi'r bai arnyn nhw."

'Un hunllef ar ôl y llall'

Yn ôl un ymwelydd i'r safle ble ddarganfuwyd corff Logan, dylai'r tri fod wedi derbyn cosbau llymach.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sonia Newby a Teresa Mason wedi eu syfrdanu yn sgil llofruddiaeth Logan

"I ystyried yr holl drawma wnaethon nhw roi'r bachgen drwyddo, ddyle bod nhw wedi derbyn dedfryd hirach nag hynny," dywedodd Teresa Mason.

"Mae e wedi bod yn un hunllef ar ôl y llall i'r bachgen yna. Mae yna gymaint o blant yn byw yma ac maent wedi bod ag ofn chwarae ar y cae ers i hyn ddigwydd."

"Doedd e byth yn cael chwarae allan hefo gweddill y plant ar y stryd. Roedd e wastad tu fewn."

"Mae e mor ddifrodus, mae gymaint o bobl o gwmpas yr ardal ag ofn gadael eu plant allan - beth achosodd nhw i wneud hyn i'r bachgen bach."

"Ar gyfer ei ben-blwydd fe wnaethon ni osod balŵns. Gafodd effaith enfawr yma, ac mae nifer o bobl wedi dod o bell i dalu teyrnged - fedrai ddim cael fy mhen o gwmpas be ddigwyddodd y noson honno."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod yn Afon Ogwr ar 31 Gorffennaf 2021

Ychwanegodd Sonia Newby: "Yr holl gleisiau, sut wnaeth neb sylwi, ddylai gwasanaethau cymdeithasol wybod, mae'n rhaid bod rhywun yn gwybod rhywbeth.

"Dwi'n credu ddylen nhw osod mainc yma ger yr afon, fel gall bobl eistedd yma a gwenu.

"Nid oedd ganddo fywyd a doedd e ddim yn fachgen bach.

"Yn lle pobl bob tro yn meddwl amdano a'r ffaith cafodd ef ei lofruddio, ac ei fod yn drist - roedd hefyd yn fachgen hapus a ddylen ni drio trysori'r atgofion melys."

'Anafiadau plant sy'n cael eu cam-drin'

Yn ystod yr achos clywodd y rheithgor y byddai gan Logan siawns 80% o oroesi'r anafiadau pe bai wedi ei gludo i'r ysbyty heb oedi, ac y gallai fod wedi cymryd oriau i farw.

Wrth ddedfrydu'r tri, dywedodd Mrs Ustus Jefford eu bod "i gyd yn gyfrifol am farwolaeth Logan" a bod ei farwolaeth yn "drasiedi".

Ychwanegodd bod yr anafiadau a ddioddefodd Logan fel "y math o anafiadau a welwyd mewn plant sy'n cael eu cam-drin".

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr hefyd yn cefnogi galwadau am adolygiad annibynnol, ond fis Mai fe wrthodwyd y syniad gan y Prif Weinidog.

Yn ôl Mark Drakeford, tra'i fod yn cydnabod y "pwysau aruthrol" ar wasanaethau, ychwanegodd: "Ni ddylem symud at ymateb cyffredinol ar gefn un digwyddiad."

Dywedodd ei fod yn meddwl nad oedd hi byth yn "gywir i ruthro i mewn i rywbeth cyffredinol iawn o'r hyn sy'n set benodol iawn o amgylchiadau".

'Heb ddod i delerau'n llwyr â'r peth'

Dywedodd yr Aelod Senedd lleol, Huw Irranca-Davies ar raglen BBC Wales Today y byddai'n cymryd "amser maith" i'r gymuned ddod i delerau gyda marwolaeth Logan.

Disgrifiad o’r llun,

Huw Irranca-Davies: "Gallwn weld pa wersi y gellir eu dysgu, os o gwbl"

"Dydw i ddim yn meddwl eu bod nhw (y gymuned yn Sarn) wedi dod i delerau'n llwyr â'r peth," meddai.

"Rwy'n meddwl bod hyn yn mynd i gymryd amser hir, ac er ein bod wedi cael y dyfarniad heddiw, sy'n adlewyrchu difrifoldeb yr achos yn fy marn i, a'r arswyd a ddangoswyd gan y rheithgor hefyd, ond y gymuned, bydd yn cymryd amser maith iddynt."

Ychwanegodd: "O'r adolygiad, mae angen i ni ddysgu unrhyw wersi sy'n dod ohono.

"Yn cael ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Cwm Taf - bydd yr adroddiad yn mynd iddyn nhw yn gyntaf, yna ymlaen i Lywodraeth Cymru - ond mae'n dod â'r heddlu, yr asiantaethau, y gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaethau plant ynghyd, a gallwn weld pa wersi y gellir eu dysgu, os o gwbl.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod 250 metr o'r fflat yr oedd yn rhannu gyda'i deulu

"Ond, er fy mod i'n meddwl na ddylem ni neidio i gasgliadau, bydd yn mynd drwy, yn drylwyr, pob agwedd o'r achos hwn - eiliadau lle byddai neu y gallai'r plentyn fod wedi cael ei weld, yn ogystal â pha rôl y chwaraeodd y pandemig yn hyn o beth. Wel, os o gwbl.

"Fe fydd yn ei wneud yn iawn ac yn drylwyr, ac rydyn ni eisiau gweld canlyniad hynny, oherwydd os cafodd rhywbeth ei fethu, mae angen i ni wybod ac mae angen i ni ddysgu'r gwersi - ond dyna pam rydyn ni wir angen ymchwiliad trylwyr nawr."

Ystyried argymhellion

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hwn yn achos trasig ac erys ein meddyliau gyda phawb sydd wedi'u heffeithio gan farwolaeth Logan, yn enwedig ei deulu.

"Rydym yn aros am ganfyddiadau arolygiad diweddar o Wasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

"Yn ogystal â chwblhau'r Adolygiad Ymarfer Plant i edrych ar y digwyddiadau cyn marwolaeth Logan. Bydd yr holl ganfyddiadau ac argymhellion yn cael eu hystyried yn ofalus gan Lywodraeth Cymru."