Cwpan y Byd: Teyrngedau i gefnogwr Cymru fu farw yn Qatar

  • Cyhoeddwyd
CefnogwyrFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kevin Davies wedi teithio i Qatar i ddilyn y tîm ond nid oedd wedi mynychu'r gêm yn erbyn Iran

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i gefnogwr Cymru o Sir Benfro fu farw tra'n dilyn y tîm yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Daeth cadarnhad dros y penwythnos y bu farw Kevin Davies, 62, ddydd Gwener.

Roedd wedi teithio i Doha i wylio Cymru gyda'i fab a'i ffrindiau.

Mae BBC Cymru yn deall y credir i Mr Davies farw o achosion naturiol, ac nid oedd wedi mynychu'r gêm yn erbyn Iran.

'Cymro twymgalon, ac un o'r anwylaf'

Dywedodd y canwr a'r gwleidydd Dafydd Iwan ei fod wedi gweld Mr Davies ddiwrnod yn unig cyn ei farwolaeth.

"Trist iawn heddiw o glywed am farwolaeth Kevin. Cymro twymgalon, ac un o'r anwylaf," meddai ar Twitter.

"Cofiaf ei wên am byth, y wên danbaid a welais yma yn Doha ddiwrnod cyn ei farw. Cariad mawr at ei deulu yn eu hiraeth."

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Dafydd Iwan

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Dafydd Iwan

Ychwanegodd y corff hyrwyddo cerddoriaeth, Pyst, fod cyfraniad Mr Davies "i'w fro ac i gerddoriaeth yn aruthrol".

"Tristwch llethol clywed am farwolaeth disymwth Kevin," medden nhw ar Twitter.

"Roedd ei gyfraniad i'w fro ac i gerddoriaeth yn aruthrol ac fe gamodd yn ôl yn ffyddlon i ofalu am Fflach llynedd yn dilyn colli Rich a Wyn.

"Cydymdeimladau dwysaf gyda'i deulu a theulu Fflach."

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 2 gan PYST

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 2 gan PYST

Dywedodd Urdd Gobaith Cymru fod Mr Davies wedi bod yn gwirfoddoli gyda'r mudiad ers peth amser.

"Roedd Kevin Davies yn wirfoddolwr blaenllaw gyda'r Urdd yn Sir Benfro ers degawdau gan weithio'n ddi-flino i gynnig cyfleoedd arbennig yn y Gymraeg i bobl ifanc yr ardal," meddai'r mudiad.

"Mae ein diolch yn fawr iddo. Rydym yn cydymdeimlo gyda'i deulu a'i ffrindiau yn y cyfnod anodd yma."

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 3 gan Urdd Gobaith Cymru

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 3 gan Urdd Gobaith Cymru

Fe roddodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol deyrnged i Mr Davies hefyd, gan ddweud mai ef fu'n arwain y ddarpariaeth yn Sir Benfro nes iddo ymddeol.

"Gyda chalon drom iawn y clywsom yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am farwolaeth Kevin Davies," meddai'r ganolfan mewn datganiad.

"Un o garedigion yr iaith Gymraeg oedd Kevin, a braint oedd cydweithio ag ef wrth iddo arwain y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg yn Sir Benfro tan ei ymddeoliad.

"Elwodd miloedd o ddysgwyr y Gymraeg o'i ddidwylledd a'i ymroddiad.

"Gwnaeth hefyd gyfraniad mawr i waith Urdd Gobaith Cymru dros y blynyddoedd yn ei filltir sgwâr ac yn genedlaethol.

"Rydym yn estyn pob cydymdeimlad at ei deulu a'i ffrindiau."

Paul Corkrey o FSA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n amlwg ei fod yn foi hyfryd ac yn rhywun fydd yn cael ei golli," meddai Paul Corkrey o FSA Cymru

Dywedodd Paul Corkrey o gorff FSA Cymru, sy'n rhoi cymorth i gefnogwyr yn y twrnament, mai'r gobaith yw y bydd modd dychwelyd corff Mr Davies i Gymru ddydd Llun.

"Mae'r mab a'r ffrindiau yn gobeithio hedfan 'nôl heddiw [dydd Sul], ac maen nhw'n obeithiol o hedfan Kevin yn ôl i Gymru yfory," meddai.

"Mae 'na lot o gefnogaeth wedi bod iddyn nhw, felly er eu bod wedi gorfod treulio oriau yn yr orsaf heddlu a'r ysbyty yn sortio pethau - sy'n eithaf arferol - mae pethau wedi cael eu gwthio trwodd yn eithaf sydyn, ac mae'n siŵr fod hynny'n rhannol oherwydd y gefnogaeth gan asiantaethau allanol.

"Ry'n ni wedi gweld cymaint o deyrngedau i Kevin ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'n amlwg ei fod yn foi hyfryd ac yn rhywun fydd yn cael ei golli."

Pynciau cysylltiedig