Siwan Lillicrap yn ymddeol o rygbi rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae capten tîm rygbi merched Cymru Siwan Lillicrap wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol

Mae capten tîm rygbi merched Cymru Siwan Lillicrap wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Hi yw capten y tîm ers Tachwedd 2019 ac mae wedi cael 51 o gapiau rhyngwladol.

Roedd hefyd ymhlith y 12 chwaraewr benywaidd cyntaf i gael cytundebau proffesiynol.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru mae hi wedi chwarae rhan allweddol o ran proffesiynoli camp y merched.

Daw ei phenderfyniad wedi i Gymru ddod yn drydydd ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a chyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn Seland Newydd.

'Ddim eisiau rhoi llai na 100% i'r crys'

Dywedodd Lillicrap, sy'n hanu o Abertawe ac wedi troi'n 35 oed fis diwethaf: "Rwy'n llwyr ymwybodol bod gyrfaoedd rygbi ddim yn para am byth a fyddwn i fyth eisiau rhoi llai na 100% i'r crys.

"Mae'n teimlo fel yr adeg cywir i wneud y penderfyniad yma a chamu'n ôl fel chwaraewr rhyngwladol cyn cylch newydd Cwpan Rygbi'r Byd.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Siwan Lillicrap gyda rhai o'i gyd-chwaraewyr ar ddiwedd ymgyrch y Chwe Gwlad eleni

"Mae wedi bod yn benderfyniad anodd achos mae'r crys coch yn golygu gymaint i mi ond yn gorfforol mae'n bendant yn teimlo fel yr adeg cywir.

"Ry'n ni gyd wedi rhoi gymaint i mewn i'r flwyddyn ddiwethaf yn paratoi ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd ac rwy' mor ddiolchgar o fod wedi cael cyfle i wireddu breuddwyd fel athletwr llawn amser am y 10 mis diwethaf."

'Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf'

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham bod Lillicrap yn gadael "ar nodyn uchel".

"Mae hi wedi chwarae rhan anferthol yn ein rhaglen datblygu ac wedi sicrhau bod dyfodol y gêm mewn dwylo da," dywedodd.

"Mae hi'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ac rwy'n siŵr y byddan ni'n cydweithio eto yn y dyfodol."

Gan ganmol ei gwasanaeth fel chwaraewr a chapten, dywedodd Prif Weithredwr URC, Steve Phillips ei bod "wedi arwain y tîm yn rhyfeddol ar ac oddi ar y cae mewn cyfnod o newid anferthol i rygbi merched yng Nghymru".

Bydd hi'n parhau i chwarae yng nghyngrair yr Allianz Premier 15s yn Lloegr i Gloucester-Hartpury.