Joe Allen: 'Gall Bale a Ramsey serennu yn erbyn Lloegr'

  • Cyhoeddwyd
Bale a RamseyFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bale a Ramsey yn gewri ym myd pêl-droed Cymru, ond cafodd y ddau eu beirniadu yn erbyn Iran

Mae chwaraewr canol cae Cymru Joe Allen yn dweud y gall Gareth Bale ac Aaron Ramsey godi eu gêm i herio Lloegr yn eu gêm olaf yng Ngrŵp B nos Fawrth.

Cafodd perfformiadau Bale a Ramsey eu beirniadu yn y golled yn erbyn Iran, sydd wedi gadael Cymru ar waelod y grŵp.

Mae Cymru angen trechu Lloegr i gael unrhyw obaith o sicrhau eu lle yn rownd 16 olaf Cwpan y Byd, a gobeithio fod UDA ac Iran yn cael gêm gyfartal.

Os nad ydy'r gêm honno'n gyfartal, byddai Cymru angen trechu Lloegr o bedair gôl neu fwy.

'Chwaraewyr ar gyfer y gemau mawr'

"Mae'r ddau ohonyn nhw wedi bod, ac yn parhau i fod yn chwaraewyr anhygoel i'n gwlad," meddai Allen ddydd Sul.

"Dydw i ddim yn credu bod unrhyw un arall yn y garfan sydd wedi cyflawni'r hyn maen nhw'n gallu.

"Mae gêm enfawr o'n blaenau, ac maen nhw'n chwaraewyr ar gyfer y gemau mawr.

"Gobeithio, os oes 'na feirniadaeth wedi bod ohonyn nhw, y gallan nhw ateb y beirniaid hynny gyda pherfformiad da."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Nid dyma lle oedden ni'n gobeithio bod gyda dwy gêm wedi'u chwarae," meddai Joe Allen

Mae Bale a Ramsey yn gewri ym myd pêl-droed Cymru.

Bale sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o goliau ac ennill y nifer fwyaf o gapiau i dîm y dynion, ac mae'r mwyafrif yn credu mai ef yw ein chwaraewr gorau erioed.

Dyw Ramsey ddim ymhell tu ôl iddo chwaith, ond yn erbyn Iran roedd y ddau yn siomedig.

'Balchder a siomedigaeth'

Dywedodd Allen hefyd ei fod yn teimlo'n barod i chwarae yn erbyn Lloegr, ag yntau wedi dod ymlaen o'r fainc yn erbyn Iran wedi iddo fod allan gydag anaf ers mis Medi.

"Roedd 'na deimladau cymysg o ran balchder cynrychioli fy ngwlad yng Nghwpan y Byd ond roedd e'n berfformiad ac yn ganlyniad siomedig iawn," meddai.

"Nid dyma lle oedden ni'n gobeithio bod gyda dwy gêm wedi'u chwarae.

"Mae wedi bod yn siomedig oherwydd fe allwn ni gynnig cymaint yn fwy, ac yn bendant bydd rhaid i ni wneud hynny yn y gêm nesaf.

Dyw Cymru heb drechu Lloegr ers 1984, ond "dyw hi ddim yn amhosib" yn ôl Allen.

"Mae hi wastad yn anghyffyrddus pan dyw pethau ddim yn ein dwylo ni... ond tra bod 'na obaith, mae pethau'n syml i ni.

"Rydym am wneud popeth i geisio cael y fuddugoliaeth, ac wedi hynny, pwy â wyr?"